Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd)
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Jane Hutt AS
  • Jeremy Miles AS
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
  • Julie James AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Vikki Howells AS
  • Sarah Murphy AS
  • Jack Sargeant AS

Ymddiheuriadau

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS
  • Rebecca Evans AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog a Chyflawni
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
  • Luke Young, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tal Michael, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Carwyn Wycherley, Swyddfa'r Cabinet
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
  • Jacqueline Totterdell, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Strategaeth
  • Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Alex Walters, Dirprwy Gyfarwyddwr Trafnidiaeth Gyhoeddus ac Integredig (eitem 1)
  • Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol (eitem 5)
  • Janine Pepworth, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Digidol, y Gweithlu a Newid (eitem 5)

Allanol

  • James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru (eitem 1)
  • Sam Hadley, Trafnidiaeth Cymru (eitem 1)
  • Rob Holmes, Trafnidiaeth Cymru (eitem 1)

Eitem 1: Cyflwyniad gan Drafnidiaeth Cymru

1.1 Croesawodd y Dirprwy Brif Weinidog gynrychiolwyr o Drafnidiaeth Cymru i gyfarfod y Cabinet, gan wahodd y Prif Weithredwr, James Price, i wneud cyflwyniad ar Drafnidiaeth Well i Gymru.

1.2 Dechreuodd Mr Price drwy amlinellu'r achos dros Metro De Cymru. Roedd y Llywodraeth wedi cydnabod yn flaenorol fod trafnidiaeth gyhoeddus well yn allweddol i drawsnewid bywydau, ac ar yr un pryd byddai'n darparu cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd i rai o gymunedau mwyaf difreintiedig Ewrop.

1.3 O ran amserlen digwyddiadau, roedd Llywodraeth y DU ar y pryd wedi rhoi cyllid i Network Rail ar gyfer trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd fel rhan o'i raglen reilffyrdd ehangach, ond roedd yr adnoddau a ddarparwyd yn gyfyngedig ac roedd problemau o ran cyflawni. Yn dilyn hyn, yn 2011 cyhoeddodd yr Athro Mark Barry Metro i Gymru – catalydd allweddol ar gyfer newid.

1.4 Crëwyd cwmni Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn 2015, ac wedyn fe gafodd yr enw ei newid i Trafnidiaeth Cymru yn 2016, gyda Llinellau Craidd y Cymoedd yn trosglwyddo o Network Rail yn 2020. Ers hynny, roedd gwaith wedi dechrau'n swyddogol i wireddu'r cynlluniau ar gyfer Metro, gyda'r llinell gyntaf yn cael ei thrydaneiddio a'r trên newydd cyntaf yn 2023. Cyflwynwyd y trên tri-modd yn 2024, a chafodd llinell Rhymni ei thrydaneiddio'r flwyddyn ganlynol. Roedd disgwyl i'r holl drydaneiddio gael ei gwblhau yn ystod 2026, gyda'r gwelliannau i Orsaf Heol y Frenhines Caerdydd, a'r amserlenni gwell o ganlyniad, yn cael eu cyflawni yn 2027.

1.5 Roedd y gwaith trydaneiddio, gan ddefnyddio technoleg arloesol dan arweiniad y DU, a oedd wedi arwain at ostyngiad carbon corfforedig o 50%, a gostyngiad yn y gost o 37%, wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol gan wledydd fel De Affrica, Awstralia, Canada, a Sbaen.

1.6 Roedd teithwyr wedi gweld gwelliannau i'r gwasanaeth, ac roedd cyflwyno 'talu wrth fynd' wedi cynnig tocynnau mwy fforddiadwy a chyfleus. Gwelwyd gwelliannau mewn refeniw rheilffyrdd, a chynnydd yn nifer y teithwyr.

1.7 O ran bysiau, roedd dadreoleiddio wedi arwain at rwydweithiau'n cael eu cynllunio'n annibynnol a strwythurau prisiau anghyson, sefyllfa a oedd yn cael ei gyrru gan elw yn hytrach nag angen cymunedol. Roedd hyn yn cystadlu â gwasanaethau rheilffyrdd, ac ni fu unrhyw fuddsoddiad sylweddol mewn cerbydau. Roedd datblygiad gwasanaeth Traws wedi dangos yr hyn y gellid ei gyflawni trwy fasnachfreinio, gyda buddsoddiad mewn bysiau gwell, brand cyson, ac integreiddio â gwasanaethau rheilffyrdd. Roedd hyn wedi arwain at gynnydd o 45% yn nifer y teithwyr.

1.8 Ar ôl i'r Bil Bysiau gael ei gyflawni, gellid ehangu'r gwelliannau hyn ledled Cymru, gan arwain at wasanaethau cydgysylltiedig, wedi'u hintegreiddio'n llawn â rheilffyrdd, a fflyd wedi'i datgarboneiddio. Byddai hyn yn darparu un rhwydwaith i deithwyr, un amserlen, ac un tîm cyflawni.

1.9 Amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru y cynnydd a wnaed gyda Metro De-orllewin Cymru a Rhwydwaith Gogledd Cymru, ac yn benodol y cyfleuster turn awtomatig newydd yng Nghaergybi.

1.10 Croesawodd y Cabinet y diweddariad.

1.11 Roedd cysylltedd, mynediad, yn benodol lifftiau sy'n gweithio mewn gorsafoedd, a hefyd ddiogelwch, yn bwysig i bob grŵp lleiafrifol ac agored i niwed. O ran diogelwch, yn enwedig yn dilyn y digwyddiad ar drên LNER Llundain ar y penwythnos, nodwyd bod gyrwyr a gwarchodwyr ar bob gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru. Byddai uwchgynhadledd diogelwch trafnidiaeth yn cael ei chynnal ddiwedd y mis.

1.12 Diolchodd y Dirprwy Brif Weinidog, ar ran y Cabinet, i James Price am ei gyflwyniad, gan gofnodi ei ddiolch i holl staff Trafnidiaeth Cymru, Network Rail, a'r Heddlu Trafnidiaeth.

Eitem 2: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

2.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 20 Hydref 2025.

Eitem 3: Eitemau'r Dirprwy Brif Weinidog

Cyfarfod y Cabinet ym Merthyr Tudful

3.1 Croesawodd y Dirprwy Brif Weinidog aelodau'r Cabinet i swyddfa Merthyr Tudful, gan ddweud y byddai'n cadeirio cyfarfod ffurfiol y Cabinet yn absenoldeb y Prif Weinidog.

3.2 Nodwyd bod nifer o Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion wedi teithio i Ferthyr Tudful ar y trên. Roedd nifer o ymrwymiadau swyddogol lleol hefyd wedi cael eu cynnal cyn y cyfarfod. Roedd y rhain yn cynnwys ymweliadau â'r cyfleuster Dementia ym Mharc Iechyd Keir Hardie; Adran Gofal mewn Argyfwng Ysbyty'r Tywysog Siarl, lle nodwyd bod targedau o ran amser trosglwyddo'n cael eu bodloni; prosiect tîm llinell gymorth Bwndel Babanod; a phrosiectau adfywio amrywiol ym Merthyr Tudful.

3.3 Yn ogystal â hynny, lansiwyd estyniad y tocyn bws £1 i blant 5-15 oed, ac roedd y Campws Peirianneg Gwerth Uchel yng Ngholeg Gwent yng Nglynebwy wedi'i agor yn swyddogol.

Eitem 4: Busnes y Senedd

4.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 7:45pm ddydd Mawrth a thua 5:55pm ddydd Mercher.

Eitem 5: Deallusrwydd Artiffisial (AI) yng Nghymru

5.1 Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar y Cynllun Deallusrwydd Artiffisial (AI) i Gymru.

5.2 Y weledigaeth oedd harneisio AI i ysgogi twf economaidd cynhwysol, trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn y Gymraeg a'r Saesneg, a rhoi'r sgiliau i bobl allu ffynnu mewn dyfodol wedi'i siapio gan AI. Roedd yn ymwneud ag ail-ddychmygu sut y byddai pobl yn gweithio, ac ar yr un pryd yn gwasanaethu cymunedau, ac ehangu'r economi. Dylai hyn i gyd gael ei lywio gan werthoedd partneriaeth gymdeithasol y Llywodraeth, a'r ymrwymiad i lesiant hirdymor. Roedd angen sicrhau bod AI yn gweithio i bawb yng Nghymru, yn enwedig y rheini sydd wedi'u heithrio'n ddigidol.

5.3 Roedd y Llywodraeth eisoes wedi sefydlu'r Swyddfa ar gyfer AI er mwyn adeiladu gallu mewnol; ffurfio'r Grŵp Cynghori AI Strategol i gryfhau'r ecosystem ar draws sectorau; buddsoddi mewn arloesi o ran gwasanaethau cyhoeddus; ac uwchsgilio'r gweithlu; yn ogystal â datblygu canllawiau moesegol ar gyfer defnyddio AI mewn gweithleoedd sector cyhoeddus trwy bartneriaeth gymdeithasol.

