Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Mae'n bleser gen i roi'r diweddaraf i'r Aelodau am y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE), menter strategol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2021 i ysgogi datblygu'r economi yn y De-orllewin. Mae GCRE wedi'i lleoli ar hen safle glo brig Nant Helen ac yn cael ei datblygu fel cyfleuster unigryw, pwrpasol o safon ryngwladol ar gyfer ymchwil, profi ac arloesi trenau.
Nod GCRE yw harneisio'r symudiad at sero net i sicrhau mantais economaidd i Gymru. Trwy greu seilwaith sydd ei angen ar y diwydiant rheilffyrdd byd-eang, bydd y prosiect yn cyfrannu at ddatblygu clwstwr technoleg rheilffyrdd o ansawdd uchel fydd yn creu swyddi gwyrdd newydd, sbarduno twf trwy arloesedd a denu buddsoddiad mewn meysydd allweddol fel ynni ac ymchwil a datblygu.
Gwta pymtheg milltir o Bort Talbot, mae GCRE yn gyfle sylweddol i roi hwb i ymdrechion Llywodraeth Cymru i adeiladu sylfaen economaidd fwy cynaliadwy ac amrywiol yn y De-orllewin ac rwy'n falch iddi gael llawer o sylw yn yr Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru yn gynharach y mis hwn.
Mae'r momentwm masnachol y tu ôl i GCRE yn parhau i dyfu, gyda mwy na 200 o gwmnïau yn dweud eu bod am ddefnyddio'r ganolfan wedi iddi gael ei hadeiladu, gyda phartneriaethau strategol eisoes wedi'u ffurfio gyda Hitachi, CAF, Thales, Network Rail a Trafnidiaeth Cymru. Mae pedair cenhadaeth yn sail i ddatblygiad GCRE, bob un yn ategu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Dyma nhw: Ailadeiladu Ffyniant Lleol; Gwella Trafnidiaeth; Datblygu Rheilffordd Sero Net ac Adfywio Lle Anhygoel.
Mae GCRE yn ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu 2021 ac yn adeiladu'n naturiol ar strategaeth seilwaith ehangach Llywodraeth Cymru. Bydd y gwaith deuoli diweddar gwerth £2bn ar yr A465, Ffordd Blaenau'r Cymoedd, yn hwb strategol i'r ganolfan. Mae arfarniad economaidd annibynnol gan PWC yn dangos bod gan GCRE y potensial i greu mwy na 1,100 o swyddi yn ei degawd cyntaf, gyda'r potensial i ychwanegu £300m gros i'r economi leol a rhanbarthol a £1.2bn dros ei oes. Dywedodd am bob £1 a gafodd ei wario yn datblygu'r prosiect GCRE, bydd £15 yn dychwelyd er budd y gymuned, yr economi a'r diwydiant rheilffyrdd.
Er nad oes yr un partner buddsoddi wedi gallu ymrwymo'r cyllid preifat sydd ei angen eto, yr adborth gan y farchnad yw bod GCRE yn brosiect hyfyw y dylid mynd ag e yn ei flaen. Cynhaliwyd arolwg o'r farchnad dros yr haf a'i gwnaeth yn glir, er mwyn denu buddsoddwyr, bod yn rhaid i'r cwmni roi mwy o sicrwydd ynghylch y costau adeiladu terfynol a hyder ynghylch hyfywedd unrhyw fuddsoddiad ym mlynyddoedd masnachu cynharaf y busnes.
Bydd angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fynd â'r ddau faen hyn i'r wal.
Rwyf wedi trafod y problemau'n fanwl gyda GCRE a rwyf am weithio gyda'r cwmni i'w helpu i ddenu buddsoddwyr preifat. Fel y dywedais yn fy llythyr at Bwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd ar 21 Hydref, fel llywodraeth rydym yn barod i feddwl sut mae lleihau risgiau'r prosiect GCRE ymhellach, hynny trwy ddarparu rhagor o gyllid cyhoeddus neu drwy roi gwarant er mwyn denu'r cyfalaf preifat sydd ei angen i fynd â'r prosiect yn ei flaen. Er gwaethaf yr heriau, mae Llywodraeth Cymru yn dal i gredu'n gryf yn y prosiect ac yn barod i weithio gyda'r busnes i chwalu'r rhwystrau y mae buddsoddwyr preifat wedi'u nodi
Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i dalu costau cyfalaf gwaith dylunio a datblygu'r 6 mis nesaf, gan baratoi ar gyfer Ymwneud Cynnar gan Gontractiwr (ECI) ym manylion y gwaith dylunio gyda'r nod o bennu’r costau adeiladu.
Hefyd, yr un pryd, mae GCRE yn chwilio am Bartner Canolfan Data ac Ynni (EDCP). Bydd yr EDCP a benodir yn gweithio gyda GCRE i wireddu potensial ynni adnewyddadwy sylweddol y safle a datblygu canolfan ddata fawr ar y safle, ar hyd ymyl y rheilffordd.
Gyda'i gilydd, bydd yr holl linynnau hyn yn caniatáu i Lywodraeth nesaf Cymru ystyried Penderfyniad Buddsoddi Terfynol ar gyfer GCRE yn 2027.
Mae GCRE yn parhau i fod yn flaenoriaeth strategol i Lywodraeth Cymru. Mae’n cynnig y potensial i drawsnewid cymunedau maes glo'r De-orllewin gan wneud Cymru'n arweinydd Ewropeaidd a byd-eang ym myd arloesi'r rheilffyrdd.
Mae GCRE yn enghraifft o'r math o lywodraethu creadigol ac egnïol a all helpu i ddatrys rhai o'r heriau mwyaf hirhoedlog o ran cynhyrchiant a thwf ym maes glo'r De-orllewin a nod y Llywodraeth hon yw sicrhau bod y prosiect yn ei sefyllfa gryfaf bosibl pan ddaw Llywodraeth nesaf Cymru i’w hystyried.
Byddaf yn rhoi rhag o wybodaeth i'r Aelodau wrth i'r gwaith pwysig hwn fynd rhagddo.
