Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Heddiw, rwy’n cyhoeddi cynigion ar gyfer elfen Llywodraeth Cymru o gyllid i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru ar gyfer 2026-27. Mae’r rhain yn cynnwys dyraniadau dros dro y cyllid refeniw craidd i bob un o’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru.
Nid yw polisi plismona wedi’i ddatganoli a darperir cyllid i bedwar heddlu Cymru drwy drefniant tair ffordd sy’n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a’r dreth gyngor. Rwy’n cynnig pennu swm o £113.47 miliwn ar gyfer cyfraniad Llywodraeth Cymru at gyllid yr heddlu ar gyfer 2026-27. Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig sy’n cynnwys manylion ynghylch cyfanswm y cyllid ar gyfer heddluoedd.
Rydym wedi ymrwymo o hyd i ddarparu'n uniongyrchol Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol. Fel y nodir yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, bydd £16.3 miliwn yn cael ei ddefnyddio i ariannu'n uniongyrchol swyddi Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd o 2.2% ar ein cyllid o 2025-26 a bydd yn galluogi'r heddluoedd i barhau i ddarparu Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu i helpu ein cymunedau yng Nghymru. Darperir cyllid ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng Nghymru yn ychwanegol at setliad y Swyddfa Gartref, gan ddarparu rhagor o gymorth i gymunedau Cymru. Er bod plismona yn faes a gedwir yn ôl, mae ein cyllid ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn adlewyrchu'r gwaith y maent yn ei wneud i feithrin ymddiriedaeth a pherthynas rhwng yr heddlu a chymunedau yng Nghymru, gan helpu i wireddu ein dyheadau ar gyfer cymunedau Cymru.
Rwy'n cydnabod y dirwedd ariannu heriol i bartneriaid plismona, yn ogystal â'r heriau costau byw parhaus i lawer o aelwydydd. Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau bod cynnydd ym mhraeseptau'r heddlu, yn Lloegr, yn cael eu cyfyngu i £15 heb refferendwm. Nid yw hyn yn gymwys yng Nghymru ond mae Gweinidogion Cymru yn cadw'r pŵer i roi cap ar gynnydd. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a heddluoedd Cymru i wneud y defnydd gorau posibl o'n hadnoddau a rennir ac i gyflawni ein dyheadau ar y cyd ar gyfer cymunedau yng Nghymru.
Rwy'n annog y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru i ymgynghori'n llawn â'u cymunedau lleol wrth ystyried lefel y cyllid lleol ar gyfer 2026-2027. Bydd angen iddynt ystyried yn ofalus y cydbwysedd rhwng yr effeithiau ar aelwydydd o ganlyniad i gynnydd ym mhraeseptau'r heddlu a'r penderfyniadau ynghylch gwasanaethau i gymunedau.
Mae Tabl 1 o'r Datganiad hwn yn cynnwys crynodeb o gyfraniad Llywodraeth Cymru at gyllid yr heddlu ar gyfer 2026-27.
Mae'r cyhoeddiad heddiw yn nodi dechrau cyfnod ymgynghori a ddaw i ben ar 14 Ionawr 2026. Yn dilyn hyn, mae'n bosibl y caiff dyraniadau eu diwygio ar gyfer y Setliad Terfynol.
Mae’r wybodaeth hon hefyd wedi'i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yn:
