Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, mae’n bleser gennyf lansio Mynd i'r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu ar gyfer 2014-15 a Chynllun Cyflawni Blynyddol ar gyfer 2015-16.  Mae’r Adroddiad Cynnydd yn cynnwys tystiolaeth am y gwaith sydd wedi cael ei wneud ar draws y Llywodraeth a chyda phartneriaid allanol.  Mae’n ailgadarnhau ein hymrwymiad i wneud rhagor o waith ar draws y tri amcan strategol sef atal, cefnogi dioddefwyr a gwella gwaith ar ffurf partneriaeth.

Rwy’n lansio’r Adroddiad Cynnydd a’r Cynllun Cyflawni yn ystod Wythnos Ffoaduriaid 2015.  Brynhawn heddiw, byddaf yn siarad yng Nghanolfan Oasis gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru, aelodau o’r gymunedau a phartneriaid.  Thema eleni yw ‘Strydoedd Diogelach’ ac mae’n rhoi cyfle i mi gadarnhau fy ymrwymiad i daclo’r mater o riportio troseddau ac achosion o droseddau casineb ledled Cymru.