Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Mae rhaglen frechu i ddiogelu plant ifanc rhag brech yr ieir yn cael ei chyflwyno yng Nghymru heddiw (2 Ionawr 2026).

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd pob plentyn rhwng 12 a 18 mis ledled y DU yn cael cynnig brechlyn rhag brech yr ieir, a elwir hefyd yn Varicella, am y tro cyntaf.

Cyflwynwyd y rhaglen ar ôl cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, a argymhellodd y dylid cyflwyno rhaglen brechu rhag varicella gyffredinol fel rhan o'r rhaglen imiwniad plentyn arferol.

Bydd y brechlyn ar gael mewn rhaglen ddwy ddos am 12 a 18 mis oed gan ddefnyddio’r brechlyn MMRV cyfunol (y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a varicella).

Bydd rhaglen dal i fyny ar gael i blant hŷn hyd at chwech oed yn cael ei chynnig yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae feirws brech yr ieir yn gyffredin iawn ac yn effeithio’r rhan fwyaf o blant, er y gellir ei ddal am y tro cyntaf ar unrhyw oedran. Mae’r rhan fwyaf o achosion o varicella mewn plant yn gymharol ysgafn, ac mae’r salwch yn gwella heb fod angen iddynt gael triniaeth gan weithiwr meddygol proffesiynol. Fodd bynnag, gall cymhlethdodau yn sgil varicella ddatblygu megis heintiau bacterol neu friwiau croen, gan gynnwys streptococws grŵp A, ac mewn achosion prin, gyflyrau fel enseffalitis, niwmonitis a strôc. Gall y cymhlethdodau olygu bod yn rhaid mynd i’r ysbyty ac, ar adegau prin gallant arwain at farwolaeth.

Bydd pob plentyn rhwng 12 a 18 mis ledled y DU yn cael cynnig brechlyn rhag brech yr ieir - a elwir hefyd yn Varicella - am y tro cyntaf.

Cyflwynwyd y rhaglen ar ôl cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, a argymhellodd y dylid cyflwyno rhaglen brechu rhag varicella gyffredinol fel rhan o'r rhaglen imiwniad plentyn arferol.

Bydd y brechlyn ar gael mewn rhaglen ddwy ddos am 12 a 18 mis oed gan ddefnyddio’r brechlyn MMRV cyfunol (y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a varicella).

Bydd rhaglen dal i fyny ar gael i blant hŷn hyd at chwech oed yn cael ei chynnig yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae feirws brech yr ieir yn gyffredin iawn ac yn effeithio’r rhan fwyaf o blant, er y gellir ei ddal am y tro cyntaf ar unrhyw oedran. Mae’r rhan fwyaf o achosion o varicella mewn plant yn gymharol ysgafn, ac mae’r salwch yn gwella heb fod angen iddynt gael triniaeth gan weithiwr meddygol proffesiynol. Fodd bynnag, gall cymhlethdodau yn sgil varicella ddatblygu megis heintiau bacterol neu friwiau croen, gan gynnwys streptococws grŵp A, ac mewn achosion prin, gyflyrau fel enseffalitis, niwmonitis a strôc. Gall y cymhlethdodau olygu bod yn rhaid mynd i’r ysbyty ac, ar adegau prin gallant arwain at farwolaeth.

Ar gyfartaledd, bob blwyddyn yng Nghymru:

  •  mae angen i 4,000 o bobl neu fwy weld eu meddyg teulu oherwydd brech yr ieir
  • caiff 300 o bobl neu fwy eu derbyn i'r ysbyty gyda brech yr ieir

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: 

Rwy'n falch o weld brechlyn rhag brech yr ieir yn cael ei gyflwyno ledled Cymru o heddiw. Mae tystiolaeth yn dangos bod y brechlyn yn ddiogel ac yn effeithiol ac yn helpu i atal plant rhag mynd yn sâl iawn. Byddwn yn annog rhieni i dderbyn y cynnig i frechu, a phan fo gennych gwestiynau i siarad â'ch meddyg teulu am ragor o wybodaeth.

Dywedodd yr Athro Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru:

Mae brech yr ieir yn afiechyd heintus iawn. Mae'n gyffredin iawn. Mae'r rhan fwyaf o blant gyda brech yr ieir yn gwella ar ôl tua wythnos ond ceir rai plant afiechyd mwy difrifol ac mae angen eu derbyn i'r ysbyty.

Mae’r frechlyn MMRV yn diogelu eich plentyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a brech yr ieir i arbed bywydau ac atal cymhlethdodau o heintiad.

Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

Bydd brechiad MMRV yn nawr yn helpu i warchod plant yn erbyn pedwar haint gwahanol – y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a varicella (brech yr ieir).

Mae brech yr ieir yn feirws cyffredin iawn sy'n achosi symptomau ysgafn fel arfer, ond gall fod yn andros anghyfforddus ac, mewn rhai achosion, yn ddifrifol iawn. Mae’r  frechiad MMRV yn ffordd ddiogel ac effeithiol o warchod rhag brech yr ieir. Fe'i ddefnyddiwyd yn llwyddiannus mewn llawer o wledydd ers blynyddoedd, gan arwain at lai o salwch a derbynniadau i’r ysbyty.

Mae sicrhau bod eich plentyn yn derbyn yr holl frechiadau arferol i blant yn hanfodol i warchod eu hiechyd. Rwy'n annog pob rhiant i fynd â'u plant i'w apwyntiadau brechu pan fyddant wedi’u gwahodd.