Cyfraddau cymorth myfyrwyr israddedig (cohort 2012) ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027 (SFWIN 01/2026)
Mae’r hysbysiad gwybodaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru hwn yn disgrifio cyfraddau’r benthyciadau a grantiau ar gyfer myfyrwyr israddedig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn disgrifio cyfraddau’r benthyciadau a grantiau ar gyfer myfyrwyr israddedig ym mlwyddyn academaidd 2026 i 2027. Gall y cyfraddau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn.
Mae’r ffigurau a nodir yn yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn berthnasol i fyfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a chyn 1 Awst 2018.
Mae’r cyfraddau hyn yn destun rheoliadau sydd wrthi’n cael eu llunio. Os bydd gwahaniaeth rhwng y rheoliadau a’r ddogfen hon, y rheoliadau sy’n drech.
Cymorth ffioedd a chynhaliaeth i fyfyrwyr llawnamser
Cymorth ffioedd llawnamser
Bydd myfyrwyr cymwys llawnamser sy’n byw yng Nghymru fel arfer yn gallu gwneud cais am fenthyciad ffioedd a grant ffioedd. Hefyd bydd myfyrwyr cymwys llawnamser sy’n dysgu o bell yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd. Nid yw’r benthyciad ffioedd na’r grant ffioedd yn dibynnu ar brawf modd
Cyfraddau benthyciad ffioedd
- Uchafswm benthyciad ffioedd ar gyfer darparwr cyffredin, £5,615.
- Uchafswm benthyciad ffioedd ar gyfer darparwr preifat, £6,525.
Cyfraddau grant ffioedd
- Uchafswm grant ffioedd ar gyfer darparwr cyffredin, £4,175.
- Nid oes grant ffioedd ar gael ar gyfer cyrsiau mewn sefydliad preifat.
Y ffi uchaf y gall darparwyr addysg uwch cyffredin ei chodi yn y DU yn 2026 i 2027 yw £9,790. Nodwch nad oes rhaid i ddarparwyr preifat gydymffurfio â chapiau ffioedd.
Cymorth ffioedd uchaf mewn achosion arbennig
Mae’r rheoliadau’n darparu ar gyfer gwahanol symiau o gymorth ffioedd mewn rhai achosion.
Blwyddyn olaf
Bydd uchafswm y cymorth ffioedd dysgu sydd ar gael yn cael ei leihau ym mlwyddyn academaidd olaf cyrsiau lle mae dyddiad gorffen y cwrs yn gynharach ac sy'n gofyn am gyfnodau astudio byrrach (llai na 15 wythnos o astudio). Dyma'r cymorth ffioedd dysgu fydd ar gael ar gyfer cyrsiau o'r fath:
- hyd at £4,895 ar gyfer y rhai a ddarperir mewn darparwr cyffredin lle gellir codi hyd at £9,790 (benthyciad ffioedd o hyd at £2,745 a grant ffioedd o hyd at £2,150), a
- hyd at £3,260 (benthyciad ffioedd) ar gyfer y rhai a ddarperir mewn darparwr preifat (50% o £6,525 wedi'i dalgrynnu i lawr i'r £5 cyfan agosaf)
Myfyrwyr mewn darparwyr yng Nghymru neu Loegr
Bydd myfyrwyr cohort 2012 sy’n cwblhau blwyddyn astudio ar leoliad dramor y tu allan i gynllun ERASMUS+/TURING/ILE (TAITH)) yn gorfod talu ffi dysgu o hyd at 15% o gap ffioedd uchaf y darparwr. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ac sy'n astudio ar gwrs dynodedig yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd o:
- hyd at uchafswm y ffi ddysgu a godir (hyd at £790 benthyciad ffioedd a grant ffioedd o £675, cyfanswm o £1,465, lle mae'r ffi uchaf yn £9,790), neu
- hyd at £975 (benthyciad ffioedd) (15% o £6,525 wedi'i dalgrynnu i lawr i'r £5 cyfan agosaf) ar gyfer cyrsiau mewn darparwr preifat
Bydd myfyrwyr cohort 2012 sy’n cwblhau blwyddyn ar leoliad dramor (naill ai’n astudio neu’n gweithio fel rhan o gynllun ERASMUS+/TURING/ILE (TAITH) yn gorfod talu ffi dysgu o hyd at 15% o gap ffioedd uchaf y darparwr. Bydd myfyrwyr cymwys sy’n astudio ar gwrs dynodedig yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd hyd at uchafswm y ffi ddysgu a godir ( hyd at £790 o fenthyciad ffioedd a £675 o grant ffioedd, cyfanswm o £1,465, lle mae’r ffi uchaf yn £9,790). Nid yw darparwyr preifat yn cymryd rhan yng nghynllun ERASMUS+.
Mae darparwyr yn Lloegr sydd naill ai wedi'u cofrestru ar gofrestr y Swyddfa Myfyrwyr neu sydd â Phwerau Dyfarnu Graddau cydnabyddedig yn gymwys i gymryd rhan yng nghynllun TURING.
Mae darparwyr cydnabyddedig neu reoleiddiedig a darparwyr preifat yng Nghymru yn gymwys i gymryd rhan yng nghynllun ILE (TAITH).
Bydd myfyrwyr cohort 2012 sy’n cwblhau blwyddyn o leoliad gwaith fel rhan o gwrs rhyngosod yn gorfod talu ffi dysgu o hyd at 20% o gap ffioedd uchaf y darparwr. Bydd myfyrwyr cymwys yn gallu gwneud cais o:
- hyd at uchafswm y ffi ddysgu a godir (hyd at £1055 benthyciad ffioedd a grant ffioedd o £900, cyfanswm o £1,955, lle mae'r ffi uchaf yn £9,790), neu
- hyd at £1,305 (benthyciad ffioedd) (20% o £6,525 wedi'i dalgrynnu i lawr i'r £5 cyfan agosaf) ar gyfer cyrsiau mewn darparwr preifat
Myfyrwyr sy’n astudio mewn darparwyr yn yr Alban
Bydd myfyrwyr mewn darparwyr yn yr Alban sy’n cwblhau blwyddyn o leoliad gwaith neu leoliad astudio y tu allan i gynlluniau ERASMUS+/TURING, yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd o:
- hyd at £4,895 (hyd at £2,745 benthyciad ffioedd a grant ffioedd o £2,150), neu
- hyd at £3,260 (benthyciad ffioedd) ar gyfer cyrsiau mewn darparwr preifat
Bydd myfyrwyr mewn darparwyr yn yr Alban sy’n cwblhau blwyddyn ar leoliad dramor naill ai’n astudio neu’n gweithio o fewn cynlluniau ERASMUS+/ TURING yn gorfod talu ffioedd dysgu o hyd at 15% o gap ffioedd uchaf y darparwr. Bydd myfyrwyr cymwys yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd o hyd at y ffi dysgu uchaf a godir sy’n cynnwys benthyciad ffioedd o £790 a grant ffioedd o £675, hyd at gyfanswm £1,465 (lle mae'r ffi uchaf yn £9,790. Nid yw darparwyr preifat yn cymryd rhan yng nghynllun ERASMUS+/TURING.
