Neidio i'r prif gynnwy

Cytunodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i ailbenodi 2 Aelod i Fwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Enw a sefydliad yr ymgeiswyr llwyddiannus 

  • Ashok Ahir, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru (ailbenodi)
  • Andrew Evans, Is-lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru (ailbenodi) 

Disgrifiad o'r rôl a'r sefydliad

Diben Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw sicrhau y gall pawb ddysgu am ein diwylliant a'n treftadaeth, ymchwilio iddynt a'u mwynhau. Sefydlwyd y Llyfrgell drwy Siartr Frenhinol ar 19 Mawrth 1907.

Fel Corff Hyd Braich Llywodraeth Cymru, mae'r Llyfrgell yn derbyn Cymorth Grant gan Lywodraeth Cymru, gyda chyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau penodol. Mae'r Llyfrgell yn gorff Siarter Brenhinol ac yn elusen annibynnol gofrestredig. Mae ei reolaeth a'i weithrediadau yn cael eu goruchwylio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.

Mae'r Llyfrgell yn tanysgrifio i bolisïau a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac mae'n integreiddio ei gwaith i gefnogi pob un o'r saith nod llesiant yn ogystal â phum elfen lywodraethu'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy.

Rôl y bwrdd yw:

  • darparu arweinyddiaeth effeithiol; diffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion heriol
  • hyrwyddo safonau uchel o gyllid cyhoeddus, gan gynnal egwyddorion rheoleiddrwydd, priodoldeb a gwerth am arian
  • sicrhau bod gweithgareddau y Llyfrgell yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol
  • monitro perfformiad er mwyn sicrhau bod y Llyfrgell yn cyflawni ei nodau, ei amcanion a'i thargedau perfformiad yn llawn.

Math neu estyniad apwyntiad    

Cytunodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i ailbenodi 2 Aelod i Fwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae Ashok Ahir wedi'i ailbenodi yn Llywydd o 1 Ebrill 2026 tan 17 Medi 2029. 

Mae Andrew Evans wedi ailbenodi yn Is-lywydd o 1 Ebrill 2026 tan 31 Mawrth 2030.

Nid yw Aelodau Bwrdd y Llyfrgell yn gyflogeion i'r corff na Llywodraeth Cymru a dim ond y Llywydd sy'n rôl â thâl.

Gwnaed y penodiad hwn yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.

Gweithgaredd gwleidyddol: Dim

Mae pob penodiad yn cael ei wneud ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae rhan yn y broses ddethol.