Neges Blwyddyn Newydd gan Eluned Morgan.
Blwyddyn Newydd Dda!
Gobeithio eich bod chi wedi cael Nadolig hapus a heddychlon.
Wrth i eleni ddod i ben, Dwi am ddymuno blwyddyn newydd lewyrchus i chi gyd.
Mae'r flwyddyn newydd hon yn dod â chyfleoedd, a gobaith.
Byddwn ni yn dal ati i weithio dros Gymru lle gall pobl deimlo mwy o degwch yn eu cymunedau a'u bywyd bob dydd.
Cymru wyrddach a mwy ffyniannus, lle gall pobl ffynnu i gyrraedd eu potensial, gyda mwy o swyddi hirdymor a chyflogau gwell, lle mae cymunedau'n cael eu cefnogi, a neb yn cael ei adael ar ôl.
Byddwn yn dal ati i leihau rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd, adeiladu mwy o gartrefi, a gwella gwasanaethau trenau a bysus ar draws Cymru.
Ac ymhellach oddi cartref, rwy'n gobeithio y bydd eleni yn dod â diwedd ar y gwrthdaro a'r trais ofnadwy sydd wedi dychryn ni i gyd yn y blynyddoedd diwethaf.
Gobeithio fydd pobl yn sefyll lan yn erbyn y rhai sy'n benderfynol o greu rhwygiadau yn ein cymunedau. Ry' ni wastad wedi bod yn wlad sy'n sefyll yn gadarn gyda'n gilydd, dim ots beth yw cefndir pobl.
Mae 2026 yn ddechrau newydd i bob un ohonom, ac mae yna lawer i fod yn obeithiol amdano.
Gallwn gyflawni cymaint mwy pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd.
Diolch yn fawr a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd.