Bydd myfyrwyr mewn darparwyr yn yr Alban sy’n cwblhau blwyddyn o leoliad gwaith fel rhan o gwrs rhyngosod ym mlwyddyn academaidd 2026 i 2027 yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd o:
- hyd at £4,895 (hyd at £2,615 benthyciad ffioedd a grant ffioedd o £2,150), neu
- hyd at £3,260 (benthyciad ffioedd) ar gyfer cyrsiau mewn darparwr preifat
Myfyrwyr mewn darparwyr yng Ngogledd Iwerddon
Bydd myfyrwyr mewn darparwyr yng Ngogledd Iwerddon sy’n cwblhau blwyddyn o leoliad gwaith neu leoliad astudio y tu allan i gynlluniau ERASMUS+/TURING (mae darparwyr Gogledd Iwerddon yn hepgor ffioedd i fyfyrwyr ERASMUS+/TURING a nid yw cymorth ffioedd yn angenrheidiol) yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd o:
- hyd at £4,765 (hyd at £2,615 benthyciad ffioedd a grant ffioedd o £2,150), neu
- hyd at £3,175 (benthyciad ffioedd) ar gyfer cyrsiau mewn darparwr preifat
Bydd myfyrwyr mewn darparwyr yng Ngogledd Iwerddon sy’n cwblhau blwyddyn o leoliad gwaith fel rhan o gwrs rhyngosod ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026 yn gallu gwneud cais am gymorth ffioedd o:
- hyd at £4,895 (hyd at £2,745 benthyciad ffioedd a grant ffioedd o £2,150), neu
- hyd at £3,260 (benthyciad ffioedd) ar gyfer cyrsiau mewn darparwr preifat
Cymorth cynhaliaeth llawnamser
Bydd myfyrwyr cymwys llawnamser yn gallu gwneud cais am grant cynhaliaeth a benthyciad cynhaliaeth:
- grant sy’n dibynnu ar brawf modd ar gyfer costau byw, hyd at £5,161, a
- benthyciad, gyda 75% ohono ddim yn dibynnu ar asesiad incwm
Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn gymwys am Grant Cymorth Arbennig yn hytrach na’r grant cynhaliaeth. Mae uchafswm y cymorth y mae myfyrwyr sydd ac sydd ddim yn gymwys am Grant Cymorth Arbennig yn wahanol.
Mae cyfanswm y cymorth cynhaliaeth a swm y benthyciad a’r grant yn dibynnu ar ble mae’r myfyriwr yn byw ac astudio, ac incwm yr aelwyd. Mae uchafswm y cymorth cynhaliaeth ar gael i fyfyrwyr ag incwm aelwyd o hyd at £18,370.
- Gall myfyrwyr sy’n byw yng nghartref rhiant dderbyn hyd at £9,146 o gymorth cynhaliaeth. Bydd y rhai ag incwm aelwyd uwch yn derbyn llai.
- Gall myfyrwyr sy’n byw oddi cartref ac yn astudio yn Llundain, dderbyn hyd at £14,461 o gymorth cynhaliaeth. Bydd y rhai ag incwm aelwyd uwch yn derbyn llai.
- Gall myfyrwyr sy’n byw oddi cartref ac yn astudio y tu allan i Lundain, dderbyn hyd at £11,062 o gymorth cynhaliaeth. Bydd y rhai ag incwm aelwyd uwch yn derbyn llai.
Dangosir symiau'r cymorth grant a'r benthyciadau sydd ar gael yn ôl gwahanol lefelau incwm aelwydydd yn nhablau 1A i 1C (adran: tablau eglurhaol).
Benthyciadau cynhaliaeth
Bydd uchafswm y benthyciad yn cael ei leihau 50c am bob £1 o grant cynhaliaeth a dderbynnir, hyd at uchafswm o £2,580 o ostyngiad.
- Mae gan fyfyrwyr sy'n byw gartref hawl i gael y gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth, sef £6,565. Mae myfyrwyr nad ydynt yn darparu gwybodaeth i gyfrifo incwm yr aelwyd ddim ond yn gymwys ar gyfer y gyfradd nad yw ar sail asesiad incwm, sef £4,924. Mae myfyrwyr sy'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd yn gymwys i gael y benthyciad ychwanegol o £1,641.
- Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, yn Llundain, hawl i'r gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth, sef £11,880. Mae myfyrwyr nad ydynt yn darparu gwybodaeth i gyfrifo incwm yr aelwyd ond yn gymwys ar gyfer y gyfradd nad yw ar sail asesiad incwm, sef £8,910. Mae myfyrwyr sy'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd yn gymwys i gael y benthyciad ychwanegol o £2,970.
- Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, y tu allan i Lundain, hawl i gael y gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth, sef £8,481. Mae myfyrwyr nad ydynt yn darparu gwybodaeth i gyfrifo incwm yr aelwyd ond yn gymwys ar gyfer y gyfradd nad yw ar sail asesiad incwm, sef £6,361. Mae myfyrwyr sy'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd yn gymwys i gael y benthyciad ychwanegol o £2,120.
- Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, dramor, hawl i'r gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth, sef £10,113. Mae myfyrwyr nad ydynt yn darparu'r wybodaeth i gyfrifo incwm yr aelwyd ond yn gymwys ar gyfer y gyfradd nad yw ar sail asesiad incwm, sef £7,585. Mae myfyrwyr sy'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd yn gymwys i gael y benthyciad ychwanegol o £2,528.
Benthyciadau cynhaliaeth blwyddyn olaf
Mae myfyrwyr ym mlwyddyn olaf eu cwrs yn gymwys am wahanol gyfraddau i flynyddoedd eraill. Mae cyfraddau is ar gyfer myfyrwyr blwyddyn olaf yn cael eu haddasu’n briodol.