5.4 Yn fwy cyffredinol, roedd AI eisoes yn cael effaith ar gyflawni, o ddarparu diagnosis yn gynt yn y GIG i ddysgu wedi'i deilwra i unigolion mewn ysgolion. Roedd hefyd yn helpu i gynyddu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg, gan gefnogi nodau Cymraeg 2050. Roedd Cynllun AI i Gymru yn fframwaith strategol a oedd wedi dod â'r holl weithgareddau hyn at ei gilydd, tra'n rhoi Cymru yn y sefyllfa i arwain yn y defnydd cyfrifol o AI.

5.5 Roedd wedi'i ddatblygu'n gyflym ac mewn cydweithrediad ar draws y Llywodraeth, y Grŵp Cynghori AI Strategol, a Grŵp Arweinyddiaeth AI traws-sector cyhoeddus i Gymru.

5.6 Mae'r cynllun hefyd yn nodi amrywiaeth o gamau gweithredu ar gyfer y tymor canolig a'r tymor hirach, y byddai angen eu cwmpasu a buddsoddiad pellach. Roedd y rhain yn cynnwys gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd sy'n deillio o Barthau Twf AI posibl yng Nghymru; creu Canolfannau Rhagoriaeth gydag AB, AU, diwydiant, ac Undebau Llafur; defnyddio'r cryfderau mewn AI i ddenu mewnfuddsoddiad; a datblygu Coleg AI ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus.

5.7 Roedd cyflawni'r cynllun wedi'i angori mewn pedair colofn strategol: Twf Economaidd; Addysgu Cymru; Tegwch o ran Darparu a Rhagoriaeth, yn seiliedig ar egwyddorion sy'n foesegol,  empathig, arloesol, ac effeithiol.

5.8 Roedd Cymru mewn sefyllfa unigryw i arwain, o ystyried ei maint a'i ystwythder, a byddai hynny'n ddelfrydol ar gyfer treialu a graddio datrysiadau AI. Gyda buddsoddiadau seilwaith mawr a Pharthau Twf AI sydd ar ddod, roedd y  momentwm yn cynyddu.

5.9 Roedd y cynllun yn adlewyrchu'r dull gweithredu Cymreig penodol, wedi'i wreiddio mewn tegwch, tryloywder, ynghyd â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Roedd yn fframwaith byw a fyddai'n esblygu, o ystyried cyflymder y newid, ac roedd gofyn am ei weithredu mewn modd cydgysylltiedig ar draws y Llywodraeth, diwydiant, y byd academaidd, a'r trydydd sector.

5.10 Mae'r Cynllun AI yn amlinellu rhai camau gweithredu tymor byr penodol i adeiladu sgiliau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

5.11 Yn ogystal â hynny, roedd Busnes Cymru eisoes yn helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i ddeall sut y gallai AI helpu i ysgogi mwy o gynhyrchiant a thwf drwy Ddigwyddiadau "AI Works for Business UK" a gynhelir ledled y wlad.

5.12 Croesawodd y Cabinet y papur, gan gydnabod bod AI eisoes yn cael effaith sylweddol ar draws pob portffolio, megis ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gyda datblygu cofnodion cleifion amser real, defnyddio 'magic notes', a helpu clinigwyr gyda diagnosteg.

5.13 Roedd AaGIC hefyd wedi datblygu cwrs mewn AI, a fyddai'n helpu i ddarparu data gweithlu amser real, gan alluogi cynllunio ystwyth ar gyfer anghenion yn y dyfodol.

5.14 Roedd angen sicrhau bod gan weithlu Cymru, gan gynnwys busnesau bach a chanolig, y sgiliau angenrheidiol i ddefnyddio AI yn effeithiol, wrth ddatblygu prentisiaethau a fyddai'n ymgorffori AI a sgiliau digidol. Roedd angen partneriaethau â sefydliadau AB ac AU i gynnig cyfleoedd ailhyfforddi ac ailsgilio i oedolion, gyda'r sector hefyd yn cael rôl mewn ymchwil a rhannu arferion gorau. Nodwyd y byddai'r coleg AI wedi'i anelu at y sector cyhoeddus, lle byddai'r ganolfan ragoriaeth yn canolbwyntio ar yr economi.

5.15 Ar ben hynny, roedd yn bwysig ymgysylltu â'r sector cyhoeddus ehangach, megis CLlLC, ac yn benodol â'r arweinyddiaeth wleidyddol, a'r Trydydd Sector, lle'r oedd manteision i'w gwireddu drwy wella effeithlonrwydd ac ehangu cyrhaeddiad.

5.16 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, gan nodi y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn lansio'r Cynllun AI yn ystod ei datganiad llafar ar 18 Tachwedd.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Tachwedd 2025