Mae Cymru Greadigol wedi dathlu blwyddyn wych wrth i gynyrchiadau sy'n cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru gael lle blaenllaw ar sgriniau ac mewn seremonïau gwobrwyo drwy gydol 2025.
Cyrhaeddodd straeon llwyddiant Gwnaethpwyd yng Nghymru eu hanterth yng Ngwobrau Emmy ym mis Medi, lle enillodd dau gynhyrchiad a gefnogwyd gan Cymru Greadigol wobrau mawreddog. Derbyniodd Lost Boys and Fairies ac Until I Kill You gydnabyddiaeth ryngwladol, gan arddangos y safon adrodd straeon ar y sgrin sy'n dod i'r amlwg o Gymru.
Mae llawer o gynyrchiadau mawr yn parhau i ddewis Cymru, gyda'r ddrama fywgraffyddol Mr Burton a Havoc Netflix yn dod â gwaith ffilmio proffil uchel i'r genedl, gan gefnogi criwiau a chyfleusterau lleol tra'n tynnu sylw at Gymru fel cyrchfan ffilmio o'r radd flaenaf.
Parhaodd y pwerdy cynhyrchu Cymreig Bad Wolf â'i lwyddiant gyda dwy sioe boblogaidd. Fe wnaeth Dope Girls a Industry swyno cynulleidfaoedd, gan gadarnhau enw da'r cwmni am greu teledu cymhellol, clodwiw.
Nid yw'r momentwm yn debygol o arafu, gan fod Bad Wolf newydd lansio cyfres newydd hir ddisgwyliedig sy'n deillio o Doctor Who sef The War Between the Land and the Sea.
Mae disgwyl i sawl cynhyrchiad hefyd gyrraedd ein sgriniau y flwyddyn nesaf; The Other Bennet Sister, stori Pride and Prejudice o safbwynt Mary Bennet; ffilm gyffro drosedd Sky Original Salt Marsh gyda Rafe Spall a Kelly Reilly yn serennu; Young Sherlock, wedi'i chyfarwyddo gan Guy Richie ar gyfer Amazon Prime Video, i enwi ond ychydig.
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £2.5miliwn arall o fuddsoddiad yn y sector, gan fynd â'r buddsoddiad cynhyrchu i £33.8 miliwn ar draws 70 o brosiectau ers lansio Cymru Greadigol 5 mlynedd yn ôl, gan gynhyrchu £419.7 miliwn i economi Cymru.
Nododd adroddiad a lansiwyd gan Netflix eleni fod ei gynyrchiadau a wnaed yng Nghymru, fel y gyfres boblogaidd Sex Education, wedi cynhyrchu £200 miliwn i economi'r DU ers 2020 ac wedi cefnogi tua 500 o fusnesau Cymru yn anuniongyrchol o ganlyniad.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:
Mae'r diwydiant teledu a ffilmiau yn stori o lwyddiant go iawn i Gymru, ac rydym yn hynod falch o'r holl dalent sy'n bodoli ar draws y sector. Boed yn actorion, yn gyfarwyddwyr, awduron , cynhyrchwyr neu griwiau, mae ein diwydiannau sgrin yn rhoi ein cenedl ar y llwyfan byd-eang yn gyson. Nid yn unig y mae'r diwydiant yn sbardun economaidd pwysig i Gymru, ond rydym yn meithrin ac yn uwchsgilio'r genhedlaeth nesaf o dalent ar gyfer y sgrin drwy ysgogi cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau i'n pobl ifanc. Rwy'n cydnabod bod y diwydiant ledled y DU yn wynebu ansicrwydd ar hyn o bryd gyda llawer o weithwyr llawrydd talentog allan o waith, sy'n gwneud ein buddsoddiad a'n cefnogaeth barhaus hyd yn oed yn bwysicach.
Mae'r hyn rydym wedi ei gyflawni yn dangos rôl hanfodol Cymru Greadigol wrth feithrin talent cynhyrchu a denu prosiectau mawr i Gymru, tra'n cyfrannu at enw da cynyddol y genedl fel canolfan greadigol a sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn lle i fwynhau gyrfa lwyddiannus, gynaliadwy ym maes teledu a ffilm.
