Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw grynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar ein diwygiadau arfaethedig i 'Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar Gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru'. Gofynnodd yr ymgynghoriad am farn ar ddiwygiadau i'r Cod sy'n darparu canllawiau ar sut i gydymffurfio â'r rheoliadau ailgylchu yn y gweithle, gan adlewyrchu diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023.
Mae Rheoliadau 2023, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2024 fel rhan o'r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle, yn rhan hanfodol o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr argyfwng hinsawdd a natur. Trwy ddargyfeirio deunyddiau ailgylchadwy gwerthfawr o safleoedd tirlenwi a llosgi a'u casglu a'u dychwelyd i'r economi yn lle hynny, rydym wedi gosod sylfeini ar gyfer economi gryfach a gwyrddach, fel yr ymrwymwyd iddi yn ein Rhaglen Lywodraethu.
Fel y cyfeiriais ato yn fy natganiad blaenorol ar 31 Gorffennaf, mae'r diwygiadau arfaethedig i'r Cod yn gweithredu'r ymrwymiad yr ymgynghorwyd arno eisoes i gyflwyno gofyniad i weithleoedd gyflwyno cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) ar wahân i'w gasglu a'i ailgylchu o 6 Ebrill 2026. Ar hyn o bryd, dim ond sWEEE heb eu gwerthu y mae'n ofynnol i weithleoedd ei wahanu. Cynigiwyd mân ddiweddariadau eraill i'r Cod o fewn cwmpas y polisi gwreiddiol hefyd sy'n adlewyrchu'r esemptiad arfaethedigar gyfer ysbytai o'r gofynion gwahanu gwastraff ac i wneud gwelliannau yn dilyn adborth ers i'r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle ddechrau ym mis Ebrill 2024.
Roedd yr ymgynghoriad yn fyw rhwng 31 Gorffennaf a 22 Hydref eleni a chyflwynwyd 41 o ymatebion. O'r rheini, daeth y nifer fwyaf o ymatebion gan fusnesau (34%) a gan wasanaethau casglu gwastraff awdurdodau lleol (20%). Cafwyd llai o ymatebion gan gwmnïau rheoli gwastraff neu sefydliadau trydydd sector. Dywedodd 74% o bobl eu bod yn byw yng Nghymru ac roedd gan 68% fuddiannau busnes yng Nghymru.
Cefnogodd y mwyafrif o'r ymatebwyr a fynegodd farn yr holl ddiwygiadau arfaethedig i'r Cod a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad. Felly, nid wyf yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau sylweddol pellach i'r Cod y tu hwnt i'r diweddariadau hynny a gynigir.
Er nad oeddent wedi'u cynnwys o fewn cwmpas yr ymgynghoriad, rhoddodd sawl ymatebydd sylwadau ynglŷn â Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 a'r canllawiau cysylltiedig presennol. Ar ôl i'r Cod ddarparu dolen i'r canllawiau presennol, mynegwyd pryderon y gallai rhai gweithleoedd gael trafferth asesu a yw eu gwastraff yn beryglus ai peidio. Mewn ymateb, rydym wedi ymgysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi ymrwymo i ddiweddaru cynnwys eu gwefan i ddarparu cyngor ychwanegol ar asesu gwastraff i benderfynu a yw'n beryglus ai peidio er mwyn cynorthwyo cydymffurfio â Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 ac atal niwed amgylcheddol.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, rwy'n bwriadu cyflwyno'r Cod diwygiedig a'r offeryn statudol i ddiwygio Rheoliadau 2023 yn gynnar yn 2026.
Disgwylir i'r diwygiad hwn leihau cyfwerth â 7,400 tunnell o CO2 a chynyddu nifer yr eitemau trydanol bach a ailgylchir i tua 38,000 tunnell dros 10 mlynedd. Mae casglu sWEEE ar wahân yn creu'r cyfle i adnoddau gwerthfawr gael eu hadfer o'r llif gwastraff hwn a fyddai fel arall yn cael eu colli. Trwy gasglu adnoddau y gellir eu defnyddio gan weithgynhyrchwyr yn lle deunyddiau crai newydd, mae hefyd yn golygu ein bod yn defnyddio llai o adnoddau'r ddaear. Casglu'r adnoddau hynny yw un o'r prif resymau am yr argyfwng ym mioamrywiaeth y byd.
Yn ogystal â manteision amgylcheddol, bydd y polisi yn dod â manteision economaidd sy'n cefnogi ein hymgyrch am dwf gwyrdd, disgwylir y bydd yn arwain at greu 91 o swyddi newydd yn y sector rheoli gwastraff. Mantais bwysig arall yw bod disgwyl iddo ostwng nifer y tanau gwastraff a achosir gan fatris ïonau lithiwm a geir mewn llawer o eitemau trydanol bach, mae tanau o'r fath eisoes wedi effeithio ar ein seilwaith yng Nghymru.
Y gofyniad sWEEE yw cam diweddaraf ein diwygiadau llwyddiannus i ailgylchu yn y gweithle. Disgwylir iddynt ddarparu budd net cronnol o £194.6M o Werth Presennol Net dros 10 mlynedd. Bydd y cam nesaf yn gweld gofynion ar gyfer tecstilau a ffilm blastig yn cael eu cyflwyno'n raddol erbyn mis Ebrill 2027.
Mae Cymru eisoes yn 2il yn y byd ar gyfer ailgylchu a thrwy weithredu cam nesaf y diwygiadau ailgylchu yn y gweithle, byddwn yn cymryd cam pwysig arall. Bydd hyn yn golygu bod mwy o ddeunyddiau ailgylchadwy yn cael eu casglu a bydd yn ei gwneud yn bosibl i hyd yn oed mwy o ddeunyddiau ailgylchu o ansawdd uchel gael eu casglu fel y gellir eu defnyddio gan weithgynhyrchwyr Cymru, gan ddatgloi manteision yr economi gylchol a gwneud cam sylweddol arall tuag at Gymru sero net.
