Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am Faterion Cyfansoddiadol, rwy'n rhoi diweddariad i aelodau ar ddiwygiadau a wnaed i Atodlen 9A (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gan Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2025 (“y Gorchymyn”).

Mae'r Gorchymyn yn dileu'r cyfeiriad at “Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol” neu “The Independent Remuneration Panel for Wales” ac yn rhoi “Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru” neu “The Democracy and Boundary Commission Cymru” yn lle “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru” neu “The Local Democracy and Boundary Commission for Wales”.

Mae'r diwygiadau hyn yn ganlyniadol i ddarpariaethau yn Neddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 a Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024. 

Gwnaed y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gan Ei Fawrhydi y Brenin ar 10 Rhagfyr ac fe'i gosodwyd gerbron y ddau Dŷ yn Senedd y DU gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 17 Rhagfyr.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.