- Mae gan fyfyrwyr sy'n byw gartref hawl i fenthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf o £5,945. Mae myfyrwyr nad ydynt yn darparu'r wybodaeth i gyfrifo incwm yr aelwyd ond yn gymwys ar gyfer y gyfradd nad yw ar sail incwm, sef £4,449. Mae myfyrwyr sy'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd yn gymwys i gael y benthyciad ychwanegol o £1,486.
- Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, yn Llundain, hawl i gael benthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf o £10,818. Mae myfyrwyr nad ydynt yn darparu gwybodaeth i gyfrifo incwm yr aelwyd ond yn gymwys ar gyfer y gyfradd nad yw ar sail incwm, sef £8,114. Mae myfyrwyr sy'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd yn gymwys i gael y benthyciad ychwanegol o £2,705.
- Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, y tu allan i Lundain, hawl i gael benthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf o £7,857. Mae myfyrwyr nad ydynt yn darparu'r wybodaeth i gyfrifo incwm yr aelwyd ond yn gymwys ar gyfer y gyfradd nad yw ar sail asesiad incwm, sef £5,893. Mae myfyrwyr sy'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd yn gymwys i gael y benthyciad ychwanegol o £1,964.
- Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, dramor, hawl i fenthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf o £8,795. Mae myfyrwyr nad ydynt yn darparu gwybodaeth i gyfrifo incwm yr aelwyd ond yn gymwys ar gyfer y gyfradd nad yw ar sail asesiad incwm, sef £6,596. Mae myfyrwyr sy'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd yn gymwys i gael y benthyciad ychwanegol o £2,199.
Benthyciadau cynhaliaeth is
Mae rhai myfyrwyr llawnamser yn gymwys i gael cyfradd is o fenthyciad cyfradd is yn unig. Mae'r rhain yn cynnwys myfyrwyr ar leoliadau cwrs rhyngosod blwyddyn lawn â thâl lle mae’r cyfnodau o astudiaeth llawnamser yn llai na 10 wythnos i gyd.
- Mae gan fyfyrwyr sy'n byw gartref hawl i gael benthyciad cynhaliaeth cyfradd is o £3,117, lle mae cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth yn £6,565.
- Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, yn Llundain, hawl i gael benthyciad cynhaliaeth cyfradd is o £5,842, lle mae cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth yn £11,880.
- Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, y tu allan i Lundain, hawl i gael benthyciad cynhaliaeth cyfradd is o £4,156, lle mae cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth yn £8,481.
- Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, dramor, hawl i gael benthyciad cynhaliaeth cyfradd is o £4,971, lle mae cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth yn £10,113.
Benthyciadau cynhaliaeth blwyddyn olaf is
Mae myfyrwyr llawnamser sydd ond yn gymwys i gael y benthyciad cynhaliaeth cyfradd is ac sydd ym mlwyddyn olaf eu cwrs yn gymwys am wahanol gyfraddau i flynyddoedd eraill. Mae cyfraddau is ar gyfer y rhai sydd yn eu blwyddyn olaf yn cael eu haddasu yn unol â hynny.
- Mae gan fyfyrwyr sy'n byw gartref hawl i gael benthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf is o £2,369, lle mae cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf yn £5,945.
- Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, yn Llundain, hawl i gael benthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf is o £4,467, lle mae cyfradd lawn y benthyciad cynhaliath blwyddyn olaf yn £10,818.
- Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, y tu allan i Lundain, hawl i gael benthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf is o £3,239, lle mae cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf yn £7,857.
- Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, dramor, hawl i gael benthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf is o £3,634, lle mae cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth blwyddyn olaf yn £8,795.
Grantiau cynhaliaeth
Y grant cynhaliaeth uchaf sydd ar gael yw £5,161, waeth ble mae’r myfyriwr yn byw ac yn astudio.
Yn achos incwm rhwng £18,371 a £26,500, bydd grant cynhaliaeth yn cael ei leihau £1 am bob £3.653 cyflawn o incwm sy’n uwch na £18,370. Yn achos incwm rhwng £26,501 a £34,000, bydd y grant yn cael ei leihau £1 am bob £4.180 cyflawn o incwm sy’n uwch na £26,500. Yn achos incwm rhwng £34,001 a £50,020, mae’r grant yn lleihau £1 am bob £14.67 cyflawn o incwm sy’n uwch na £34,000.
Bydd myfyriwr ag incwm o £50,020 yn gymwys am yr isafswm grant o £50. Ni fydd myfyriwr sydd ag incwm o dros £50,020 yn gymwys am unrhyw grant. Pan fo incwm y myfyriwr yn fwy na £50,753, bydd swm y benthyciad y mae ganddo hawl iddo yn lleihau £1 am bob £5 cyflawn o incwm sy’n uwch na £50,753 nes bod 75% o’r benthyciad cynhaliaeth llawn yn weddill.
Dangosir symiau'r cymorth grant a'r benthyciadau sydd ar gael yn ôl gwahanol lefelau incwm aelwydydd yn nhablau 1A i 1C (adran: tablau eglurhaol).
Taliad Cymorth Arbennig
Bydd myfyrwyr sy'n derbyn budd-daliadau penodol yn cael rhan o'r cymorth i fyfyrwyr a gânt gan Lywodraeth Cymru wedi'i diystyru at ddibenion cyfrifo eu hincwm wrth wneud cais am y budd-daliadau hynny.
Mae myfyrwyr cymwys yn cynnwys y rhai:
- sydd â phlant dibynnol ond nad oes ganddynt bartner
- sydd â phlant dibynnol a bod eu partner yn fyfyriwr llawnamser hefyd, neu
- sy’n gymwys am rai budd-daliadau anabledd penodol
Mae myfyrwyr sy’n gymwys am Grant Cymorth Arbennig yn gymwys am gyfraddau uwch o gymorth benthyciad na’r rhai nad ydynt yn gymwys, sy’n golygu bod eu lefel cymorth cyffredinol yn uwch hefyd.
Y Grant Cymorth Arbennig uchaf sydd ar gael yw £5,161, waeth ble mae’r myfyriwr yn byw ac yn astudio. Mae’r swm uchaf ar gael i bob myfyriwr cymwys sydd ag incwm aelwyd o hyd at £18,370.
Mae cyfanswm y cymorth cynhaliaeth a swm y benthyciad a’r Grant Cymorth Arbennig yn dibynnu ar ble mae’r myfyriwr yn byw ac yn astudio, ac incwm yr aelwyd fel a ganlyn.
- Gall myfyrwyr sy’n byw yng nghartref eu rhieni dderbyn hyd at £11,726 o gymorth cynhaliaeth. Bydd y rhai ag incwm aelwyd uwch yn derbyn llai.
- Gall myfyrwyr sy’n byw oddi cartref ac yn astudio yn Llundain, dderbyn hyd at £17,041 o gymorth cynhaliaeth. Bydd y rhai ag incwm aelwyd uwch yn derbyn llai.
- Gall myfyrwyr sy’n byw oddi cartref ac yn astudio y tu allan i Lundain, dderbyn hyd at £13,642 o gymorth cynhaliaeth. Bydd y rhai ag incwm aelwyd uwch yn derbyn llai.
Dangosir symiau'r cymorth grant a'r benthyciadau sydd ar gael yn ôl gwahanol lefelau incwm aelwydydd yn nhablau 1A i 1C (adran: tablau eglurhaol).
Cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA).
Bydd myfyrwyr cymwys llawnamser sy’n cwblhau cwrs AGA llawnamser yn gallu gwneud cais am fenthyciad ffioedd a grant cynhaliaeth fel y disgrifiwyd uchod.
Cyfraniadau aelwyd
Bydd cyfraniadau’n cael eu cyfrif fel a ganlyn:
- Incwm aelwyd o £50,753 neu lai: dim cyfraniad.
- Incwm aelwyd o rhwng £50,753 a £81,793: cyfraniad o £1 am bob £5 ychwanegol o incwm aelwyd.
- Incwm aelwyd o dros £81,793: cyfraniad o £6,208.
Y cyfraniad uchaf posibl yw £6,208.
Dangosir symiau cyfraniadau aelwydydd yn nhabl 3 (adran: tablau eglurhaol).
Didyniad plentyn dibynnol
Efallai y bydd swm o incwm yn cael ei ddiystyru wrth gyfrif incwm yr aelwyd i’w ystyried ar gyfer pennu lefel y grant cynhaliaeth. Mae hyn yn berthnasol pan fo’r aelwyd yn cynnwys plentyn dibynnol heblaw ‘r myfyriwr.
Gellir diystyru £1,175 wrth gyfrif incwm aelwyd myfyrwyr llawnamser am bob plentyn dibynnol.
Cymorth ffioedd a chynhaliaeth i fyfyrwyr rhan-amser
Cymorth ffioedd rhan-amser
Benthyciad Ffioedd
Gall myfyrwyr cymwys rhan-amser sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru wneud cais am fenthyciad ffioedd. Nid yw'r benthyciad ffioedd yn seiliedig ar brawf modd.
Cyfraddau benthyciad ffioedd: darparwr cyffredin
- Cyfanswm benthyciad ffioedd ar gyfer darparwyr yng Nghymru, £2,875.
- Cyfanswm benthyciad ffioedd ar gyfer y Brifysgol Agored, £2,875.
- Cyfanswm benthyciad ffioedd ar gyfer darparwyr eraill yn y DU, £7,335.
Cyfraddau benthyciad ffioedd: darparwr preifat
- Cyfanswm benthyciad ffioedd ar gyfer darparwyr yng Nghymru, £2,875.
- Cyfanswm benthyciad ffioedd ar gyfer darparwyr eraill yn y DU, £4,895.
Noder nad oes yn rhaid i ddarparwyr a sefydliadau gydymffurfio â chapiau ar ffioedd a gallant godi ffioedd uwch nag uchafswm y benthyciad ffioedd rhan-amser sydd ar gael. Gellir ond cael hyd at yr uchafsymiau a nodwyd o fenthyciad ffioedd a bydd rhaid i’r myfyriwr dalu’r gweddill.
Grant Ffioedd: cyn 1 Medi 2014
Mae gan fyfyrwyr rhan-amser cymwys sy'n dechrau ar gwrs cyn Medi 2014 hawl i grant ffioedd hefyd. Mae grantiau ffioedd yn dibynnu ar ddwysedd yr astudio ac incwm yr aelwyd, fel a ganlyn:
Lle mae incwm yr aelwyd yn llai na £16,865 a’r astudio ar ddwysedd o:
- hyd at 60%, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £690
- 60 i 74%, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £820
- 75% neu fwy, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £1,025
Lle mae incwm yr aelwyd yn £16,865 a’r astudio ar ddwysedd o:
- hyd at 60%, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £640
- 60 i 74%, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £770
- 75% neu fwy, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £975
Lle mae incwm yr aelwyd o £16,865 i £25,434 a’r astudio ar ddwysedd o:
- hyd at 60%, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £640 gyda £1 yn llai am bob £14.52 o incwm dros £16,865
- 60 i 74%, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £770 gyda £1 yn llai am bob £11.90 o incwm dros £16,865
- 75% neu fwy, mae gan fyfyriwr hawl i gael grant ffioedd o £975 gyda £1 yn llai am bob £9.26 o incwm dros £16,865
Lle mae incwm yr aelwyd yn £25,435 a’r astudio ar ddwysedd o:
- hyd at 60%, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £50
- 60 i 74%, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £50
- 75% neu fwy, mae gan fyfyriwr hawl i grant ffioedd o £50
Pan fo incwm yr aelwyd yn fwy na £25,435, nid oes gan fyfyriwr hawl i unrhyw grant ffioedd, waeth pa mor ddwys yw'r astudio.
Cymorth cynhaliaeth rhan-amser
Cymorth cynhaliaeth: ar neu ar ôl 1 Medi 2014
Bydd myfyrwyr cymwys rhan-amser a myfyrwyr cymwys sy’n dysgu o bell (astudio ar ddwysedd o 50% neu fwy) yn gallu gwneud cais am grant cynhaliaeth o hyd at £1,155 ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall sy’n gysylltiedig â’u cwrs. Mae’r grant hwn yn cael ei asesu ar sail incwm, gyda swm y grant yn lleihau £1 am bob £1.886 o incwm cyfrifiadwy sy’n uwch na £26,095.
- Lle mae incwm yn £26,095 ac is, mae'r grant yn £1,155.
- Lle mae incwm yn £26,096 i £28,179, mae'r grant yn £1,155 gyda £1 yn llai am bob £1.886 o incwm sydd dros £26,095.
- Lle mae incwm yn £28,180, mae'r grant yn £50.
Pan fo incwm yr aelwyd yn uwch na £28,180, nid oes gan fyfyriwr hawl i gymorth cynhaliaeth.
