Jayne Bryant, Cabinet Secretary for Housing and Local Government
Sicrhau bod tenantiaid yng Nghymru yn cael cartrefi diogel ac o ansawdd uchel yw fy mlaenoriaeth sylfaenol o hyd. Ymgynghorais yn ddiweddar ynghylch newidiadau arfaethedig i Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), i sicrhau bod landlordiaid cymdeithasol yn cymryd camau prydlon i fynd i'r afael â pheryglon iechyd yn y cartref.
Mae hyn yn dilyn marwolaeth drasig Awaab Ishak yn Lloegr, a achoswyd gan gysylltiad hirdymor â lleithder a llwydni – enghraifft o'r canlyniadau angheuol pan fydd safonau tai yn methu. Mae'r achos hwnnw'n tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol gwrando ar denantiaid, deall eu hamgylchiadau, a sicrhau bod pob cartref yn ddiogel ac yn iach i fyw ynddo.
O ganlyniad i'r ymgynghoriad hwn, byddaf yn diweddaru SATC i nodi amserlenni clir ar gyfer ymchwilio a gwella peryglon, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â lleithder a llwydni. Rwy'n ddiolchgar am y mewnbwn gwerthfawr gan y grŵp rhanddeiliaid wrth lunio'r newidiadau hyn i SATC. Nid yw'r mesurau hyn yn opsiynol; maent wedi'u cynllunio i gryfhau atebolrwydd a thryloywder ar draws y sector. Rhaid i landlordiaid cymdeithasol nawr gyhoeddi amseroedd ymateb, ac adrodd ar eu perfformiad fel rhan o'r ffurflen cydymffurfio ag SATC, gan sicrhau bod tenantiaid yn gallu gweld sut mae eu landlord yn bodloni ei rwymedigaethau.
Mae adroddiadau diweddar gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi tynnu sylw at fethiannau annerbyniol gan rai landlordiaid cymdeithasol i ymateb mewn ffordd ddigonol i gwynion am leithder a llwydni. Mae'r canfyddiadau hyn yn peri cryn bryder ac yn tynnu sylw unwaith eto at yr angen brys i bob landlord fabwysiadau dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n blaenoriaethu amgylchiadau unigol tenantiaid wrth fynd i'r afael â gwaith atgyweiriadau a chynnal a chadw.
Mae'n hanfodol bod pob landlord yn gweithredu fel mater o frys pan adroddir am leithder a llwydni, yn ogystal â pheryglon eraill. Mae hyn yn golygu bod â systemau ar waith i ymateb yn gyflym, rhoi diweddariadau i denantiaid a thrin eu pryderon gydag empathi a pharch, yn hytrach nag fel problemau technegol yn unig. Cydymffurfio â'r gofynion statudol yw'r gofyniad sylfaenol, ond rwy'n disgwyl mwy o lawer na hynny. Dylai landlordiaid ddangos dull rhagweithiol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn – gan nodi risgiau cyn iddyn nhw waethygu, ymgysylltu â thenantiaid i ddeall eu hanghenion a blaenoriaethu lles. Mae gwelliannau yn y ffordd mae pryderon ynghylch lleithder a llwydni'n cael eu rheoli yn ddisgwyliad allweddol, ac mae prosesau cadarn yn hanfodol i ddarparu cartrefi diogel, iach i bawb.
Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wella atebolrwydd a thryloywder i denantiaid, ac mae rheol newydd SATC, a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026, yn ymateb uniongyrchol i'r pryderon hyn. Dylai landlordiaid ystyried hyn yn gyfle i ailadeiladu ymddiriedaeth a pharhau i ddangos eu bod wedi ymrwymo i ddiogelwch tenantiaid. Er bod y darpariaethau hyn yn canolbwyntio ar y sector tai cymdeithasol, yr un mor bwysig yw ystyried sut y gallwn amddiffyn tenantiaid a meddianwyr yn y sector preifat rhag risgiau diangen wedi'u hachosi gan beryglon.
Atgoffir pob landlord o'u dyletswydd gyfreithiol o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i sicrhau bod cartrefi yn addas ar gyfer y bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael â phroblemau fel lleithder a llwydni yn brydlon ac yn effeithiol. Mae methu gwneud hynny nid yn unig yn torri rhwymedigaethau statudol ond yn methu yn eu dyletswydd i denantiaid.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro cydymffurfiaeth yn agos ac yn disgwyl gweld gwelliannau gweladwy yn y ffordd mae'r holl sector yn mynd i'r afael â'r problemau hyn. Mae ein neges yn glir – Mae tenantiaid yn haeddu cartrefi sy'n ddiogel, yn iach, ac yn rhydd o beryglon ac mae'n rhaid i landlordiaid roi pobl gyntaf i wneud hynny'n realiti.
