Sut y gellir caffael tir a hawliau ar gyfer seilwaith mawr yng Nghymru.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae'r canllawiau hyn yn esbonio:
- sut y gellir caffael tir neu hawliau dros dir ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol yng Nghymru, a'r
- hyn y mae hyn ei olygu i ymgeiswyr, cymunedau a pherchnogion tir.
Caffael gorfodol
Mae caffael gorfodol yn caniatáu i dir neu hawliau dros dir gael eu sicrhau heb gydsyniad y perchennog. Fe'i defnyddir fel arfer ar gyfer prosiectau sydd o fudd i'r cyhoedd. Defnyddir y broses pan nad oes modd cael cytundeb gan y perchennog. Mae'n sicrhau tegwch, gan gynnwys hawliau i bartïon yr effeithir arnynt wrthwynebu, ceisio iawndal, a herio penderfyniadau.
Pam mae angen caffael gorfodol yn y broses gydsynio ar gyfer seilwaith
Gellir defnyddio caffael gorfodol i sicrhau tir neu hawliau sydd eu hangen ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol. Mae hyn yn galluogi'r prosiect i fynd rhagddo.
Y broses ar gyfer cais caffael gorfodol
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ceisiadau caffael gorfodol ar bob cam o'r broses gydsynio ar gyfer seilwaith. Mae hyn yn cynnwys o ymgynghoriad cyn ymgeisio ar y cynigion cychwynnol hyd at wneud penderfyniadau. Mae gofynion manwl wedi'u nodi yn Neddf Seilwaith (Cymru) 2024 a Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Caffael Gorfodol) (Cymru) 2025.
Mae pwyntiau allweddol ar y broses wedi'u nodi isod:
Cyn gwneud cais
Cyn gwneud cais am gaffael gorfodol, dylai ymgeiswyr geisio caffael tir trwy drafod telerau. Dim ond os na ellir dod i gytundeb y dylid ceisio caffael gorfodol.
Y cam cyn ymgeisio
Yn y cam cyn ymgeisio, rhaid i ddarpar ymgeiswyr ymgynghori â'r holl fuddiannau tir yr effeithir arnynt ar gais arfaethedig am gydsyniad seilwaith sy'n cynnwys cais caffael gorfodol. Buddiannau tir yr effeithir arnynt yn yr achos hwn fyddai:
- perchennog, lesddeiliad, tenant neu feddiannydd y tir; neu
- berson a chanddo fuddiant yn y tir, neu sydd â’r pŵer i werthu, trawsgludo neu ryddhau’r tir.
Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd wneud pob ymdrech resymol i ddarganfod pwy sydd â buddiant yn y tir sy'n gysylltiedig â'r caffaeliad gorfodol arfaethedig. Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r cais a'r cais caffael gorfodol i'r holl bartïon a nodwyd. Dylai'r adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn ymgeisio hefyd gynnwys manylion ymgynghori â buddiannau tir ar y cam hwnnw.
Y cam ymgeisio
Yn y cam ymgeisio, rhaid i ymgeiswyr gyflwyno'r wybodaeth ofynnol i Weinidogion Cymru i sicrhau y gellir ystyried y cais caffael gorfodol yn briodol. Ar y cam hwn, bydd PEDW yn ymgynghori ar y cais â buddiannau tir yr effeithir arnynt.
Y dogfennau sy'n ofynnol i ystyried cais caffael gorfodol
Cyfeirlyfr. Mae hon yn ddogfen sy'n cynnwys manylion yr holl fuddiannau tir i'r cais caffael gorfodol. Diben y cyfeirlyfr yw sicrhau bod yr holl fuddiannau hynny'n cael eu hysbysu'n briodol ac yr ymgynghorir â hwy ar y cynnig.
- Datganiad o'r rhesymau. Rhaid i'r ddogfen hon gyfiawnhau'r caffaeliad gorfodol a geisir ac esbonio pam mae achos cymhellol er budd y cyhoedd drosto.