Didyniad incwm
Mae didyniadau incwm yn berthnasol i fyfyrwyr sydd â phartneriaid a phlant dibynnol:
- mae £2,000 o incwm aelwyd yn cael ei ddiystyru ar gyfer myfyriwr sydd â phartner
- mae £2,000 o incwm aelwyd yn cael ei ddiystyru ar gyfer y plentyn dibynnol cyntaf, a £1,000 ar gyfer pob plentyn wedi hynny
Cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)
Bydd myfyrwyr cymwys rhan-amser sy’n cwblhau cwrs AGA rhan-amser yn gallu gwneud cais am fenthyciad ffioedd a grant cynhaliaeth fel y disgrifiwyd uchod.
Grant Myfyrwyr Anabl
Gall myfyrwyr israddedig, sy'n astudio'n llawnamser neu'n rhan-amser, fod yn gymwys i gael grant i’w cynorthwyo â gwariant ychwanegol a ysgwyddir o ganlyniad uniongyrchol i'w anabledd. Nid yw'n seiliedig ar brawf modd nac wedi'i raddio'n seiliedig ar ddwysedd yr astudio. Uchafswm y grant ym mlwyddyn academaidd 2026 i 2027 fydd £34,671 ac mae'n cwmpasu'r meysydd gwariant canlynol:
- Cynorthwyydd personol nad yw'n feddygol.
- Eitemau mawr o offer arbenigol.
- Gwariant arall sy'n gysylltiedig ag anabledd.
Bydd lwfans teithio ar wahân sydd heb ei gapio hefyd ar gael i fyfyrwyr sy'n ysgwyddo costau teithio ychwanegol sy'n gysylltiedig ag astudio oherwydd eu hanabledd.
Cymorth ychwanegol i fyfyrwyr llawnamser a rhan-amser
Benthyciadau cynhaliaeth uwch ar gyfer blynyddoedd llawnamser estynedig
Mae benthyciad cynhaliaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr cymwys llawnamser ar gyfer astudio mewn blynyddoedd academaidd sy’n para mwy na 30 wythnos a 3 diwrnod.
- £98 yr wythnos am fyfyrwyr sy’n preswylio yn y cartref rhiant.
- £188 yr wythnos am fyfyrwyr sy’n astudio oddi wrth cartref, yn Llundain.
- £147 yr wythnos am fyfyrwyr sy’n astudio oddi wrth cartref, tu allan i Lundain.
- £205 yr wythnos am fyfyrwyr sy’n astudio oddi wrth cartref, tramor.
Nid yw myfyrwyr sy’n gymwys am gyfradd is y benthyciad yn gymwys am swm ychwanegol.
Grantiau i Ddibynyddion
Grant Oedolyn Dibynnol
Gellir talu Grant Oedolyn Dibynnol i fyfyriwr gymwys llawnamser neu rhan-amser sydd â phartner dibynnol neu oedolyn arall dibynnol. Lle bo'n berthnasol, uchafswm y grant ym mlwyddyn academaidd 2026 i 2027 mewn perthynas â phriod fydd £3,474 (yn amodol ar y cyfrifiad dwysedd astudio ar gyfer myfyrwyr rhan-amser). Os nad oes gan y myfyriwr bartner, gall myfyriwr fod yn gymwys i gael y grant hwn mewn perthynas ag un oedolyn dibynnol nad yw ei incwm net yn fwy na £3,923.
Grant Gofal Plant
Mae Grant Gofal Plant yn cael ei ddarparu i helpu myfyriwr cymwys llawnamser neu rhan-amser gyda chostau gofal plant yn ystod eu cwrs.
Bydd swm y grant i’w dalu yn seiliedig ar 85% o’r costau gofal plant gwirioneddol, yn amodol ar uchafswm grant o:
- £196 yr wythnos am un plentyn
- £335 yr wythnos am ddau blentyn neu fwy (yn amodol ar gyfrifiadau dwysedd astudio ar gyfer cyrsiau rhan-amser)
Pan nad oes darparwr gofal plant wedi’i nodi, bydd swm y grant gofal plant i’w dalu ym mlwyddyn academaidd 2026 i 2027 yn seiliedig ar 85% o’r costau gofal plant gwirioneddol, yn amodol ar uchafswm grant o £150 yr wythnos (yn amodol ar gyfrifiadau dwysedd astudio). Bydd y taliad cyfradd is hwn yn cael ei wneud nes bod manylion y darparwr gofal plant wedi’u cyflwyno, ac ond yn cael ei dalu am un chwarter academaidd (tymor fel arfer).
Lwfans Grant Dysgu Rhieni
Mae Lwfans Grant Dysgu Rhieni ar gael i fyfyrwyr cymwys llawnamser neu rhan-amser sydd â phlant.
Yr uchafswm i’w dalu ym mlwyddyn academaidd 2026 i 2027 fydd £1,983 (yn amodol ar gyfrifiadau dwysedd astudio ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau rhan-amser) gyda’r isafswm yn £54 yn dibynnu ar brawf modd.
Diystyru incwm dibynyddion
Mae swm o incwm yn cael ei ddiystyru wrth gyfrifo hawl i Grantiau ar gyfer Dibynyddion.
- Mae £1,235 yn cael ei ddiystyru lle nad oes gan y myfyriwr cymwys blant dibynnol.
- Mae £3,700 yn cael ei ddiystyru lle nad yw'r myfyriwr yn rhiant sengl a bod ganddo 1 plentyn dibynnol.
- Mae £4,934 yn cael ei ddiystyru lle nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant sengl a bod ganddo fwy nag 1 plentyn dibynnol, neu'n rhiant sengl a bod ganddo 1 plentyn dibynnol.
- Mae £6,175 yn cael ei ddiystyru os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant sengl a bod ganddo fwy nag 1 plentyn dibynnol.
Grant Teithio
Mae grant teithio ar gael i fyfyrwyr ar gyrsiau meddygaeth neu ddeintyddiaeth ac i fyfyrwyr sy’n astudio neu weithio dramor fel rhan o’u cwrs o dan rai amgylchiadau. Caiff y costau gwirioneddol eu had-dalu, ar ôl tynnu’r swm sy’n cael ei ddiystyru.
Y swm i’w ddiystyru mewn unrhyw asesiad o hawl fydd £303 i bob myfyriwr.
