Jayne Bryant MS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Heddiw, mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi ei adroddiad gwerthuso peilotau Cofrestru Pleidleiswyr yn Awtomatig a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin, Gwynedd, Casnewydd a Phowys yn gynharach eleni. Defnyddiodd y peilotau paru data lleol i ddod o hyd i etholwyr cymwys ar gyfer y gofrestr llywodraeth leol. Mewn tair ardal, rhoddwyd gwybod i etholwyr am y bwriad i’w cofrestru, ac fe’u hychwanegwyd oni bai eu bod yn dewis peidio â chofrestru o fewn cyfnod penodol. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r awdurdodau hynny am gyd-gynhyrchu a chyflwyno’r peilotau hyn gyda Llywodraeth Cymru.
Mae ein hegwyddorion ar gyfer diwygio etholiadol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2021, yn nodi ein huchelgeisiau i foderneiddio gweinyddiaeth etholiadau er mwyn lleihau rhwystrau i gyfranogiad. Byddai cofrestru awtomatig yn helpu i fynd i’r afael â diffyg cofrestru yng Nghymru, y cam cyntaf i gynnwys mwy o bobl yn ein democratiaeth.
Mae’r gwerthusiad yn amlinellu manteision y dull a brofwyd, gan gynnwys ychwanegu ychydig dros 14,500 o etholwyr newydd a 1,500 o bobl ifanc sy’n cyrraedd oed (14–15 oed a fydd yn cael eu cofrestru unwaith y byddant yn troi’n 16) i’r gofrestr llywodraeth leol.
Mae’r gwerthusiad hefyd yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys:
• amseru’r broses cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig i gyd-fynd â’r canfasiad blynyddol (y gwiriad blynyddol o gywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau etholiadol);
• lleihau hyd y cyfnod 60 diwrnod i optio allan;
• gwella effeithlonrwydd meddalwedd paru data; a
• sicrhau bod Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn cael yr adnoddau priodol i reoli’r broses.
Mae’r gwerthusiad hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried data terfynol o’r canfasiad blynyddol i asesu cywirdeb paru data’r peilotau.
O ystyried llwyddiant y peilotau hyn, byddwn yn gweithio’n agos gyda’r Comisiwn Etholiadol a phartneriaid eraill i ddylunio cyflwyniad diogel ac effeithiol o gofrestu pleidleiswyr yn awtomatig. Bydd hyn yn ystyried yn llawn yr argymhellion o’r gwerthusiad a’r pwysau ar dimau etholiadol dros y flwyddyn i ddod. Y bwriad yw gweithredu cofrestu pleidleiswyr yn awtomatig ar gyfer yr etholiadau lleol yn 2027.
Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, a gyhoeddodd ym mis Gorffennaf eu huchelgais i symud tuag at gofrestru awtomatig. Ein nod yw symud ymlaen i leihau’r diffyg democrataidd yng Nghymru tra’n lleihau gwahaniaethau mewn arferion etholiadol a’r baich y mae hynny’n ei roi ar awdurdodau lleol. Bydd ystyried rhyngweithio prosesau cofrestru a gedwir a’r rhai datganoledig yn rhan allweddol o hynny.
Yn gyffredinol, rwy’n falch iawn o sut y cynhaliwyd y peilotau a’r wybodaeth a’r mewnwelediad gwerthfawr a ddarparwyd ganddynt. Byddaf yn ystyried argymhellion y Comisiwn Etholiadol dros y misoedd nesaf ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid etholiadol i ddatblygu’r model mwyaf effeithiol ar gyfer cyflwyno cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ledled Cymru yn y dyfodol. Byddwn yn hapus i drefnu sesiwn friffio i Aelodau ar cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn y flwyddyn newydd.
