Mae £2 miliwn ychwanegol wedi cael ei ddyrannu i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch Cymru i roi mesurau ar waith i wrthsefyll tywydd garw.
Mae £2 miliwn ychwanegol wedi cael ei ddyrannu i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch Cymru i roi mesurau ar waith i wrthsefyll tywydd garw.
Derbyniodd Cronfa Addasu i'r Tywydd Blwyddyn Croeso bron i 400 o geisiadau gan fusnesau a oedd yn ceisio grantiau rhwng £5,000 a £20,000. Mae'r gyllideb wreiddiol o £1.75 miliwn wedi cael ei chynyddu i fodloni'r galw enfawr.
Mae'r cynllun yn cefnogi busnesau micro, bach a chanolig sy'n cyflogi rhwng 1 a 250 o bobl. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn grantiau sy'n talu hyd at 75% o gostau'r prosiect.
Canfu ymchwil Croeso Cymru yn 2024 fod 55% o fusnesau twristiaeth yn dweud mai tywydd gwael oedd y prif reswm dros ostyngiad yn nifer yr ymwelwyr.
Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn helpu busnesau i estyn eu tymhorau gweithredu a chreu profiadau gwell i ymwelwyr.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
"Mae ein busnesau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru yn cynnig profiadau gwych drwy gydol y flwyddyn, ond nid yw'r tywydd bob amser ar ein hochr ni. Drwy ddyrannu £2 filiwn arall i'n cronfa poblogaidd ar gyfer gwrthsefyll tywydd, mae Llywodraeth Cymru yn helpu bron i 400 o fusnesau i aros ar agor yn hirach, gan gadw pobl yn gyflogedig, a rhoi hwb i economïau lleol ledled Cymru."
Mae busnesau twristiaeth a lletygarwch yn cynrychioli 11.8% o'r holl swyddi yng Nghymru. Bydd y mesurau hyn i wrthsefyll tywydd gwael yn cefnogi swyddi llawnamser, mwy sefydlog.
Caeodd y cynllun amddiffyn rhag tywydd ar gyfer ceisiadau ar 1 Rhagfyr 2025. Mae busnesau'n cael gwybod am y penderfyniadau nawr.
