Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n ofynnol i ddarparwyr cyrsiau addysg uwch fodloni amodau penodol i ddenu cymorth statudol i fyfyrwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Llywodraeth Cymru yn dynodi cyrsiau os ydynt yn bodloni meini prawf penodol. Mae'n bosibl y bydd myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru fel arfer yn gymwys i gael grantiau a benthyciadau myfyrwyr wrth fynychu cyrsiau 'dynodedig'. 

Er mwyn denu cymorth i fyfyrwyr, cyfrifoldeb darparwyr addysg uwch yw sicrhau bod eu cyrsiau israddedig neu ôl-raddedig yn cael eu dynodi cyn derbyn myfyrwyr o Gymru. Gallai peidio â gwneud hynny arwain at niwed sylweddol i fyfyrwyr yn ariannol ac o ran eu lles.

Mae'n bwysig nodi nad yw'r meini prawf ar gyfer dynodi cwrs yr un fath ar draws pob un o genhedloedd y DU. Ni ddylai darparwyr gymryd yn ganiataol y bydd cwrs a ddynodwyd gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban neu Weithrediaeth Gogledd Iwerddon hefyd yn cael ei ddynodi gan Lywodraeth Cymru.

Llwybrau at ddynodi cyrsiau

Dynodiad awtomatig

Mae hyn ar gyfer darparwr cwrs sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer cyrsiau dynodedig o fewn y rheoliadau cymorth myfyrwyr. Gallant gael dynodi eu cyrsiau'n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr gan Lywodraeth Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am y meini prawf ar gyfer cyrsiau dynodedig ar gael yn y polisi dynodi cyrsiau addysg uwch.

Dynodiad penodol neu fesul achos

Mae hyn ar gyfer cyrsiau nad ydynt yn bodloni'r meini prawf i gael eu dynodi'n awtomatig. Gall y darparwr wneud cais i Weinidogion Cymru am ddynodiad penodol, drwy Medr.

Mae rhagor o wybodaeth i ddarparwyr am y broses o wneud cais am ddynodiad penodol ar gyfer cyrsiau addysg uwch ar gael yma cymorth i fyfyrwyr Cymru: polisi ar gyfer dynodi cwrs penodol.