Mae'n gyfnod prysur i wasanaethau cerddoriaeth lleol ledled Cymru, a'r Nadolig yn prysur agosáu. Maent wrthi yn helpu disgyblion, teuluoedd a cymunedau i greu profiadau bythgofiadwy sy'n llawn swyn.
Ym mhob cwr o'r wlad, mae plant a phobl ifanc, gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol, yn mwynhau perfformio yn yr ysgol, mewn neuaddau cyngerdd ac archfarchnadoedd i ledaenu hud y Nadolig.
Mae £12 miliwn o gyllid wedi ei roi i'r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol yn ddiweddar, a hynny ar gyfer y tair blynedd nesaf. Mae'r gwasanaeth yn creu cyfleoedd i blant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru ganu offeryn, canu, cymryd rhan a chreu cerddoriaeth drwy gydol y flwyddyn, mewn ysgolion, lleoliadau, ac o fewn cymunedau.
Bydd y cyllid yn darparu cefnogaeth barhaus ar gyfer meysydd allweddol y rhaglen gan gynnwys:
- Cerddoriaeth mewn Ysgolion: darparu cymorth i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc o oedran ysgol yn cael cyfleoedd i ganu offeryn, canu, cymryd rhan a chreu cerddoriaeth.
- Creu Cerddoriaeth gydag Eraill: gan gynnwys cefnogaeth benodol i ensembles cerddoriaeth a chyfleoedd i bobl ifanc ennill profiad yn y diwydiant drwy weithio ochr yn ochr â cherddorion.
- Llyfrgell offerynnau, adnoddau a chyfarpar genedlaethol: sicrhau bod pobl ifanc, yn enwedig y rhai o aelwydydd incwm isel, yn cael mynediad at offerynnau, ar gyfer gweithgareddau cerddoriaeth mewn ysgolion a thu allan i ysgolion.
Ledled Cymru y Nadolig hwn mae'r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol wedi helpu i gyflwyno cyngherddau a gweithgareddau sy'n arddangos talent, mae'r digwyddiadau yn cynnwys :
- Ceredigion: Daeth Atgof o'r Sêr â cherddorfeydd iau a hŷn, telynau, bandiau pres ac unawdwyr proffesiynol ynghyd ochr yn ochr â chyfansoddwr y canata, Robat Arwyn.
- Castell-nedd Port Talbot: Roedd tri chyngerdd mawr yn cynnwys ensembles iau a hŷn, ynghyd â grŵp pres staff a berfformiodd yn Ysgol Maes y Coed. Cyflwynodd eu prosiect cyrs dwbl y basŵn bach a'r obo i ddysgwyr newydd, a bu'r gerddorfa ieuenctid yn ymarfer War of the Worlds gyda Jeff Wayne.
- Sir Benfro: Ymunodd côr cymunedol dros dro ag ensembles sirol ar gyfer cyngerdd yn cynnwys bandiau pres, grwpiau chwyth, a bandiau roc. Unodd dau gyngerdd dathlu Profiadau Cyntaf 607 o ddisgyblion, gan berfformio darnau a chaneuon offerynnol gan ddefnyddio Charanga Cymru.
- Abertawe: O wasanaethau ysgol bychan i ddigwyddiadau mawreddog yn Neuadd Brangwyn a Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe, roedd Cerddoriaeth Abertawe yn sicrhau bod pob plentyn yn gallu cymryd rhan. Perfformiodd disgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gan ddefnyddio offerynnau a addaswyd, ac ysbrydolodd prosiectau pres dosbarthiadau cyfan gannoedd o gerddorion newydd.
- Powys: Mae ensembles ysgolion, cerddorfeydd piano, grwpiau pres, ensembles llinynnol, cerddorfa ysgol, côr ysgolion cynradd ac uwchradd, ac ensembles gitâr wedi'u creu ledled y sir.
- Sir Gaerfyrddin: Mae mwy na 90 o gyngherddau ysgol wedi cael eu cefnogi, a disgyblion wedi perfformio mewn archfarchnadoedd a digwyddiadau cymunedol amrywiol.
- Rhondda Cynon Taf: Cynhaliwyd cyngerdd arddangos yn Ysgol Gyfun y Pant, a pherfformiodd unawdwyr a grwpiau bach yng Ngŵyl Nadolig Canolfan Gymunedol Garth Olwg.
- Merthyr Tudful: Cynhaliwyd perfformiadau canu carolau dwyieithog a thelynau sy'n gysylltiedig â threftadaeth leol.
- Conwy: Ychwanegodd grwpiau Samba rhythmau bywiog i ddathliadau Nadoligaidd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
Mae cerddoriaeth yn helpu i ddod â phobl ynghyd ac mae'n galonogol gweld cymaint o digwyddiadau Nadoligaidd ledled Cymru, gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol. Mae'r digwyddiadau hyn o fudd i bobl ifanc a'r gymuned leol.
Trwy ariannu'r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol, rydym yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc rhwng 3 a 16 oed fwynhau gweithgareddau cerddoriaeth, ac yn rhoi mynediad iddynt at offerynnau a gwersi ar draws ystod eang o genres a mathau o gerddoriaeth.
Rwy'n falch bod ein cyllid o £12 miliwn yn helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael mynediad at addysg gerddoriaeth o safon.
