Pa reolau asesiad effaith amgylcheddol sydd yn gymwys i brosiectau ar dir, yn y môr, neu'r ddau.
Cynnwys
Cyflwyniad
Gall prosiect seilwaith arwyddocaol fod yn ddarostyngedig i'r broses Asesu Effaith Amgylcheddol (AEA).
Amlinellir y gofynion yn:
- Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007
- Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017.
Mae'r rheoliadau hyn wedi cael eu diwygio gan Rheoliadau Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (Darpariaethau Canlyniadol, Darpariaeth Drosiannol, Darpariaeth Ddirymu a Darpariaeth Arbed) 2025 fel eu bod yn gymwys i'r gyfundrefn newydd.
Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys cymhwyso'r ddwy set o reoliadau i brosiectau seilwaith arwyddocaol.
Cymhwyso ar y tir neu ar y môr
Mae'r broses ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol yn cymhwyso dwy set o reoliadau sy'n cynnwys dwy ardal. Mae Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effaith Amgylcheddol) 2007 yn gymwys yn y môr tiriogaethol ac mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru) 2017 yn gymwys ar y tir. Pan fydd prosiect wedi'i gyfyngu i un ardal, dylid dilyn y rheoliadau perthnasol.
Bydd cwmpas y prosiect at ddibenion AEA yn nodi'r rheoliadau sy'n berthnasol. Gall yr amgylchedd y mae'n debygol y bydd y datblygiad yn effeithio arno'n sylweddol estyn y tu hwnt i ardal ddaearyddol y rheoliadau. Dylid ymdrin â'r effeithiau hyn yn y datganiad amgylcheddol.
Cymhwyso ar y tir a'r môr
Gall cwmpas y prosiect estyn y tu hwnt i un ardal. Pan fydd hyn yn digwydd, y bwriad yw cymhwyso Rheoliad 10 o Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effaith Amgylcheddol) 2007. Mae'r Rheoliad hwn yn galluogi Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru) 2017 i gynnwys cwmpas cyfan prosiect, gan gynnwys y rhan o'r prosiect sy'n estyn i'r môr tiriogaethol.
Bydd PEDW (Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru) yn nodi ei fod yn defnyddio'r ddarpariaeth hon fel ei bod yn glir bod y prosesau a nodir yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru) 2017 yn cael eu dilyn ar gyfer cais. Bydd hyn yn darparu sicrwydd i'r holl randdeiliaid. Bydd angen i'r asesiad gynnwys cwmpas llawn y prosiect a'r amgylchedd y mae'n debygol y bydd y datblygiad yn effeithio arno'n sylweddol.
Pan nad yw'r datganiad amgylcheddol yn darparu ar gyfer cwmpas llawn y prosiect, nid yw Rheoliad 10 yn berthnasol. Byddai hyn yn golygu y byddai'r ddwy set o reoliadau AEA yn berthnasol. Byddai hyn yn golygu y byddai'r gweithdrefnau yn y ddau reoliad yn berthnasol i'r datblygiad.
Cynghorir ymgeiswyr i ymgysylltu'n gynnar lle y gall prosiect estyn y tu hwnt i un ardal ddaearyddol.
