Neidio i'r prif gynnwy

Yn ddiweddar, ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies, â FareShare Cymru yng Nghaerdydd i weld sut y bydd teuluoedd bregus ledled Cymru yn elwa o wasanaethau ailddosbarthu bwyd ehangach y Nadolig hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r sefydliad yn trawsnewid bwyd dros ben yn brydau bwyd i'r rhai mewn angen, gan weithio gyda chlybiau brecwast ysgolion, caffis cymunedol a llochesi'r digartref ledled Cymru. 

Ers 2015, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae FareShare Cymru wedi ailddosbarthu bron i 7,000 tunnell o fwyd, gan osgoi gwastraffu bwyd tra'n darparu dros 20 miliwn o brydau bwyd i bobl fregus.  

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies: 

"Gall y Nadolig fod yn amser mor bryderus i deuluoedd sy'n wynebu heriau ariannol. Dyna pam mae gwaith FareShare Cymru mor mor bwysig. 
"O'u canolfan yng Nghaerdydd, maent yn dangos sut y gall bwyd dros ben ddod â phobl at ei gilydd ac maent yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ledled Cymru.  Maent yn cefnogi clybiau brecwast ysgolion, caffis cymunedol a llochesi digartref.
"Y tu ôl i'r gwaith hwn mae gwirfoddolwyr ymroddedig gan gynnwys rhai o'r bobl wych rydw i wedi cwrdd â nhw heddiw. Mae eu hegni a’u hymroddiad yn anhygoel, fel y sgiliau maent yn eu dysgu ar yr un pryd. 
"Y Nadolig hwn a thu hwnt, rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw fwyd da yn cael ei wastraffu ac yn cefnogi'r rhai mewn angen yn lle hynny." 

Dywedodd Sarah Germain o FareShare:

"Yn FareShare Cymru, mae ein gwirfoddolwyr a'n haelodau bwyd cymunedol yn chwarae rhan hanfodol wrth droi bwyd dros ben yn les cymdeithasol.
"Drwy ailddosbarthu bwyd i grwpiau cymunedol, ysgolion a chaffis ledled Cymru, rydym yn helpu i greu prydau sy'n dod â phobl at ei gilydd, yn cryfhau cymunedau, ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl, yn ogystal â lleihau gwastraff a'n helpu i adeiladu dyfodol cynaliadwy."

Yng nghwmni'r Dirprwy Brif Weinidog roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, ddywedodd:

“Rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod heriol i lawer, ac mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn gallu bod yn arbennig o anodd. 
"Mae'n ysbrydoledig gweld y gwaith sy'n digwydd yma yn FareShare, gyda gwirfoddolwyr yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau fod pobl yn cael yr help sydd ei angen arnynt tra hefyd yn lleihau gwastraff bwyd.  
"Rydyn ni'n benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i atal pobl rhag mynd i dlodi a chefnogi pobl sy'n profi tlodi – gan gynnwys cefnogi sefydliadau bwyd cymunedol i helpu i fynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd."