Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol. Rhan allweddol o gyflawni hynny yw cynyddu amrywiaeth y gweithlu addysgu i adlewyrchu a chefnogi dysgwyr yn ein hysgolion yn well.

Yn 2021 cyhoeddwyd cynllun i wella sut rydym yn recriwtio myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA). Rydym bellach yn cyhoeddi diweddariad lefel uchel, gan ganolbwyntio ar: 

  • gynnal y cynnydd sydd eisoes wedi'i gyflawni
  • cynyddu nifer y myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy'n cael eu recriwtio i raglenni AGA
  • gwella'r cymorth sydd ar gael i ddarpar athrawon yn ystod eu hyfforddiant

Rydym am greu system gefnogaeth hirdymor, ystyrlon i gymunedau ethnig leiafrifol sy'n dilyn cyrsiau AGA. Mae hyn yn golygu gwneud newidiadau ar draws y system mewn ffordd wrth-hiliol. 

Gall hil ac ethnigrwydd effeithio ar brofiad addysgol plant, pobl ifanc ac oedolion. Nid cyfrifoldeb y sector AGA yn unig yw denu a chefnogi pobl o leiafrifoedd ethnig i fod yn athrawon. Er mwyn ysbrydoli a grymuso'r genhedlaeth nesaf o addysgwyr, rhaid sicrhau cydymrwymiad ar draws:

  • ysgolion
  • colegau
  • prifysgolion

Dros y 3 blynedd diwethaf, mae'r sector AGA wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran:

  • gwella prosesau recriwtio
  • cefnogi unigolion o gefndiroedd ethnig leiafrifol

Fodd bynnag, mae bylchau o hyd yn y ffordd y mae gwahanol rannau o'r sector addysg yn cefnogi cymunedau ethnig leiafrifol. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae angen strategaeth gydgysylltiedig ar gyfer Cymru gyfan sy'n rhoi cefnogaeth deg ar draws y sector. 

Rydym wedi ymrwymo i barhau i hyrwyddo'r gwaith o fewn rhaglenni AGA, mewn ffordd sy'n uchelgeisiol ac yn gynaliadwy ar yr un pryd. Rydym am i ddarpar athrawon ethnig leiafrifol:

  • deimlo eu bod yn cael eu cefnogi wrth iddynt ddechrau ar gwrs AGA ac wrth ymuno â'r proffesiwn addysgu
  • llwyddo yn eu hyfforddiant
  • dod yn arweinwyr o fewn y byd addysg

Mae'r diweddariad hwn yn rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae'n dangos penderfyniad y sector AGA i hyrwyddo newid cynaliadwy, ystyrlon. Byddwn yn parhau i:

  • fonitro cynnydd
  • addasu mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y dirwedd addysg ehangach
  • sicrhau bod unigolion ethnig leiafrifol yn cael eu cefnogi drwy gydol eu taith tuag at swydd addysgu

Mae'r diweddariad hwn yn amlinellu'r nodau lefel uchel a'r cyfeiriad strategol ar gyfer y sector AGA. Mae pob partneriaeth AGA yn gyfrifol am gyflawni eu cynllun recriwtio eu hunain. Yn 2022, fe wnaeth pob partneriaeth AGA:

  • adolygu eu prosesau recriwtio
  • nodi meysydd allweddol i'w gwella
  • datblygu cynlluniau recriwtio wedi'u teilwra

Mae'r cynlluniau recriwtio yn ei gwneud yn glir mai cyfrifoldeb pob partneriaeth yw:

  • pennu
  • monitro
  • cyflawni
  • datblygu

eu targedau eu hunain. Nid yw'r cynlluniau yn sefyll ar eu pen eu hunain. Maent yn rhan hanfodol o'r gwaith gwrth-hiliol ehangach yng Nghymru. Rhaid cymryd camau i'w hadolygu a'u mireinio i sicrhau bod cynnydd yn fesuradwy ac yn ystyrlon.

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i:

  • hyrwyddo newid
  • gweithio mewn partneriaeth â'r sector i fonitro cynnydd
  • addasu i ddatblygiadau newydd ar draws y dirwedd addysg

Themâu allweddol

Mae 3 thema allweddol y cynllun i recriwtio myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i gyrsiau AGA yn parhau i fod yn ganolog i'n dull gweithredu.

Hyrwyddo addysgu fel gyrfa ymhlith unigolion o gymunedau ethnig leiafrifol

Nod

Cynyddu nifer yr athrawon sy’n cael eu recriwtio o gymunedau ethnig leiafrifol i'r sector addysg, gan sicrhau ffocws cyson a strategol ar raglenni AGA.

