Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y mis hwn rydym wedi lansio cynllun peilot newydd, sy'n darparu grantiau bach i'r rhai sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddigartrefedd. Rydym yn gweithio gyda sefydliad o'r trydydd sector, Greater Change, i dreialu dull gweithredu yng Nghymru sy'n defnyddio arian cyfatebol dyngarol i brofi a yw ymyriad hyblyg ac ymatebol, heb amodau, a ddarperir gan y trydydd sector yn cael effaith gadarnhaol o ran lleihau digartrefedd.

Gan fod tai addas yn hanfodol i atal aildroseddu, bydd y cynllun peilot yn canolbwyntio ar bobl sy'n gadael y carchar a'r rhai ar brawf sy'n ddigartref neu mewn perygl o ddigartrefedd. Bydd y cynllun peilot yn dechrau yng Ngogledd Cymru ond efallai y bydd yn cael ei ehangu i ardaloedd eraill, yn dibynnu ar faint sy'n cymryd rhan a sut mae'r cynllun yn mynd rhagddo. Rydym am sicrhau bod pobl yn y system cyfiawnder troseddol yn gallu cael mynediad at gyllid pwrpasol yn gyflym, i'w helpu i sicrhau cartrefi cynaliadwy a sefydlog.

Rydym yn darparu £50k yn 2025/26 a £100k yn 2026/27 ar gyfer y fenter hon, a bydd Greater Change yn darparu arian cyfatebol o'u gweithgareddau codi arian. 

Byddwn yn comisiynu adolygiad annibynnol o'r cynllun peilot i asesu'r canlyniadau.