Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Ym mis Awst 2025, lansiais Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant - Cymorth Lleol Estynedig i'r Sector Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd . Cynllun grant refeniw newydd y bu croeso mawr iddo gan awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau i helpu i feithrin gallu'r sectorau i wireddu uchelgeisiau Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant. Mae'r buddsoddiad mawr ei angen yn darparu'r capasiti sy'n hanfodol i sector sydd wedi bod glir ynghylch y pwysau sydd arno, a'r gefnogaeth sydd ei hangen arno i gyflawni’r blaenoriaethau rydym yn eu rhannu i wireddu'n huchelgeisiau yn y Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant.
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd £1.945m yn cael ei fuddsoddi mewn 15 prosiect ledled Cymru i adfywio gwasanaethau drwy ddarparu adnoddau ychwanegol ac arbenigedd arbenigol fel curaduron, llyfrgellwyr ac archifwyr.
Yn ogystal â gwella mynediad at amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, bydd y prosiectau hyn yn ysgogi arloesedd, annog cydweithredu trwy bartneriaethau rhanbarthol a lleol, digideiddio a gwarchod hanes lleol ac yn defnyddio technoleg a gwaith maes i wella ymgysylltu, dysgu a chyfranogiad ar draws cymunedau.
Mae hyn ar ben yr £11m mewn grantiau cyfalaf sydd eisoes wedi'u dyfarnu dros y 6 mis diwethaf ers lansio'r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant, yn ogystal â mentrau wedi'u targedu sy'n cefnogi mynediad at brofiadau diwylliannol i bobl ifanc.
Mae'r buddsoddiad hwn yn ailddatgan fy nghred nad yw ein hamgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yn ychwanegiadau dewisol ond yn seilwaith dinesig angenrheidiol.
