Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd yr ymosodiad terfysgol syfrdanol ddydd Sul, wrth i bobl ddathlu Hanukkah ar Draeth Bondi yn Sydney, yn ymosodiad ciaidd ar y gwerthoedd hynny sy’n annwyl inni i gyd. Collwyd pymtheg o fywydau diniwed, ac anafwyd llawer mwy ar adeg a ddylai fod wedi bod yn llawn golau, heddwch a dathlu. Mae fy meddyliau gyda'r dioddefwyr, eu teuluoedd, a'r gymuned Iddewig yn Awstralia ac ar draws y byd.

Ni ddylai neb fyth wynebu trais am ymarfer neu ddathlu eu ffydd. Mae'r ymosodiad hwn ar gynulliad cymunedol Iddewig yn ymosodiad ar y rhyddid a'r egwyddorion sy'n sail i gymdeithas ddemocrataidd. Rydym yn condemnio'r weithred hon o gasineb gwrthsemitaidd.

Bydd y newyddion am y digwyddiad enbyd hwn yn destun pryder dwys i gymunedau Iddewig yma yng Nghymru. Yn ystod y dyddiau diwethaf, rwyf wedi siarad ag arweinwyr a chynrychiolwyr ffydd i wrando ar eu pryderon ac ailddatgan ein hymrwymiad i'w diogelwch a'u lles. Ddoe, cyfarfûm ag arweinwyr Iddewig i'w sicrhau o gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru i'r gymuned, a'r ymrwymiad i ofalu nad oes lle i wrthsemitiaeth yng Nghymru, nac yn wir mewn unrhyw gymdeithas. 

Rwy'n cydnabod y bydd yr adroddiadau diweddar am ddau berson ifanc o Gaerdydd, a ymddangosodd yn y llys wedi'u cyhuddo o gynllunio ymosodiad terfysgol yn targedu Mosg a mynwent Iddewig yng Nghaerdydd, hefyd yn cynyddu pryderon cymunedol efallai. Ni allwn wneud sylw ar yr achos penodol hwn, ond rydym yn sefyll yn gadarn gyda'n cymunedau Iddewig a Mwslimaidd, a byddwn yn parhau i herio eithafiaeth a meithrin undod, parch a dealltwriaeth.

Mae Heddluoedd Cymru wedi cynyddu eu presenoldeb o amgylch safleoedd crefyddol, gyda chefnogaeth yr Uned Arfau Tanio ar y Cyd, ac maent yn gweithio'n agos gyda'r Swyddfa Diogelwch Gwrthderfysgaeth Genedlaethol i fonitro tensiynau a thawelu ofnau cymunedau. Mae Gweinidogion hefyd wedi codi'r materion hyn gyda phartneriaid plismona ym Mwrdd Partneriaeth Plismona Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion i fynd i'r afael â bwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn, gan gynnwys gwrthsemitiaeth, drwy ein canllawiau statudol Hawliau, Parch, Cydraddoldeb. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod Cymru'n wlad lle mae amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi a'i diogelu.

Rwy'n pwyso ar bawb i sefyll gyda'n cymunedau crefyddol a'r holl gymunedau y mae casineb yn effeithio arnynt. Ni fydd trais a rhaniadau yn ein diffinio fyth. 

Mae Canolfan Gymorth Casineb Cymru (sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr) yn barod i ddarparu cyngor ac arweiniad cyfrinachol am ddim os ydych chi'n credu eich bod wedi dioddef trosedd gasineb. Mae'r Ganolfan ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn drwy www.reporthate.victimsupport.org.uk/cy, drwy ffonio 0300 3031 982, neu drwy e-bost Hate.CrimeWales@victimsupport.org.uk