Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden, Minister for Children and Social Care

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf rannu'r datganiad sefyllfa wedi'i ddiweddaru, sy'n tynnu sylw at y cynnydd sylweddol yr ydym wedi'i wneud gyda'n gilydd wrth drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae ein hymdrechion ar y cyd yn gyrru dull system gyfan o ran buddsoddi a diwygio, gyda’r nod clir o gyflwyno System Gofal Cymunedol Integredig (SGCI) sy'n rhoi pobl a chymunedau wrth ganol gofal.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae mwy na £300 miliwn o fuddsoddiad strategol wedi cryfhau’r cyd-aliniad ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, gan helpu pobl i fyw'n dda gartref, lleihau pwysau ar ysbytai, ac yn cefnogi teuluoedd i aros gyda'i gilydd. Trwy'r Gronfa Integreiddio Ranbarthol, mae 750,000 o bobl wedi elwa, ac hyd yn hyn, mae mwy na 100 o gynlluniau cyfalaf o dan Tai gyda Gofal a'r Gronfa Gofalaf Integredig ac Ail-gydbwyso yn creu'r seilwaith cyfalaf ar gyfer cymorth cynaliadwy sy’n seiliedig yn y gymuned.

Mae rhaglenni fel Rhaglen ‘Meithrin Gallu drwy Ofal Cymunedol – Ymhellach, Yn Gyflymach a'r Chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng yn cyflymu newid, gwella gofal brys, ac yn adeiladu gwydnwch dros gyfnod y gaeaf. Ar yr un pryd, mae buddsoddiad mewn dros 100 o rolau newydd i Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Rhaglen Strategol gryfach ar gyfer Gofal Sylfaenol yn darparu adsefydlu cyflymach, atal cwympiadau, a gwell mynediad at gyngor, gan leihau derbyniadau y gellir eu hosgoi a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Mae'r cyflawniadau hyn yn fwy na rhifau - maent yn adlewyrchu bywydau sy'n gwella trwy ofal amserol ac integredig.  Mae'r Gwerthusiad Cenedlaethol Annibynnol o'r Gronfa Integreiddio Ranbarthol (RIF) yn darparu tystiolaeth glir o lwyddiant, ac mae dadansoddiad thematig o astudiaethau achos yn dal straeon dinasyddion, gan ddangos sut mae gofal integredig yn helpu pobl i fyw'n dda yn eu cymunedau. Mae'r lleisiau hyn yn siapio darpariaeth y dyfodol, tra bod ymgysylltu cryf a chyd-gynhyrchu gyda phartneriaid yn cyflymu dysgu ac yn lledaenu arfer da yn gyflym.

Mae ‘Cymru Iachach’ yn nodi ein gweledigaeth genedlaethol ar gyfer trawsnewid, ac mae datblygu’r SGCI ar gyfer Cymru yn uno rhaglenni iechyd a gofal cymdeithasol sy'n creu cydlyniad, chwalu seilos, a thrawsnewid gwasanaethau i ddarparu ymateb system gyfan sy'n darparu canlyniadau gwell i bawb.  Mae saith prif raglen bellach yn gweithio ar y cyd o dan un weledigaeth yr SGCI, gan ail-lunio gwasanaethau i fod yn ganolog i‘r unigolyn, yn ataliol ac wedi'u gwreiddio mewn cymunedau. Ynghyd a’r rhain, mae mentrau fel y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynau Cymdeithasol a'r Grant Trawsnewid Llwybr Gofal gwerth £30 miliwn yn adeiladu gallu cymunedol ac yn atal cynnydd mewn anghenion.

Mae'r ddyletswydd i gydweithredu ac i ddarparu cefnogaeth ymyrraeth gynnar ac atal yn gymwys i awdurdodau lleol perthnasol byrddau iechyd ill dau. Gan gydnabod hyn, mae’r Byrddau Partneriaeth Ranbarthol (BPRh) yn parhau i fod yn ganolog i gyflawni ein gweledigaeth, nid yn unig fel cerbydau cyllido, ond fel grym yrru ar gyfer cydweithredu ac integreiddio. Mae'n hanfodol bod pob partner yn ymgysylltu'n ystyrlon â'u BPRh, gan gydnabod eu rôl strategol wrth lunio dyfodol gofal yng Nghymru.  Yn ddiweddar, rwyf wedi cwrdd â phob un o'r saith Cadeirydd BPRh a'r swyddogion atebol a enwir ym mhob rhanbarth ac rwyf wedi cael fy annog yn fawr gan y lefel gynyddol o aeddfedrwydd yn ein trefniadau partneriaeth, a rhai o'r cynnydd rhagorol sy'n cael ei wneud trwy gydweithio a gweithio mewn partneriaeth.

Mae'r effaith yn glir: derbyniadau ysbyty y gellir eu hosgoi, cymunedau cryfach, a miloedd o bobl sy'n byw’n dda gartref. Trwy gryfhau partneriaethau, cyflymu arloesedd, a gwreiddio atal, rydym yn darparu system sy'n gweithio i bawb ac yn llunio Cymru iachach a thecach ar gyfer y dyfodol.