Beth rydym wedi'i wneud

Hyrwyddo addysgu fel gyrfa

Mae gwaith sylweddol wedi'i wneud ar draws y sector i hyrwyddo addysgu fel gyrfa ymhlith unigolion o gymunedau ethnig leiafrifol. Roedd yr ymdrechion cychwynnol yn canolbwyntio ar adolygu ac addasu prosesau recriwtio o fewn partneriaethau AGA i sicrhau eu bod:

  • yn fwy cynhwysol
  • yn fwy cefnogol
  • yn ymateb yn fwy i faterion yn ymwneud â gwahaniaethu

Roedd y cynllun strategol cyntaf yn canolbwyntio ar recriwtio i raglenni AGA. Mae'r diweddariad hwn (2025) yn adeiladu ar y sylfaen honno. Mae'n parhau i gryfhau ac ehangu strategaethau recriwtio.

Cynyddu gwelededd cymunedau ethnig

Mae gwelededd cymunedau ethnig leiafrifol mewn deunyddiau marchnata AGA wedi cynyddu ar draws y sector. Mae trefniadau cydweithredu â mentoriaid a sefydliadau cymunedol wedi ategu'r gwaith hwn.

Mae Addysgwyr Cymru wedi chwarae rhan allweddol wrth gynnal gweithgareddau i estyn allan, gan gynnwys:

  • gweithdai mewn ysgolion
  • sesiynau chweched dosbarth
  • ymgysylltu â cholegau, prifysgolion, sefydliadau ieuenctid a grwpiau cymunedol

Cyflwyno cymhellion ariannol

Ym mis Medi 2022, cyflwynodd Llywodraeth Cymru gymhelliant ariannol AGA i unigolion ethnig leiafrifol. Nod hyn yw denu graddedigion o ansawdd uchel o gefndiroedd amrywiol i'r proffesiwn.

Gwobr Betty Campbell

Cafodd gwobr Betty Campbell (MBE) ei lansio ar 21 Hydref 2021 er mwyn hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Mae'r wobr hon yn cael ei dyfarnu i unigolion, timau neu ysgolion sy'n dangos ymwybyddiaeth eithriadol o bwysigrwydd safbwyntiau a chyfraniadau cymunedau ethnig leiafrifol. Mae'n cydnabod gwerth a phwysigrwydd athrawon ethnig leiafrifol. Mae hyn yn ysbrydoli dysgwyr ac yn meithrin uchelgais ynddynt.

Enillwyr gwobrau 2022: Ysgol Uwchradd Llanwern, Casnewydd.

Enillwyr gwobrau 2024: Amy Grimward: Ysgol Aberconwy, Conwy.

Y sefyllfa bresennol

Gwelwyd cynnydd o ran:

  • codi ymwybyddiaeth
  • gwella cynrychiolaeth mewn deunyddiau hyrwyddo ac arferion recriwtio

Roedd y cynlluniau recriwtio a gyhoeddwyd gan bob partneriaeth AGA yn 2022 yn garreg filltir allweddol. Pennodd pob partneriaeth dargedau a chamau gweithredu penodol i ddenu myfyrwyr ethnig leiafrifol. Mae'r cynlluniau hyn yn dechrau creu newid systemig. Maent yn helpu i adeiladu sector AGA mwy cynhwysol a gwrth-hiliol.

Fodd bynnag, er gwaethaf yr ymdrechion hyn, mae data 2023 i 2024 yn parhau i ddangos bod y diffyg cynrychiolaeth o ran athrawon ethnig leiafrifol yn drawiadol. Mae'r ffigurau yn parhau i fod yn sylweddol is nag y dylent fod o ystyried cyfran y disgyblion ethnig leiafrifol yn ein hysgolion. Mae hyn yn tynnu sylw at yr angen sy'n parhau am weithredu strategol, cyson i fynd i'r afael â'r rhwystrau. Mae angen inni ofalu bod y gweithlu addysgu yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru yn well.

Cyfran yr athrawon a'r disgyblion o wahanol gefndiroedd ethnig yng Nghymru 2023 i 2024

Image
Cyfran yr athrawon a'r disgyblion o wahanol gefndiroedd ethnig yng Nghymru 2023 i 2024

Camau gweithredu

Er mwyn parhau i yrru cynnydd, mae'r camau canlynol yn hanfodol.

  • Bydd partneriaethau AGA yn arwain y ffordd. Byddant yn adolygu, yn datblygu ac yn cyhoeddi eu cynlluniau recriwtio yn barhaus. Byddant yn adrodd ar gynnydd ac yn pennu targedau newydd uchelgeisiol i ddenu a chefnogi myfyrwyr ethnig leiafrifol i addysgu. Bydd hyn yn sicrhau bod y gweithlu addysgu yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru yn well.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo newid systemig drwy gymryd camau i ymgysylltu ar draws y sector addysg. Byddwn yn adeiladu rhwydweithiau cryf. Byddwn yn bwrw ymlaen ag agenda wrth-hiliol gyda'r nod o drawsnewid recriwtio a'r gynrychiolaeth o fewn AGA. Byddwn yn sicrhau bod pob dysgwr yn elwa o system addysg fwy cynhwysol.
  • Bydd pob rhanddeiliad yn arddangos modelau rôl amrywiol drwy ymgyrchoedd marchnata beiddgar, cynhwysol. Dylai'r ymgyrchoedd hyn gael eu cefnogi gan ddeunyddiau sy'n briodol i oedran y dysgwyr. Dylent danio uchelgais a grymuso plant a phobl ifanc i weld addysgu fel llwybr gyrfa pwerus, llawn pwrpas.
  • Bydd Addysgwyr Cymru yn parhau i fod yn bresenoldeb deinamig sy'n ennyn ymddiriedaeth mewn ysgolion, colegau, prifysgolion a chymunedau ledled Cymru. Byddant yn ysbrydoli addysgwyr y dyfodol ac yn hyrwyddo addysgu fel proffesiwn gwerth chweil, sy'n cael dylanwad ar ddysgwyr, ac sy'n croesawu pawb.
  • Bydd Addysgwyr Cymru yn dyfnhau partneriaethau â sefydliadau cymunedol, gwasanaethau ieuenctid a grwpiau diwylliannol. Byddant yn sicrhau bod gwybodaeth am yrfaoedd addysgu yn cyrraedd pob cornel o gymdeithas ac yn ennyn brwdfrydedd ymhlith cynulleidfaoedd amrywiol. Mae hyn yn cynnwys yn arbennig y rhai sydd heb gael eu cynrychioli'n ddigonol o fewn y proffesiwn yn hanesyddol.
  • Mewn cydweithrediad â phartneriaethau AGA, bydd Addysgwyr Cymru yn cynnal digwyddiadau recriwtio cynhwysol a hygyrch. Dylid teilwra'r rhain yn ôl anghenion a dyheadau cymunedau ethnig leiafrifol. Dylai addysgwyr y dyfodol allu gweld eu hunain yn dilyn gyrfa addysgu ystyrlon ac effeithiol, a theimlo wedi'u grymuso i wneud hynny, a dylid meithrin ymddiriedaeth yr unigolion hynny yn y proffesiwn a'r sefydliadau addysgu.
  • Bydd pob rhanddeiliad yn cymryd camau i hyrwyddo cymhelliant AGA i unigolion ethnig leiafrifol fel adnodd pwerus i ddenu a chefnogi unigolion o gefndiroedd amrywiol i'r proffesiwn addysgu. Bydd hyn yn anfon neges glir bod cynrychiolaeth yn bwysig. Mae'n sicrhau bod pob darpar athro yn teimlo ei fod yn cael ei weld, yn cael ei werthfawrogi ac yn cael ei gefnogi drwy gydol y daith i'w swydd mewn addysg.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i dynnu sylw at bwysigrwydd dathlu modelau rôl a rhoi platfform iddynt, er enghraifft gwobr Betty Campbell (MBE). Mae hyn yn cydnabod cyfraniadau eithriadol i'r gwaith o hyrwyddo safbwyntiau lleiafrifoedd ethnig mewn addysg. Mae'n ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol i arwain â balchder, pwrpas ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol.

Cefnogi myfyrwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol

Nod

Sicrhau bod unigolion ethnig leiafrifol yn cael taith deg, gynhwysol sy'n ymateb i ddiwylliant drwy eu rhaglen AGA. Mae hyn yn cynnwys eirioli dros safbwynt sy'n gwrthod goddef gwahaniaethu hiliol neu anghydraddoldeb o fewn prifysgolion ac mewn lleoliadau ysgolion.

Beth rydym wedi'i wneud

Gwella'r gefnogaeth

Ers 2021, mae'r gefnogaeth i fyfyrwyr o gefndiroedd ethnig leiafrifol o fewn AGA wedi cryfhau'n sylweddol. Mae partneriaethau AGA wedi datblygu systemau i helpu ymgeiswyr o gymunedau ethnig leiafrifol cyn iddynt wneud cais. Mae hyn yn adlewyrchu newid yn yr arferion recriwtio i fod yn fwy cynhwysol.

Mae Addysgwyr Cymru wedi chwarae rhan ganolog yn y cynnydd hwn. Mae eu gwasanaeth eirioli wedi esblygu i gynnig cymorth wedi'i deilwra drwy gydol y broses ymgeisio a recriwtio. Mae hyn yn cynnwys:

  • hyrwyddo'r cymhellion
  • darparu cyngor
  • diwrnodau agored
  • cyflwyno gweithdai cyflogadwyedd
  • cynnal gweminarau
  • cefnogi partneriaethau AGA i ddiwallu anghenion eu cynlluniau unigol

Cefnogi'r rhai sydd eisoes yn gweithio mewn rolau nad ydynt yn rolau addysgu

Mae partneriaethau AGA hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran cefnogi unigolion ethnig leiafrifol sydd eisoes yn gweithio mewn rolau nad ydynt yn rolau addysgu. Mae Addysgwyr Cymru yn cynnig gweithdai cyngor a pharatoi wedi'u teilwra. Mae'r rhain yn helpu unigolion i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ymuno â'r proffesiwn. Mae'r opsiynau sy'n talu cyflog a'r opsiynau rhan-amser yn darparu llwybrau hyblyg i'r rhai sydd eisoes mewn rôl mewn ysgol neu sydd â chyfrifoldebau eraill. Caiff y rhain eu hadolygu'n rheolaidd.

Rhwydweithiau myfyrwyr

Mae llawer o bartneriaethau AGA wedi ffurfio rhwydweithiau i ddod â myfyrwyr ethnig leiafrifol ynghyd er mwyn cefnogi ei gilydd. Yn 2024, arweiniodd yr ymdrechion hyn at greu Rhwydwaith Cenedlaethol AGA Cymru ar gyfer Darpar Athrawon y Mwyafrif Byd-eang. Mae'r rhwydwaith hwn, a arweinir gan fyfyrwyr, yn cynnig cydgefnogaeth werthfawr. Y gobaith yw y bydd y rhwydwaith hwn yn ymestyn i mewn i flwyddyn athrawon newydd gymhwyso a thu hwnt.

Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliaeth

Mae Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliaeth (DARPL) yn parhau i gynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel, yn rhad ac am ddim, ym maes amrywiaeth a gwrth-hiliaeth, i bob gweithiwr addysg proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr a mentoriaid AGA. Sefydlwyd DARPL yn 2021 ac mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Y sefyllfa bresennol

Mae partneriaethau AGA yn parhau i adeiladu ar y sylfaen hon. Mae systemau cefnogaeth ar waith. Fodd bynnag, mae angen datblygu ymhellach i arallgyfeirio a chryfhau gwasanaethau gan ddefnyddio ystod o ddulliau.

Ac yn arbennig, mae angen parhau i ddatblygu'r cymorth sydd ar gael i'r ymgeiswyr cymwys sydd eisoes yn y gweithlu mewn rolau nad ydynt yn rolau addysgu. Mae Addysgwyr Cymru yn cynnig cyngor a gweithdai wedi'u teilwra. Mae'r llwybrau hyblyg i addysgu yn parhau i gael eu hadolygu'n rheolaidd.

Wrth i Gymru groesawu ceiswyr noddfa a ffoaduriaid, rhaid i'r sector ystyried y ffordd orau o gefnogi'r rhai sydd â diddordeb mewn addysgu. Mae'r cyfrifoldeb dros yr unigolion hynny yn cael ei ysgwyddo y tu allan i raglenni AGA. Fodd bynnag, mae angen amlwg i wella'r broses gyfeirio a'r gefnogaeth wrth iddynt ymgymryd â'r gwaith cymhleth o ailadeiladu eu bywydau.

Mae paneli recriwtio yn fwyfwy cynhwysol. Mae partneriaethau AGA yn gweithio i sicrhau cynrychiolaeth i grwpiau ethnig leiafrifol. Fodd bynnag, mae'r gronfa gyfyngedig o unigolion sydd ar gael yn parhau i fod yn her. Bydd ymdrechion parhaus i gefnogi a datblygu athrawon ethnig leiafrifol yn helpu i ehangu'r gronfa hon dros amser.

Mae'r broses adborth ar gyfer ymgeiswyr AGA aflwyddiannus wedi gwella. Mae pwyslais cynyddol ar ddarparu adborth trylwyr ac ystyrlon. Mae hyn yn hanfodol i helpu pob ymgeisydd i gryfhau ei geisiadau i'r dyfodol. Mae hyn yn cynnwys y rhai o gefndiroedd ethnig leiafrifol. 

