Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Mae gan bobl dros 60 oed bellach fynediad at 125 o sesiynau chwaraeon a ffitrwydd am ddim neu ostyngol mewn canolfannau hamdden, mannau awyr agored a lleoliadau cymunedol ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Cynllun Hamdden Actif i bobl dros 60 oed wedi cyflwyno mwy na 10,750 o sesiynau ers 2021, gyda 154,500 o bresenoldebau wedi'u cofnodi.

Mae'r gweithgareddau'n amrywio o bêl-bicl a dringo i nofio, ioga, tai chi, grwpiau cerdded a dosbarthiadau hyfforddiant cryfder.

Y llynedd yn unig, cymerodd mwy na 5,550 o bobl ran yn y rhaglen, gyda 125 o wahanol fathau o ymarfer corff ar gael.

Mae'r cynllun yn cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru ac mae'n cael ei gyflwyno ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol.

Y tu hwnt i fuddion iechyd corfforol, mae'r cynllun yn helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Mae'r cyfranogwyr yn dweud bod y cynllun yn helpu eu llesiant ac yn eu cefnogi i greu cysylltiadau cymdeithasol cryfach.

Dechreuodd Kath Knowles, 73, o Ynys Môn, chwarae pêl-bicl drwy'r cynllun yn 2018. Ers hynny mae hi wedi helpu i dyfu'r gamp a bellach mae tua 200 o chwaraewyr ar draws yr ynys. Dywedodd:

I mi, ac i'n holl chwaraewyr dw i’n meddwl, y peth gorau am fynd i’r sesiynau ydy eu bod nhw wedi dod â chwaraeon yn ôl i'n bywydau yn 60 oed a hŷn. 

“Mae'n fywyd cymdeithasol, gwych. ‘Dych chi'n cyfarfod pobl, dynion a merched, nad ydych wedi eu cyfarfod o'r blaen. Mae wedi fy helpu i gymysgu ag eraill ar ôl symud i'r ynys - dyna sut wnes i wneud ffrindiau.

Fel y rhan fwyaf o bobl, dw i wedi cael llawer o frwydrau personol yn fy mywyd. Dw i wedi cael canser y fron, a dau drawiad ar y galon. Mae hyn yn tynnu sylw oddi wrth y brwydrau ’dyn ni i gyd yn eu hwynebu mewn bywyd. Dw i wedi cael problemau iechyd meddwl fy hun ac mae'r gêm hon wedi fy helpu'n aruthrol i beidio meddwl amdanaf i fy hun, a pheidio poeni am bethau efallai na fydd yn digwydd.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver:

Mae'r Cynllun Hamdden Actif i bobl dros 60 oed yn dangos pŵer trawsnewidiol gweithgarwch corfforol yn ddiweddarach mewn bywyd. Yn ogystal â gwella lefelau gweithgarwch corfforol pobl, mae cynlluniau fel hyn yn helpu'n aruthrol gyda llesiant meddyliol, unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.

Mae'r rhaglen hon yn rhan hanfodol o'n hymrwymiad i gefnogi heneiddio'n iach, ac egnïol a sicrhau bod pobl ar draws Cymru yn gallu mwynhau'r ansawdd bywyd gorau posibl yn eu blynyddoedd hŷn.

Mae'r rhaglen yn rhan o strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach Llywodraeth Cymru, sydd wedi'i chynllunio i fynd i'r afael â lefelau uchel o orbwysau a gordewdra yng Nghymru.

Dywedodd Victoria Woods, Arweinydd Addysg ac Iechyd yn Chwaraeon Cymru:

Mae’r Cynllun Hamdden Actif i bobl dros 60 oed yn dangos sut y gall chwaraeon a gweithgarwch corfforol gyfoethogi bywydau pobl o bob oed. Trwy weithio gyda phartneriaid ar draws Cymru, rydym yn helpu pobl hŷn i fod yn egnïol, i greu cysylltiadau ac i fod yn hyderus, gan gefnogi eu hiechyd corfforol a’u llesiant meddyliol yn eu cymunedau lleol.