Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Rwy'n diweddaru'r aelodau yn dilyn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 12 Mai.
Rwyf wedi dyfarnu cyllid i Brifysgol Aberystwyth i archwilio'r pum llwybr i ddatganoli pwerau darlledu a nodir yn adroddiad y Panel Arbenigwyr ar Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol Cymru, 'Dyfodol newydd ar gyfer darlledu a chyfathrebu yng Nghymru'. Bydd y prosiect yn casglu rhagor o dystiolaeth , trwy ymchwil desg a chyfweliadau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, fel yr argymhellwyd gan y Panel Arbenigol, ar bob llwybr. Bydd y cyllid yn cryfhau ymwneud Cymru â phrosiect 'Polisi Darlledu mewn DU Datganoledig' Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ledled y DU dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, er mwyn sicrhau ffocws mwy manwl ar anghenion ac i nodi opsiynau ar gyfer cryfhau'r fframwaith darlledu yng Nghymru, sy'n cyd-fynd â chanfyddiadau'r Panel Arbenigol.
Roedd y Datganiad Ysgrifenedig ar 12 Mai yn cydnabod bod newyddion cywir a dibynadwy ar draws pob sianel yn hanfodol i sicrhau cyfryngau cryf. Rwyf wedi cwrdd â Gweithgor Newyddiaduraeth Budd y Cyhoedd Cymru i drafod ein blaenoriaethau ar y cyd. Mae gan y Gweithgor bellach gylch gorchwyl newydd ac mae'n parhau i gyfarfod i drafod a chynghori ar faterion yn ymwneud â newyddiaduraeth. Mae'r £350,000 yng nghyllideb Cymru Greadigol ar gyfer newyddiaduraeth yn 2025-26 bellach wedi'i ddyrannu'n llawn. Mae'r cyllid hwn yn cefnogi wyth prosiect drwy Gronfa Newyddiaduraeth er Budd y Cyhoedd Cymru Greadigol, cronfa gystadleuol ar gyfer cynigion prosiectau sy'n cyflawni'n uniongyrchol yn erbyn yr argymhellion a nodir yn O Gymru ac i Gymru: tuag at ddyfodol cynaliadwy ar gyfer newyddiaduraeth er budd y cyhoedd. Yn ogystal, mae deg cyhoeddiad unigol yn cael eu cefnogi drwy gynnig cefnogaeth hyd braich i PING! Newyddion Cronfa Newyddiaduraeth CIC. Bydd y Gronfa, sydd wedi'i hanelu at gyhoeddiadau sy'n ymroddedig i wasanaethu cymunedau Cymraeg yn y Gymraeg a'r Saesneg ledled Cymru, yn talu am amser newyddiadurol i roi sylw i straeon newyddion lleol, cynhyrchu a thwf cynnwys clyweledol ac amlgyfrwng newydd a phresennol i helpu i ysgogi ymgysylltu â chynulleidfaoedd a chynorthwyo i gyflogi gweithwyr llawrydd a chynyddu galluoedd newyddiaduraeth symudol. Bydd y Gronfa hon hefyd yn dyrannu cyllid i'r Caerphilly Observer ar gyfer gohebydd o'r Senedd, er mwyn parhau i ddarparu newyddion am fusnes y Senedd. Bydd y cynnwys a gynhyrchir gan ohebydd y Senedd yn parhau i fod yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio gan gyhoeddwyr newyddion cymwys ledled Cymru.
Trwy gyflawni ymrwymiadau darlledu a’r cyfryngau yn ein Rhaglen Lywodraethu, mae'r dyraniadau hyn yn adlewyrchu fy ymrwymiad parhaus i gefnogi fframwaith darlledu a chyfathrebu cryfach ar gyfer Cymru.