- Datganiad cyllid. Rhaid i'r ddogfen hon esbonio sut y bydd y caffaeliad gorfodol arfaethedig yn cael ei ariannu.
- Plan. Rhaid i'r plan ddangos y tir arfaethedig i'w gaffael yn orfodol, unrhyw dir i'w gaffael ond a eithrir o'r ardal ddatblygu ac unrhyw dir a ddarperir fel tir cyfnewid i'r datblygiad arfaethedig.
- Dogfen groesgyfeirio. Rhaid i'r ddogfen hon groesgyfeirio sylwadau a ddaeth i law ar y cynnig gan bobl sydd â buddiant yn y tir â'r bobl a restrir yn y cyfeirlyfr. Mae hyn er mwyn sicrhau yr ymgynghorir yn gywir â'r holl unigolion sydd â buddiannau mewn tir y gallai caffael gorfodol effeithio arnynt ac y cânt yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt y cynllun.
Y cam archwilio
Yn ystod y cam archwilio, bydd testun y caffael gorfodol fel arfer yn cael ei drafod mewn gwrandawiad neu ymchwiliad. Gall yr awdurdod archwilio gynnal cyfarfod i drafod y dull ar gyfer archwilio'r caffaeliad gorfodol. Bydd yr amserlen ar gyfer yr archwiliad yn nodi manylion unrhyw ddigwyddiadau neu amserlenni ar gyfer materion eraill sy'n ymwneud â'r caffaeliad gorfodol arfaethedig.
Mae'r broses yn caniatáu i'r ymgeisydd wneud cais am gaffael tir ychwanegol yn orfodol nad oedd wedi'i nodi i ddechrau gan yr ymgeisydd. Gallai'r tir ychwanegol hwn fod wedi cael ei nodi oherwydd trafodaethau ar y cynllun. Bydd yr ymgeisydd yn ymgynghori â'r rhai sydd â buddiant cyn cyflwyno cais. Rhaid i'r ymgeisydd gyfiawnhau ei gais amrywio fel rhan o'i gyflwyniad i Weinidogion Cymru, gan gynnwys y rhesymau drosto, pam nad oedd modd ei wneud yn gynharach a sut y gellir ei archwilio yn ystod yr amserlen ar gyfer penderfynu ar y cais.
Gellir adnabod pobl sydd â buddiant yn y tir sy'n destun caffael gorfodol nad oeddent wedi'u nodi i ddechrau yn ddiweddarach yn ystod y broses. Gelwir y rhain yn fuddiannau tir ychwanegol. Rhaid i'r ymgeisydd ymgynghori â'r buddiannau tir ychwanegol am gyfnod o 28 diwrnod a diweddaru'r dogfennau a gyflwynwyd gyda'r cais.
Penderfyniad gan Weinidogion Cymru
Gweinidogion Cymru sy'n gwneud y penderfyniad terfynol ar gynnwys y caffaeliad gorfodol fel rhan o gydsyniad seilwaith. Bydd Gweinidogion Cymru ddim ond yn cytuno i'r caffaeliad gorfodol:
- os yw'n ofynnol ar gyfer y datblygiad seilwaith; neu
- os yw'n hwyluso'r datblygiad neu'n gysylltiedig ag ef; neu
- os yw'n dir cyfnewid a roddir yn gyfnewid am dir a gynhwysir fel rhan o'r cydsyniad; ac
- ym mhob achos, rhaid bod achos cymhellol er budd y cyhoedd dros y caffaeliad gorfodol.
Ar ôl y penderfyniad
Unwaith y bydd penderfyniad ar gaffaeliad gorfodol wedi'i wneud, bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o'u penderfyniad a'r rhesymau drosto. Os caiff ei gymeradwyo, bydd yn ofynnol i'r person neu’r bobl sy'n caffael y tir sicrhau bod y caffaeliad gorfodol yn digwydd. Mae hyn yn cynnwys rhoi hysbysiad i berchnogion y tir o'r caffaeliad gorfodol a chynnwys datganiad declarasiwn breinio cyffredinol yn yr hysbysiad hwnnw.
