Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) 017: Trothwyon newydd
Mae'r WPPN hwn yn darparu hysbysiad o'r gwerthoedd trothwy newydd ar gyfer y Rheoliadau Contractau Cyhoeddus sy'n llywodraethu'r gweithdrefnau ar gyfer dyfarnu contractau cyhoeddus ar gyfer nwyddau, gwaith a gwasanaethau fel y nodir yn Neddf Caffael 2023 (PA23).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Diben
Mae'r WPPN hwn yn darparu hysbysiad o'r gwerthoedd trothwy newydd ar gyfer y Rheoliadau Contractau Cyhoeddus sy'n llywodraethu'r gweithdrefnau ar gyfer dyfarnu contractau cyhoeddus ar gyfer nwyddau, gwaith a gwasanaethau fel y nodir yn Neddf Caffael 2023 (PA23). Mae crynodeb o'r symiau trothwy sy'n gymwys o 12:05am ar 1 Ionawr 2026 i'w weld yn Atodiad A.
2. Lledaenu a chwmpas
Mae’r wybodaeth hon yn uniongyrchol berthnasol i bob Awdurdod Cymreig Datganoledig y mae ei swyddogaethau’n rhai datganoledig Cymreig yn gyfan gwbl neu’n bennaf.
Dylid lledaenu’r wybodaeth hon o fewn eich sefydliad, gan dynnu sylw’r rheini mewn swyddi rheoli caffael neu gontractio ati’n benodol.
Rhannwch y WPPN hwn ar draws eich sefydliad gan roi gwybod amdano'n benodol wrth y rhai mewn rolau caffael a masnachol.
3. Cefndir
Disgwylir i'r symiau trothwy, sy’n nodi lle mae cyfleoedd caffael cyhoeddus yn ddarostyngedig i gyfundrefn lawn Deddf Caffael 2023 sy'n llywodraethu contractau cyhoeddus, gael eu diweddaru. Maent yn cael eu hadolygu bob dwy flynedd i ystyried amrywiadau yng ngwerth arian cyfred ac i sicrhau bod y DU yn cydymffurfio â'i rhwymedigaethau o dan Gytundeb Caffael Llywodraeth (GPA) Sefydliad Masnach y Byd.
Mae Atodiad A yn nodi'r symiau trothwy diwygiedig ar gyfer contractau cyhoeddus ar gyfer nwyddau, gwaith a gwasanaethau o 1 Ionawr 2026 yn unol â'r diwygiadau a wnaed i Atodlen 1 i Ddeddf Caffael drwy Reoliadau Deddf Caffael 2023 (Symiau Trothwy) (Diwygio) (Cymru) 2025.
Nid yw'r symiau trothwy ar gyfer contractau cyffyrddiad ysgafn, contractau rheoleiddiedig sydd o dan y trothwy a chontractau amddiffyn a diogelwch yn ddarostyngedig i'r diwygiad dwy flynedd ar gyfer amrywiadau yng ngwerth arian cyfred sy'n ofynnol i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau GPA. Fodd bynnag, mae'r symiau trothwy ar gyfer contractau rheoleiddiedig sydd o dan y trothwy a chontractau amddiffyn a diogelwch serch hynny yn cael eu diwygio i sicrhau cysondeb ac i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r GPA.
Yn ogystal â hynny, mae'r symiau trothwy yn adran 85 o Ddeddf Caffael 2023, sy'n ymwneud â chymhwysedd gweithdrefnau penodol i gontractau gwaith rheoleiddiedig o dan y trothwy, hefyd yn cael eu diweddaru i sicrhau eu bod hefyd yn parhau i fod yn cyd-fynd â throthwyon GPA.
Nid yw'r symiau trothwy newydd yn effeithio ar unrhyw gaffael a ddechreuwyd cyn 1 Ionawr 2026. Yn unol â rheoliad 4 o Reoliadau Deddf Caffael 2023 (Symiau Trothwy) (Diwygio) (Cymru), mae caffael yn cael ei gychwyn pan fo hysbysiad tendr, hysbysiad tryloywder neu hysbysiad tendr sydd o dan y trothwy wedi'i gyhoeddi mewn perthynas â'r caffael hwnnw, neu os yw'r awdurdod contractio wedi gwahodd cyflwyno tendrau mewn perthynas â chontract rheoleiddiedig sydd o dan y trothwy neu wedi cysylltu â chyflenwr fel arall i ddechrau dyfarnu contract sydd o dan y trothwy.
4. Cam gweithredu
Rhaid i sefydliadau o fewn cwmpas gymhwyso'r symiau trothwy diwygiedig a nodir yn Atodiad A mewn perthynas ag unrhyw gaffaeliadau a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2026.
Ar gyfer Awdurdodau Contractio UKG, cyfeiriwch at PPN 023
5. Deddfwriaeth
6. Amseru
Daeth y symiau trothwy newydd i rym am 12.05am ar 1 Ionawr 2026. Ac felly, rhaid i sefydliadau o fewn cwmpas gymhwyso darpariaethau'r WPPN hwn mewn perthynas ag unrhyw gaffaeliadau a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2026.
7. Manylion cyswllt
Cyfeiriwch unrhyw ymholiadau at Commercial Policy – Polisi Masnachol - CommercialPolicy@gov.wales / PolisiMasnachol@llyw.cymru
Atodiad A: Crynodeb o'r symiau trothwy o 1 Ionawr 2026 ymlaen
Math o gontract a swm trothwy
- Contract amddiffyn a diogelwch sy'n gontract gwaith - £5,193,000
- Contract amddiffyn a diogelwch sy'n gontract consesiwn - £5,193,000
- Contract amddiffyn a diogelwch nad yw o fewn rhes 1, 2 neu 8 - £415,440
- Contract cyfleustodau sy'n gontract gwaith - £5,193,000
- Contract cyfleustodau sy'n gontract cyffyrddiad ysgafn - £884,720
- Contract cyfleustodau nad yw o fewn rhes 3, 4 neu 5 - £415,440
- Contract cyffyrddiad ysgafn sy'n gontract consesiwn - £5,372,609
- Contract cyffyrddiad ysgafn nad yw o fewn rhes 5 neu 7 - £663,540
- Contract consesiwn nad yw o fewn rhes 2, 6 neu 7 - £5,193,000
- Contract gwaith nad yw o fewn rhes 1, 4 neu 9 - £5,193,000
- Contract ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu waith i awdurdod llywodraeth ganolog nad yw o fewn unrhyw res arall - £135,018
- Contract ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu waith i awdurdod llywodraeth is-ganolog nad yw o fewn unrhyw res arall - £207,720