Bandiau dwysedd astudio rhan-amser
Bydd myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau rhan-amser yn gymwys i wneud cais am Grantiau i Ddibynyddion (GfDs) wrth astudio ar ddwyster astudio o leiaf 25% o gwrs cyfwerth ag amser llawn. Dyma’r bandiau dwyster astudio a ddefnyddir i gyfrif faint o’r Grant i Ddibynyddion sy'n daladwy:
- 25% lle mae’r dwyster astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn o leiaf 25% ac yn is na 30%
- 30% lle mae’r dwyster astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn o leiaf 30% ac yn is na 40%
- 40% lle mae’r dwyster astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn o leiaf 40% ac yn is na 50%
- 50% lle mae’r dwyster astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn o leiaf 50% ond yn llai na 60%
- 60% lle mae’r dwyster astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn o leiaf 60% ond yn llai na 75%, a
- 75% lle mae’r dwyster astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn o leiaf 75% neu fwy
Cymorth i fyfyrwyr ar gyrsiau’r GIG
Gweler Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru am wybodaeth gynhwysfawr.
Bydd pob myfyrwyr cymwys llawnamser ar gyrsiau gofal iechyd (gan gynnwys meddygaeth a deintyddiaeth) yn gallu gwneud cais am y gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth yn ystod eu blynyddoedd bwrsariaeth.
Meddygaeth a deintyddiaeth
Mae cymorth ffioedd a chynhaliaeth yn cael ei ddarparu gan y GIG a Llywodraeth Cymru (drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru). Darperir cymorth y GIG ar ffurf bwrsarïau nad oes rhaid eu had-dalu a chymorth Cyllid Myfyrwyr Cymru ar ffurf benthyciadau i’w had-dalu.
Cyrsiau llawnamser 4 blynedd
Mae cymorth ffioedd a chynhaliaeth ar gael i’r rhai ar gyrsiau mynediad carlam i raddedigion, sy’n gyrsiau 4 blynedd.
Mae cymorth ffioedd y flwyddyn gyntaf yn cynnwys benthyciad ffioedd o hyd at £6,325 drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru. Mae’n rhaid i fyfyrwyr ariannu gweddill y ffi dysgu eu hunain, nid oes bwrsari ffioedd dysgu ar gael gan y GIG. Yn y blynyddoedd canlynol (blynyddoedd 2 i 4), telir bwrsari ffioedd dysgu gan y GIG o hyd at £4,000 ac mae benthyciad ffioedd dysgu o hyd at £5,790 ar gael drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru i dalu gweddill y ffi dysgu.
Mae cymorth cynhaliaeth yn cynnwys cymysgedd o fenthyciad i’w ad-dalu gan Cyllid Myfyrwyr Cymru a bwrsarïau nad oes angen eu had-dalu gan y GIG. Gall myfyrwyr wneud cais am y gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru ym mlwyddyn un, nid oes bwrsari ar gael gan y GIG. Ym mhob un o'r blynyddoedd dilynol (blynyddoedd 2 a 4), darperir cymorth gan y GIG drwy fwrsari nad oes yn angen ei ad-dalu a gall myfyrwyr hefyd wneud cais am gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.
Cyrsiau llawnamser 5 mlynedd
Mae cymorth ffioedd a chynhaliaeth ar gael i’r rhai ar gyrsiau pum mlynedd.
Darperir cymorth ffioedd o’r flwyddyn 1 i’r 4 ar ffurf benthyciad (hyd at yr uchafswm statudol o £9,790). Bwrsari’r GIG nad oes angen ei ad-dalu yw’r cymorth ffioedd yn y bumed flwyddyn. Os oes gan fyfyriwr radd anrhydedd o sefydliad yn y DU ni fydd yn gymwys am gymorth benthyciad ffioedd ar gyfer cwrs pum mlynedd.
Mae myfyrwyr sy'n ymgymryd â chwrs meddygol neu deintyddiaeth 5 mlynedd fel gradd israddedig gyntaf yn gymwys i wneud cais am grant cynhaliaeth a benthyciad cynhaliaeth ar sail prawf modd ym mlynyddoedd 1 i 4 o’r cwrs; nid oes bwrsari ffioedd dysgu ar gael gan y GIG. Ym mlwyddyn 5 y cwrs, darperir cymorth cynhaliaeth gan y GIG trwy fwrsariaeth nad oes angen ei ad-dalu a gall myfyrwyr hefyd wneud cais am y gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru..
Ar gyfer myfyrwyr amser llawn cymwys sy'n ymgymryd â chyrsiau meddygaeth neu deintyddiaeth 5 mlynedd fel ail radd neu radd israddedig ddilynol, gallant wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth yn unig gan Gyllid Myfyrwyr Cymru ym mlynyddoedd 1 i 4 o'r cwrs, nid oes grant cynhaliaeth ar gael iddynt gan Gyllid Myfyrwyr Cymru. Ym mlwyddyn 5, darperir cymorth cynhaliaeth gan y GIG drwy fwrsari nad oes angen ei ad-dalu a gall myfyrwyr hefyd wneud cais am y gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.
Nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill
Telir ffioedd myfyrwyr nyrsio a myfyrwyr iechyd proffesiynol cymwys eraill sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n astudio yng Nghymru yn llawn gan fwrsariaeth y GIG.
Mae gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn cynnwys Ceiropodryddion (yn cynnwys Podiatryddion), Dietegwyr, Radiograffwyr, Therapyddion Lleferydd ac Iaith, Hylenwyr deintyddol, Gwyddonwyr gofal iechyd, Parafeddygon, Therapyddion deintyddol, Therapyddion galwedigaethol a Ffisiotherapyddion.
Mae’r cymorth cynhaliaeth ar ffurf bwrsari gan y GIG nad oes angen ei ad-dalu. Gall myfyrwyr cymwys ar radd israddedig gyntaf a myfyrwyr cymwys ar ail radd neu radd israddedig ddilynol, hefyd fod yn gymwys i gael y gyfradd lawn o fenthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.
Bydd yn rhaid i fyfyrwyr cymwys sy’n astudio yng Nghymru ac sy’n gwneud cais am fwrsari’r GIG ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cymhwyso.
Nid yw myfyrwyr nad ydynt yn ymrwymo i'r cyfnod o 2 flynedd, neu sy'n astudio y tu allan i Gymru, yn gymwys i gael bwrsari'r GIG a gallant wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am y pecyn cymorth i fyfyrwyr amser llawn neu ran-amser, yn amodol ar fodloni'r rheolau astudio blaenorol. Gall myfyrwyr hefyd fod yn gymwys i gael grantiau a lwfansau eraill gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.
Tablau eglurhaol
Tabl 1A: Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth yn ôl lefel incwm (ar gyfer myfyrwyr sy'n byw gartref ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2012) (£s)
| Incwm yr Aelwyd | Grant Cynhaliaeth | Benthyciad Cynhaliaeth | Cyfanswm |
| 18,370 | 5,161 | 3,985 | 9,146 |
| 20,000 | 4,715 | 4,208 | 8,923 |
| 25,000 | 3,347 | 4,892 | 8,239 |
| 26,500 | 2,936 | 5,097 | 8,033 |
| 30,000 | 2,099 | 5,516 | 7,615 |
| 34,000 | 1,142 | 5,994 | 7,136 |
| 40,000 | 734 | 6,198 | 6,932 |
| 45,000 | 393 | 6,369 | 6,762 |
| 50,020 | 50 | 6,540 | 6,590 |
| 50,753 | 0 | 6,565 | 6,565 |
| 55,000 | 0 | 5,716 | 5,716 |
| 58,961 | 0 | 4,924 | 4,924 |
(a) Os yw incwm yr aelwyd rhwng £50,753 a £81,793, bydd cyfraniad aelwyd o £1 am bob £5 o incwm ychwanegol. Gweler tabl 3.
(b) Caiff swm y benthyciad y mae myfyrwyr yn gymwys i'w gael ei ostwng 50c am bob £1 o'r grant y mae ganddynt hawl iddo, hyd at uchafswm o £2,580. Yn ogystal, os yw incwm gweddilliol aelwydydd yn fwy na £50,753, bydd swm y benthyciad yn cael ei ostwng £1 am bob £5 cyflawn y mae’r incwm yn fwy na £50,753 nes bod 75% o'r benthyciad llawn ar ôl.
(c) Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tabl bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.
Tabl 1B: Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth yn ôl lefel incwm (ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, yn Llundain, ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2012) (£s)
| Incwm yr Aelwyd | Grant Cynhaliaeth | Benthyciad Cynhaliaeth | Cyfanswm |
| 18,370 | 5,161 | 9,300 | 14,461 |
| 20,000 | 4,715 | 9,523 | 14,238 |
| 25,000 | 3,347 | 10,207 | 13,554 |
| 26,500 | 2,936 | 10,412 | 13,348 |
| 30,000 | 2,099 | 10,831 | 12,930 |
| 34,000 | 1,142 | 11,309 | 12,451 |
| 40,000 | 734 | 11,513 | 12,247 |
| 45,000 | 393 | 11,684 | 12,077 |
| 50,020 | 50 | 11,855 | 11,905 |
| 50,753 | 0 | 11,880 | 11,880 |
| 55,000 | 0 | 11,031 | 11,031 |
| 65,086 | 0 | 8,910 | 8,910 |
(a) Os yw incwm yr aelwyd rhwng £50,753 a £81,793, bydd cyfraniad aelwyd o £1 am bob £5 ychwanegol o incwm aelwyd. Gweler tabl 3.
(b) Caiff swm y benthyciad y mae myfyrwyr yn gymwys i'w gael ei ostwng 50c am bob £1 o'r grant y mae ganddynt hawl iddo, hyd at uchafswm o £2,580. Yn ogystal, os yw incwm gweddilliol aelwydydd yn fwy na £50,753, bydd swm y benthyciad yn cael ei ostwng £1 am bob £5 cyflawn y mae’r incwm yn fwy na £50,753 nes bod 75% o'r benthyciad llawn ar ôl.
(c) Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tabl bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.
Tabl 1C: Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth yn ôl lefel incwm (ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, y tu allan i Lundain, ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2012) (£s)
| Incwm yr Aelwyd | Grant Cynhaliaeth | Benthyciad Cynhaliaeth | Cyfanswm |
| 18,370 | 5,161 | 5,901 | 11,062 |
| 20,000 | 4,715 | 6,124 | 10,839 |
| 25,000 | 3,347 | 6,808 | 10,155 |
| 26,500 | 2,936 | 7,013 | 9,949 |
| 30,000 | 2,099 | 7,432 | 9,531 |
| 34,000 | 1,142 | 7,910 | 9,052 |
| 40,000 | 734 | 8,114 | 8,848 |
| 45,000 | 393 | 8,285 | 8,678 |
| 50,020 | 50 | 8,456 | 8,506 |
| 50,753 | 0 | 8,481 | 8,481 |
| 55,000 | 0 | 7,632 | 7,632 |
| 60,986 | 0 | 6,361 | 6,361 |
(a) Os yw incwm yr aelwyd rhwng £50,753 a £81,793, bydd cyfraniad aelwyd o £1 am bob £5 ychwanegol o incwm aelwyd. Gweler tabl 3.
(b) Caiff swm y benthyciad y mae myfyrwyr yn gymwys i'w gael ei ostwng 50c am bob £1 o'r grant y mae ganddynt hawl iddo, hyd at uchafswm o £2,580. Yn ogystal, os yw incwm gweddilliol aelwydydd yn fwy na £50,753, bydd swm y benthyciad yn cael ei ostwng £1 am bob £5 cyflawn y mae’r incwm yn fwy na £50,753 nes bod 75% o'r benthyciad llawn ar ôl.
(c) Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tabl bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.
Tabl 2A: Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth i'r rhai sy'n gymwys am Daliad Cymorth Arbennig yn ôl lefel incwm (ar gyfer myfyrwyr sy'n byw gartref ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2012) (£s)
| Incwm yr Aelwyd | Grant Cynhaliaeth | Benthyciad Cynhaliaeth | Cyfanswm |
| 18,370 | 5,161 | 6,565 | 11,726 |
| 20,000 | 4,715 | 6,565 | 11,280 |
| 25,000 | 3,347 | 6,565 | 9,912 |
| 26,500 | 2,936 | 6,565 | 9,501 |
| 30,000 | 2,099 | 6,565 | 8,664 |
| 34,000 | 1,142 | 6,565 | 7,707 |
| 40,000 | 734 | 6,565 | 7,299 |
| 45,000 | 393 | 6,565 | 6,958 |
| 50,020 | 50 | 6,565 | 6,615 |
| 50,753 | 0 | 6,565 | 6,565 |
| 55,000 | 0 | 5,716 | 5,716 |
| 58,961 | 0 | 4,924 | 4,924 |
(a) Os yw incwm yr aelwyd rhwng £50,753 a £81,793, bydd cyfraniad aelwyd o £1 am bob £5 ychwanegol o incwm aelwyd. Gweler tabl 3.
(b) Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tabl bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.
