Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf yn nodi'r cyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth y DU ar 15 Rhagfyr ei bod wedi cwblhau trafodaethau ar Gytundeb Masnach Rydd (FTA) gwell rhwng y DU a Gweriniaeth Korea.

Mae'r cytundeb modern hwn yn adeiladu ar y cytundeb parhad presennol sydd gan y DU eisoes gyda Gweriniaeth Korea, gyda darpariaethau newydd i gefnogi masnach a gwasanaethau digidol, wrth gynnig parhad i'n hallforwyr nwyddau.

Mae Gweriniaeth Korea yn bartner masnachu pwysig i Gymru mewn sectorau fel y sector modurol a pheirianneg. Gwerth y nwyddau a fasnachwyd rhwng Gweriniaeth Korea a Chymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025 oedd £597.8m ac roedd mewnforion ac allforion ohonynt yn werth £365.1m a £232.7m yn y drefn honno. Mae hyn yn golygu mai Gweriniaeth Korea yw ein 18fed partner allforio mwyaf a'r 14eg partner mewnforio mwyaf. Gweriniaeth Korea yw 12eg economi fwyaf y byd ac mae'n cynnig cyfleoedd da i fusnesau allforio Cymru mewn sectorau fel gweithgynhyrchu uwch, electroneg, y diwydiannau creadigol, a seiberddiogelwch.

Ymhlith manteision y cytundeb gwell y mae:

  • Parhad a gwelliannau i'r farchnad nwyddau, gan ddiogelu allforion Cymru mewn sectorau fel y sector modurol a bwyd a diod.
  • Gweithdrefnau tollau a phrosesau digidol symlach, a ddylai leihau costau a chynnig proses llai cymhleth i allforwyr Cymru.
  • Gwell darpariaethau ar gyfer mesurau Iechydol a Ffytoiechydol (SPS), gan sicrhau mynediad i allforion bwydydd amaeth Cymru.
  • Pennod Masnach Ddigidol, sy'n galluogi llif data trawsffiniol diogel ac sy'n cefnogi busnesau Cymru yn y sectorau e-fasnach, gwasanaethau ariannol a thechnoleg.
  • Penodau ar gynaliadwyedd gan gynnwys yr amgylchedd a llafur, cydraddoldeb rhywedd, atal llygredigaeth, a chydweithrediad busnesau bach a chanolig (BBaChau), sy'n adlewyrchu gwerthoedd cyffredin ac yn cynnig cyfleoedd cynhwysol i fusnesau Cymru.

Ein barn gychwynnol yw y bydd y cytundeb yn darparu rhai canlyniadau cadarnhaol i allforwyr Cymru sydd am werthu i farchnad Korea gyda darpariaethau gwell mewn rhai meysydd gan gynnwys masnach ddigidol. Gan fod y cytundeb hwn yn adeiladu ar gytundeb presennol, ni fyddwn yn cyhoeddi adroddiad llawn ar Safbwynt Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, bydd crynodeb byr o'n dadansoddiad o'r cytundeb a'i effeithiau posibl ar Gymru yn cael ei gyhoeddi maes o law. 

Mae'r ymgysylltiad rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ystod y trafodaethau hyn wedi bod yn adeiladol ac yn gadarnhaol. Rydym yn croesawu'r dull cydweithredol hwn.