Neidio i'r prif gynnwy

Gyda chymorth y Gwasanaeth Ynni, disodlodd Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru systemau gwresogi nwy hen gyda thechnolegau carbon isel.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Yn 2025, cychwynnodd Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenafon, Torfaen, ar brosiect datgarboneiddio mawr gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Ynni. Roedd y fenter yn canolbwyntio ar ddefnyddio technolegau carbon isel yn lle hen systemau gwresogi nwy a gwella inswleiddio adeiladau ar draws y safle treftadaeth. Mae’r prosiect hwn yn rhan o ymrwymiad ehangach i leihau allyriadau mewn adeiladau rhestredig a chadw eu cymeriad hanesyddol ar yr un pryd, gan gefnogi uchelgais Cymru ar gyfer sector cyhoeddus Sero Net.

Y cymorth a roddwyd gennym

Rhoddodd y Gwasanaeth Ynni gyngor arbenigol a chymorth i helpu Big Pit i sicrhau Grant Gwres Carbon Isel y Sector Cyhoeddus i ariannu’r gwaith o osod pympiau gwres a gwella adeiladwaith adeiladau. Aeth y Gwasanaeth Ynni ati i dywys yr amgueddfa drwy asesiadau o’r effaith ar dreftadaeth, ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig, a chaffael trwy’r Fframwaith Rheoli Galw ac Ynni Adnewyddadwy (DMRF). Bu’r tîm hefyd yn cefnogi gweithgarwch ymgysylltu â Crown Commercial Services ac yn cydlynu â chontractwyr i sicrhau cydymffurfiaeth a gwerth am arian.

Y datrysiad technolegol

  • Gosod pympiau gwres effeithlonrwydd uchel yn lle nifer o foeleri nwy naturiol ar draws mannau allweddol (siop, caffi, gweithdy cadwraeth, ystafell aros, iard, a’r Baddonau Pen Pwll).
  • Uwchraddio adeiladwaith adeiladau, gan gynnwys gwelliannau inswleiddio i’r llofft a rendro calch allanol i wella effeithlonrwydd thermol.
  • Seilwaith gwefru cerbydau trydan ar gyfer fflyd yr amgueddfa.
  • Mesurau diogelu’r dyfodol i sicrhau bod modd integreiddio technolegau ynni adnewyddadwy ychwanegol.

Buddsoddi

  • Sicrhawyd cyllid trwy Grant Gwres Carbon Isel y Sector Cyhoeddus, wedi’i ategu gan adnoddau’r amgueddfa a’r fframwaith caffael.
  • Roedd partneriaid cyflawni yn cynnwys contractwyr lleol, gan sicrhau manteision economaidd lleol ac arbenigedd technegol cadarn.

Effaith

  • Gostyngiad sylweddol mewn allyriadau carbon ar draws ystad yr amgueddfa.
  • Gwell perfformiad thermol heb beryglu cymeriad hanesyddol adeiladau treftadaeth.
  • Creu swyddi lleol trwy waith adeiladu a gosod arbenigol.
  • Model y gellir ei ailddefnyddio ar gyfer datgarboneiddio adeiladau rhestredig yng Nghymru.

Yn sicr, mae’r adeiladau, yr eitemau yn y casgliad a’r profiad ymdrochol rydyn ni’n eu darparu yn Big Pit yn apelio at y cyhoedd. Yn y gorffennol, mae glo wedi cael ei gynhyrchu ar y safle hwn ar raddfa ddiwydiannol ond nawr rydyn ni’n edrych ar ddyfodol lle bydd y pŵer a’r gwres i gyd yn cael eu cyflenwi drwy dechnoleg ynni adnewyddadwy yn unig.

Brian Lewis, Pennaeth yr Amgueddfa, Amgueddfa Cymru