Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Mae'r Gweinidog Chwaraeon yn annog clybiau pêl-droed ledled Cymru i gymryd cwrs hyfforddi iechyd meddwl i gefnogi timau, hyfforddwyr a chwaraewyr yn well.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gall clybiau pêl-droed ledled Cymru fanteisio ar gwrs ar-lein a ddarperir gan Mind Cymru a UK Coaching i gynyddu eu hymwybyddiaeth o iechyd meddwl.

Mae tua 200 o glybiau wedi cwblhau'r cwrs e-ddysgu, ond mae digon o leoedd ar gael o hyd.

Mae'r cwrs yn arfogi hyfforddwyr gyda gwybodaeth a hyder i ddeall a chefnogi pobl sy'n profi anawsterau iechyd meddwl. Mae'n helpu i greu naws gadarnhaol lle gall pawb fwynhau bod yn actif mewn amgylchedd cefnogol.

Dywedodd y Gweinidog Chwaraeon, Jack Sargeant: 

O brofiad dy hun gyda â chlybiau pêl-droed yng Nglannau Dyfrdwy, rwy'n gwybod eu bod nhw wrth galon ein cymunedau a hyfforddwyr yn aml yw'r cyntaf i sylwi pan fydd rhywun yn cael trafferth. Mae iechyd meddwl yn bwysig bob dydd, ond rwy'n gwybod, wrth i ni agosáu at y Nadolig, gall y cyfnod hwn fod yn arbennig o heriol i rai pobl.

Gall y sgiliau ymarferol y mae hyfforddwyr yn eu hennill o'r cwrs hwn i gefnogi eu chwaraewyr a'u timau achub bywydau. Rwy'n falch bod tua 200 o glybiau eisoes wedi manteisio ar yr adnodd gwerthfawr hwn, ond rwy'n annog clybiau ledled Cymru i fanteisio ary cyfle oherwydd gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy:

Mae clybiau pêl-droed yn fannau diogel yn ein cymunedau lle mae pobl o bob oed yn dod at ei gilydd. Pan fydd hyfforddwyr yn deall iechyd meddwl ac yn teimlo'n hyderus yn cael y sgyrsiau hynny, mae'n creu amgylchedd lle mae pobl yn teimlo'n ddiogel i rannu pryderon. 

Mae'r hyfforddiant hwn yn gam pwysig i chwalu stigma a sicrhau nad oes unrhyw un yn wynebu heriau iechyd meddwl ar ei ben ei hun. Rwy'n annog pob clwb i fanteisio ar y cyfle hwn.

Mae Chwaraeon Cymru yn datblygu dull ataliol hirdymor sy'n mynd i'r afael â stigma a ffactorau risg wrth greu amgylcheddau sy'n cefnogi iechyd meddwl cadarnhaol ar draws y sector chwaraeon cyfan.

Mae'r fenter yn rhan o ymdrechion ehangach i sicrhau bod clybiau chwaraeon yn gallu darparu mannau cefnogol lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys.

Dylai clybiau pêl-droed sydd â diddordeb mewn cael mynediad at yr hyfforddiant gysylltu â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i gael manylion am sut i gofrestru ar gyfer y cwrs e-ddysgu am ddim.