Neidio i'r prif gynnwy

RPW Ar-lein – sgrin cwsmer

Pan fyddwch chi'n mewngofnodi am y tro cyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno gyda'r Sgrin Dewiswch y Cwsmer.

Bydd y faner groeso yn dangos: 

Ar y gornel chwith uchaf:

  • enw'r person sydd wedi mewngofnodi
  • cyfeirnod cwsmer (CRN)
  • teitl masnachu'r busnes

Ar y gornel dde uchaf:

  • eich proffil
  1. Cyrchu neu greu CRN
  2. Newid manylion mewngofnodi
  • Iaith (Bydd y dudalen yn ymddangos yn yr iaith a nodwyd gennych wrth gofrestru.) Fodd bynnag, mae gennych yr opsiwn yma i newid rhwng ieithoedd wrth ddefnyddio RPW Ar-lein. 

    Noder: Os ydych chi'n newid yr iaith yma, ni fydd yn newid yr iaith a ffefrir gennych chi a nodwyd wrth gofrestru, ond os ydych chi'n nodi tudalen neu'n ychwanegu'r dudalen at ffefrynnau eich porwr, bydd y dudalen yn ymddangos yn yr iaith yr oeddech chi'n ei defnyddio ar yr adeg y gwnaethoch gadw'r dudalen)
     
  • gadael

Ar ochr chwith y sgrin bydd eich cwsmeriaid yn cael eu harddangos yn nhrefn CRN, a byddant yn dangos y teitl masnachu, llinell gyntaf y cyfeiriad ac a yw'ch cwsmer wedi cofrestru'n bersonol gyda RPW Ar-lein ai peidio. 

Mae'r dangosydd neges heb ei ddarllen yn ymddangos yn erbyn eich cwsmeriaid pan fydd ganddynt negeseuon gan RPW nad ydych chi wedi'u darllen eto. Efallai bod eich cwsmeriaid eu hunain wedi darllen y negeseuon, ond nid ydych chi, eu Asiant/Undeb Ffermio, wedi eu darllen. Mae'r rhif yn y blwch yn cyfateb i nifer y negeseuon sydd heb eu darllen ar gyfer y cwsmer hwnnw. Os ydych chi'n clicio'n uniongyrchol ar y blwch coch, bydd yn eich llywio'n syth i'r tab 'Negeseuon' ar gyfer y cwsmer hwnnw. Ar ôl i chi ddarllen yr holl negeseuon, bydd y blwch coch yn diflannu.

Ar ochr dde'r sgrin mae gennych yr opsiwn o ddewis eich cyfrif ar-lein eich hun trwy ddewis eich botwm 'Hafan Asiant'.

O dan y botwm 'Hafan Asiant', mae rhestr o Awdurdodiadau Cwsmeriaid sy'n dangos Cymeradwywyd, Aros am Gymeradwyaeth, Gwrthodwyd gan Asiant/Undeb Ffermio a Gwrthodwyd gan y Cwsmer. Mae'r rhain bellach wedi'u cysylltu â'ch tudalen 'Rheoli Cwsmeriaid'. Yn syml, dewiswch un o'r statysau cysylltiad i fynd yn uniongyrchol i'ch tudalen 'Rheoli Cwsmeriaid'.

Bydd y dudalen hon yn caniatáu i chi dderbyn neu wrthod ceisiadau am gysylltiad â chwsmeriaid.

Bydd eich opsiwn 'Dewis Cyflym' yn caniatáu ichi fynd i mewn i CRN eich cwsmer a mynd yn uniongyrchol i'w gyfrif RPW Ar-lein.  Rhowch CRN eich cwsmer yn yr ardal 'Dewis Cyflym', a chliciwch ar y botwm glas 'Dewis Cwsmer'. Byddwch yn cael eich cyfeirio'n syth at Hafan RPW Ar-lein ar gyfer y CRN a wnaethoch chi ei nodi.

Bydd eich opsiwn 'Hidlo Cwsmeriaid' yn caniatáu ichi nodi'r cyfan neu ran o Deitl Masnachu eich Cwsmer. Mae hyn yn ddefnyddiol os nad yw'r CRN wrth law gennych ond eich bod yn cofio'r cyfan neu ran o'r Teitl Masnachu ar gyfer eich cwsmer. Rhowch y cyfan neu ran o'r Teitl Masnachu yn y blwch a chliciwch ar y botwm glas 'Hidlo Cwsmeriaid' i chwilio, neu cliciwch ar y botwm 'Ailosod' os nad ydych am barhau mwyach.

Ar ôl dewis y botwm 'Hidlo Cwsmeriaid', bydd unrhyw gwsmeriaid sy'n cyfateb i'r meini prawf chwilio yn ymddangos. Yna dewiswch eich cwsmer gofynnol fel arfer i gael mynediad i'w cyfrif RPW Ar-lein.