Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Roeddwn i'n gyfrifol am gadeirio cyfarfod o'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol, a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2025, gan gynrychioli Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddwyd datganiad ar y cyd ar ôl y cyfarfod, sy'n cynnwys manylion llawn am bawb arall a oedd yn bresennol. Roedd yr eitemau ar yr agenda yn cynnwys: materion rhyngwladol; cydlyniant cymunedol; ac amrywiaeth o faterion byw, gan gynnwys Cyllideb y DU a oedd ar ddod a Deddfwriaeth y DU.
Wrth agor y cyfarfod, nodais arwyddocâd Adroddiad Ymchwiliad Covid-19 y DU ar Fodiwlau 2/2A/2B/2C i'r pedair llywodraeth, ar y cyd ac yn unigol. Roedd yr adroddiad i fod i gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Yn ystod y trafodaethau, tynnais sylw at bwysigrwydd trafod materion rhyngwladol yn barhaus, yn ogystal â pha mor bwysig yw sicrhau heddwch cyfiawn a pharhaol yn Gaza / Israel a chefnogi gweithredoedd dyngarol. O ran cydlyniant cymunedol, croesawais gynigion ar gyfer mwy o weithio trawslywodraethol, gan gynnwys sefydlu Fforwm Gweinidogol ar Gydlyniant Cymunedol.
Yn ystod y trafodaethau ar amrywiaeth o faterion byw, tynnais sylw at flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllideb y DU a oedd ar ddod. Ers hynny, rydym wedi croesawu cyfres o gyhoeddiadau allweddol yng Nghyllideb y DU a fydd o fudd i bobl ledled Cymru, ynghyd â buddsoddiadau newydd sylweddol, gan greu swyddi newydd a rhoi hwb i’n heconomi.
Yn olaf, o ran deddfwriaeth, croesawais gydymffurfiaeth barhaus Llywodraeth y DU â Chonfensiwn Sewel ers haf 2024, yn ogystal â'r gwaith parhaus i ddatblygu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar y Confensiwn. Pwysleisiais hefyd bwysigrwydd sicrhau bod y gwaith o amserlennu deddfwriaeth yn Senedd y DU yn ystyried amserlenni sy'n gysylltiedig ag etholiadau i Senedd Cymru a Senedd yr Alban ym mis Mai 2026.
Disgwylir i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol gael ei gynnal yn gynnar yn 2026, a bydd yn cael ei gadeirio gan Lywodraeth y DU.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
