Neidio i'r prif gynnwy

Bydd twnnel Conwy tua'r gorllewin ar gau o'r 10fed tan y 19eg Ionawr ar gyfer gwaith diogelwch ffyrdd hanfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r gwaith yn y twnnel wedi'i drefnu ar adeg pan fo traffig yn draddodiadol ar ei isaf er mwyn gweld llai o darfu.  

Bydd system wrthlif drwy'r twnnel tua'r dwyrain rhwng y dyddiadau hynny, ac mae disgwyl i'r twnnel ailagor yn llawn am 6.30am ar 20fed Ionawr..   

Mae’r gwaith yn cynnwys gosod goleuadau LED a rhwystrau diogelwch Newydd, yn ogystal ag atgyweiriadau i lwybrau gadael sy’n waith arferol er mwyn mynd i’r afael â thraul ac nid yw’n gysylltiedig â’r tân diweddar.

 Tra bod y ffordd ar gau, bydd timau'r gwasanaethau brys hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi ac ymarfer brys gorfodol yn y twnnel.  

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: 

"Mae'r gwaith diogelwch hwn yn hanfodol i sicrhau y gall y twnnel barhau i gael ei ddefnyddio yn y dyfodol. Mae'r ymarferion hyfforddi hefyd yn allweddol i sicrhau bod gan wasanaethau brys yr adnabyddiaeth a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i ymateb rhag ofn argyfwng yn y twnnel.  Gwyddom pa mor hanfodol yw hyn pan welsom pa mor dda yr ymatebodd y gwasanaethau brys i'r tân yn y twnnel yn gynharach eleni.

"Rydyn ni'n gwybod nad yw'r tarfu ar draffig byth yn cael ei groesawu, felly rydyn ni wedi cymryd yr holl fesurau sydd ar gael i leihau oedi drwy'r twnnel - fel amserlennu'r gwaith ar gyfer yr amser tawelaf."  

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1bn mewn trwsio a gwella ffyrdd ledled Cymru ers 2021.