Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden , Minister for Children and Social Care
Jeremy Miles , Cabinet Secretary for Health and Social Care

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennym gadarnhau cyllid parhaus o dros £10 miliwn ar gyfer y sector gofal cymdeithasol, drwy Grantiau i'r Trydydd Sector a Sefydliadau Allweddol y Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, ym mlwyddyn ariannol 2026–27. 

Bydd y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau darpariaeth gwasanaethau allweddol, gan gynnwys: 

  • ChildLine Cymru, sy'n cael ei chynnal gan yr NSPCC, fel bod y sefydliad yn gallu parhau i ddarparu ei linell gymorth gyfrinachol am ddim 24 awr y dydd i bobl ifanc hyd at 19 oed, gan gynnig cymorth yn Gymraeg a Saesneg.
  • Cyngor Cymru i’r Deillion, gan gryfhau ei gydweithrediad â Llywodraeth Cymru i wella bywydau pobl sydd ag amhariad ar y golwg.
  • Prosiect Clyw Fi, Cynhwyswch Fi, Parchwch Fi Pobl yn Gyntaf Cymru, sy'n grymuso hunaneiriolwyr ag anableddau dysgu i lunio a gwerthuso gwasanaethau i ddylanwadu ar y ddarpariaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a deddfau eraill ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhanbarthol.
  • Gofal a Thrwsio ym Mhowys a phrosiect Mamwlad Age Cymru Powys, sy'n cefnogi aelodau hŷn o'r gymuned ffermio i barhau i fyw gartref yn annibynnol ac yn ddiogel.

Gyda'i gilydd, mae'r rhain, a chyfres eang o fentrau eraill yn adlewyrchu ymrwymiad ar y cyd i gynhwysiant, grymuso a gwytnwch ledled Cymru.

Mae'r penderfyniad hwn yn rhoi llwyfan i'n partneriaid cyflenwi gwasanaethau gofal cymdeithasol gwerthfawr yn y trydydd sector ar gyfer cytundeb cyllid grant o hyd digonol yn y dyfodol i ddarparu cysondeb a sicrwydd ar gyfer cyflenwi a chynllunio'r gweithlu. Mae'r sefyllfa bresennol o ran y gyllideb cyn blwyddyn etholiadol yn golygu ei bod yn ddoeth ymestyn y trefniadau presennol am flwyddyn arall – sy'n golygu y gall llywodraeth newydd ymrwymo i unrhyw drefniadau olynol, gyda'r opsiwn i wneud hynny am dymor estynedig. 

Wrth edrych ymlaen at 2027-28, rydym yn cynnig cynnal proses drylwyr sy'n seiliedig ar geisiadau, a ddatblygir drwy ymgysylltu â'r trydydd sector, i ailystyried ac ail-lunio darpariaeth, wedi'i llywio gan y cod ymarfer ar gyfer ariannu'r trydydd sector. Bydd hyn hefyd yn galluogi darpariaeth y cytunwyd arni o dan y grantiau ar gyfer 2027-28 ymlaen i ystyried unrhyw ymrwymiadau newydd sy'n deillio o raglen lywodraethu 2026-30 a datblygu cynlluniau polisi yn 2026-27 ar gyfer meysydd fel anabledd dysgu, niwroamrywiaeth, neu ofalwyr di-dâl.

Bydd blwyddyn arall o ddarpariaeth gyson o ansawdd uchel yn 2026-27 yn atgyfnerthu llwyddiant y gweithgareddau a ariannwyd gan y grantiau hyd yn hyn ac yn rhoi amser gwerthfawr i weinyddiaeth newydd benderfynu sut, ac ar gyfer beth, y bydd yn cefnogi'r trydydd sector am weddill y tymor.

Gyda chyllid hanfodol wedi'i sicrhau am flwyddyn arall, rydym yn gyffrous i ddatblygu darpariaeth newydd, flaengar sy'n adlewyrchu anghenion gofal cymdeithasol esblygol Cymru.