Tabl 2B: Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth ar gyfer y rhai sy'n gymwys am Daliad Cymorth Arbennig yn ôl lefel incwm (ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, yn Llundain, ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2012) (£s)
| Incwm yr Aelwyd | Grant Cynhaliaeth | Benthyciad Cynhaliaeth | Cyfanswm |
| 18,370 | 5,161 | 11,880 | 17,041 |
| 20,000 | 4,715 | 11,880 | 16,595 |
| 25,000 | 3,347 | 11,880 | 15,227 |
| 26,500 | 2,936 | 11,880 | 14,816 |
| 30,000 | 2,099 | 11,880 | 13,979 |
| 34,000 | 1,142 | 11,880 | 13,022 |
| 40,000 | 734 | 11,880 | 12,614 |
| 45,000 | 393 | 11,880 | 12,273 |
| 50,020 | 50 | 11,880 | 11,930 |
| 50,753 | 0 | 11,880 | 11,880 |
| 55,000 | 0 | 11,031 | 11,031 |
| 65,605 | 0 | 8,910 | 8,910 |
(a) Os yw incwm yr aelwyd rhwng £50,753 a £81,793, bydd cyfraniad aelwyd o £1 am bob £5 ychwanegol o incwm aelwyd. Gweler tabl 3.
(b) Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tablau bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.
Tabl 2C: Hawl i grant a benthyciad cynhaliaeth ar gyfer y rhai sy'n gymwys am Daliad Cymorth Arbennig yn ôl lefel incwm (ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio oddi cartref, y tu allan i Lundain, ac a ddechreuodd ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2012) (£s)
| Incwm yr Aelwyd | Grant Cynhaliaeth | Benthyciad Cynhaliaeth | Cyfanswm |
| 18,370 | 5,161 | 8,481 | 13,642 |
| 20,000 | 4,715 | 8,481 | 13,196 |
| 25,000 | 3,347 | 8,481 | 11,828 |
| 26,500 | 2,936 | 8,481 | 11,417 |
| 30,000 | 2,099 | 8,481 | 10,580 |
| 34,000 | 1,142 | 8,481 | 9,623 |
| 40,000 | 734 | 8,481 | 9,215 |
| 45,000 | 393 | 8,481 | 8,874 |
| 50,020 | 50 | 8,481 | 8,531 |
| 50,753 | 0 | 8,481 | 8,481 |
| 55,000 | 0 | 7,632 | 7,632 |
| 61,356 | 0 | 6,361 | 6,361 |
- (a) Os yw incwm yr aelwyd rhwng £50,753 a £81,793, bydd cyfraniad aelwyd o £1 am bob £5 ychwanegol o incwm aelwyd. Gweler tabl 3.
- (b) Mae'r holl rifau wedi'u talgrynnu i'r £1 agosaf ac felly efallai na fydd symiau’r grantiau a’r benthyciadau a ddangosir yn y tablau bob amser adlewyrchu cyfanswm y cymorth.
Tabl 3: Asesiad o gyfraniad aelwyd yn ôl lefel incwm (ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd cwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2012) (£s)
| Incwm aelwyd | Cyfraniad |
| 50,753 | 0 |
| 51,000 | 49 |
| 52,000 | 249 |
| 53,000 | 449 |
| 54,000 | 649 |
| 55,000 | 849 |
| 56,000 | 1,049 |
| 57,000 | 1,249 |
| 58,000 | 1,449 |
| 59,000 | 1,649 |
| 60,000 | 1,849 |
| 61,000 | 2,049 |
| 62,000 | 2,249 |
| 63,000 | 2,449 |
| 64,000 | 2,649 |
| 65,000 | 2,849 |
| 66,000 | 3,049 |
| 67,000 | 3,249 |
| 68,000 | 3,449 |
| 69,000 | 3,649 |
| 70,000 | 3,849 |
| 71,000 | 4,049 |
| 72,000 | 4,249 |
| 73,000 | 4,449 |
| 74,000 | 4,649 |
| 75,000 | 4,849 |
| 76,000 | 5,049 |
| 77,000 | 5,249 |
| 78,000 | 5,449 |
| 79,000 | 5,649 |
| 80,000 | 5,849 |
| 81,000 | 6,049 |
| 81,793 | 6,208 |
Termau
Darparwr cyffredin
Darparwr y mae ei gyrsiau wedi’u dynodi gan y rheoliadau cymorth i fyfyrwyr. Gweler rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2017, a rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018..
Darparwr preifat
Darparwr y mae ei gyrsiau wedi’u dynodi gan Weinidogion Cymru gan ddefnyddio eu pwerau yn y rheoliadau. Gweler rheoliad 5(8) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Cymru) 2017, a rheoliad 8 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018.
Y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu (a elwir hefyd yn Taith)
Rhaglen Llywodraeth Cymru yw Taith sy'n ariannu cyfleoedd rhyngwladol i ddarparwyr addysg ac ieuenctid yng Nghymru. Mae'n cefnogi cyfleoedd cyfnewid allanol a mewnol i fyfyrwyr a staff.
Turing
Mae Cynllun Turing yn rhaglen Llywodraeth y DU i ddarparu arian ar gyfer cyfleoedd rhyngwladol allanol mewn addysg a hyfforddiant.
Cartref rhiant
Mae’r myfyriwr yn byw yng nghartref ei riant wrth ddilyn y cwrs cyfredol.
Astudio oddi cartref, yn Llundain
Mae’r myfyriwr yn byw i ffwrdd o gartref ei riant tra fydd yn (ii) dilyn cwrs ym Mhrifysgol Llundain, (ii) yn dilyn cwrs mewn sefydliad sy’n gofyn am bresenoldeb yn y flwyddyn academaidd ar safle sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn Llundain ble mae o leiaf hanner unrhyw chwarter o’r cwrs yn cael ei ddarparu mewn safle o’r fath, neu (iii) yn dilyn cwrs rhyngosod yn y flwyddyn academaidd mewn sefydliad sy’n gofyn i’r myfyrwyr gwblhau profiad gwaith, neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio, yn Llundain lle mae’r profiad gwaith hwnnw neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio, yn cael ei wneud am o leiaf hanner unrhyw chwarter.
Astudio oddi cartref, yn rhywle arall
Mae’r myfyriwr yn byw i ffwrdd o gartref ei riant ond nid yw’n astudio yn Llundain, yn cynnwys mynychu sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel rhan o gwrs y myfyriwr neu’n cwblhau lleoliad gwaith tramor mewn blwyddyn ERASMUS+/TURING/ILE (a elwir yn TAITH).
Prawf modd
Mae hyn yn golygu bod y cymorth a ddarperir yn seiliedig ar incwm yr aelwyd.
Dim prawf modd
Mae hyn yn golygu nad yw'r cymorth a ddarperir yn seiliedig ar incwm yr aelwyd.
