Mae dros 400 o hybiau clyd ledled Cymru yn darparu cymorth hanfodol i gymunedau y gaeaf hwn, diolch i gyllid gwerth £1.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r hybiau'n cynnig mannau diogel a chroesawgar lle y gall pobl o bob oedran gwrdd â'i gilydd, cael cyngor, cadw'n gynnes a chysylltu ag eraill yn eu cymuned leol.
Mae llawer o'r hybiau clyd yn cynnig cymorth ymarferol ar gyfer rheoli biliau, hawlio budd-daliadau a chael cyngor ar sut i arbed ynni. Maen nhw hefyd yn creu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, dysgu sgiliau newydd, neu fwynhau diod gynnes neu fwyd a sgwrs gyfeillgar.
Mae'r ymrwymiad cyllid hwn yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025 i 2026 yn adeiladu ar fuddsoddiad blaenorol, cyfanswm o £4 miliwn ers 2022, ac mae wedi sicrhau bod hybiau'n gallu cefnogi cymunedau drwy gydol y flwyddyn, nid yn unig yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae'r hybiau clyd wedi cael eu teilwra i ddiwallu anghenion lleol ac mae'r cyllid yn cael ei ddyrannu drwy awdurdodau lleol. Maen nhw'n dibynnu ar wirfoddolwyr ymroddedig i greu amgylcheddau cynhwysol a chefnogol.
Yn ddiweddar, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol â Hyb Ystum Taf a Gabalfa yng Nghaerdydd i weld sut mae'r mannau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Croesawodd yr hyb, a agorodd yn 2017, 168,073 o ymwelwyr yn 2024 i 2025, gan ei wneud yn un o gyfleusterau cymunedol prysuraf Caerdydd.
Yn ogystal â chynnig cynhesrwydd ac wynebau cyfeillgar maen nhw'n helpu pobl i gael mynediad at wasanaethau llyfrgell, gweithgareddau iechyd a lles, cyngor tai a budd-daliadau, cymorth cyflogaeth, hyfforddiant TG, a gwasanaethau wedi'u darparu gan sefydliadau partner. Mae'r ganolfan hefyd yn cynnwys caffi cymunedol modern, mannau astudio tawel a chyfleusterau cwbl hygyrch.
Dywedodd Rheolwr Gweithredol Canolfan Ystum Taf a Gabalfa, Hayley Beynon:
Rydyn ni'n falch iawn o weld effaith gadarnhaol y fenter Mannau Croeso Cynnes, yn enwedig ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Mae wedi caniatáu inni wella ein gwasanaethau drwy ddarparu amgylchedd diogel, cynnes a chyfforddus, mynediad at gyngor a chymorth, rhaglen amrywiol o weithgareddau, gan gynnwys diwrnodau o hwyl i'r teulu – i gyd yn helpu pobl i gadw'n gynnes ac mewn cysylltiad a'u cefnogi yn ystod adeg o'r flwyddyn sy'n gallu bod yn heriol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
Yn ystod fy ymweliad â Hyb Ystum Taf a Gabalfa, gwelais i'r gwahaniaeth anhygoel mae'r hybiau yn ei wneud i fywydau pobl – gan ddarparu nid yn unig cynhesrwydd a chymorth ymarferol, ond ymdeimlad gwirioneddol o gymuned a pherthyn.
Rwy'n falch o gefnogi hybiau ledled Cymru sy'n cynnig gwasanaethau hanfodol drwy gydol y flwyddyn, gan helpu pobl i gael gafael ar gyngor, dysgu sgiliau newydd a mynd i'r afael ag unigrwydd. Mae'r mannau hyn yn bwysicach byth yn ystod misoedd y gaeaf pan fydd angen lle cynnes a chroesawgar ar bobl lle y gallan nhw gael cymorth a chwmnïaeth.
Mae'r buddsoddiad yn rhan o becyn cymorth ehangach Llywodraeth Cymru sy'n cynnwys y Gronfa Cymorth Dewisol, Gwasanaethau'r Gronfa Gynghori Sengl, a'r Cynllun Talebau Tanwydd.