Mae lleoliadau mewn ysgolion yn faes hanfodol arall. Mae partneriaethau AGA yn fwyfwy ymwybodol o'r angen i ddewis ysgolion priodol ar gyfer myfyrwyr ethnig leiafrifol. Fodd bynnag, mae angen gweithio'n fwy pwrpasol gydag ysgolion partner. Mae hyn yn cynnwys:

  • ennyn diddordeb mentoriaid, staff a thimau arweinyddiaeth mewn dysgu proffesiynol gwrth-hiliol
  • cynyddu ymwybyddiaeth o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
  • gweithio gyda DARPL i sicrhau bod ysgolion wedi'u harfogi'n well i ddarparu lleoliadau cynhwysol

Rhaid i brifysgolion barhau i feithrin cysylltiadau cadarnhaol gyda myfyrwyr ethnig leiafrifol. Rhaid iddynt sicrhau nad ydynt yn cael eu gwthio i'r ymylon. Dylai myfyrwyr deimlo'n hyderus:

  • bod polisïau gwrth-hiliol ar waith
  • yr ymdrinnir â digwyddiadau fel bwlio neu ficro-ymosodiadau yn effeithiol

Dylai partneriaethau AGA hefyd weithio gydag ysgolion i:

  • sicrhau disgwyliadau cyson
  • ystyried sut mae achosion sy'n codi, ac achosion fu bron â chodi, yn cael eu cofnodi er mwyn creu darlun mwy cywir o brofiadau myfyrwyr ledled Cymru

Rhaid gofalu bod gweithdrefnau cwyno clir, hygyrch ar gael i bob myfyriwr. Rhaid iddynt allu cwyno yn eu dewis iaith, a heb ofn ymateb negyddol.

Camau gweithredu

Er mwyn parhau i yrru cynnydd, mae'r camau canlynol yn hanfodol:

  • Bydd Addysgwyr Cymru yn cydweithio â phartneriaethau AGA i gryfhau gwasanaethau eirioli a chynghori. Bydd hyn yn sicrhau bod arweiniad wedi'i deilwra ar gael yn hwylus i unigolion sy'n ystyried gyrfa mewn addysg. Dylai hyn eu grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus a meithrin eu hyder yn eu potensial i lwyddo.
  • Bydd Addysgwyr Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr AGA i adolygu a gwella gweithdai paratoi ceisiadau a pharatoi at gyfweliadau. Bydd hyn yn arfogi darpar ymgeiswyr, yn enwedig y rhai o gefndiroedd ethnig leiafrifol, â'r wybodaeth, y sgiliau a'r hunan-gred sydd eu hangen i gyflwyno cais o ansawdd uchel ac i ffynnu mewn rhaglenni AGA.
  • Bydd partneriaethau AGA yn gweithio gydag ysgolion partner a mentoriaid i helpu pawb i ddeall arferion gwrth-hiliol yn well. Byddant yn darparu hyfforddiant ac yn gweithio gyda sefydliadau fel DARPL i sicrhau bod mentoriaid yn gallu cefnogi darpar athrawon ethnig leiafrifol mewn ffordd ofalgar, gynhwysol sy'n gwneud i bawb deimlo eu bod yn perthyn.
  • Bydd darparwyr AGA yn cymryd camau i hyrwyddo'r cyfle i ysgolion partner ymuno â Rhwydwaith Eiriolaeth DARPL a dod yn ysgolion Rhwydwaith Eiriolaeth DARPL. Bydd hyn yn ffordd o annog ymrwymiad gweladwy i werthoedd gwrth-hiliol a chreu amgylcheddau ysgol lle caiff amrywiaeth ei dathlu a'i chefnogi.
  • Bydd DARPL yn cydweithio â mentoriaid ysgolion partner AGA i ddyfnhau eu dealltwriaeth o sut i gefnogi darpar athrawon ethnig leiafrifol. Bydd DARPL yn cefnogi ysgolion i sicrhau bod gwrth-hiliaeth yn rhan annatod o'r prosesau adrodd a diogelu, o ddiwylliant yr ysgol, ac o'r cwricwlwm yn ystod lleoliadau. Dylai hyn ddod yn rhan o broses sefydlu myfyriwr, gan greu mannau mwy diogel, mwy cynhwysol i bob darpar athro.
  • Bydd DARPL yn darparu cymorth wedi'i dargedu drwy Rwydwaith Eiriolaeth DARPL. Bydd hyn yn helpu ysgolion i gael eu cydnabod yn ysgolion Rhwydwaith Eiriolaeth DARPL. Bydd yn cryfhau gwelededd a hygrededd arferion gwrth-hiliol ledled Cymru.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn codi ymwybyddiaeth o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Byddwn yn sicrhau bod addysgwyr yn deall ei egwyddorion ac yn cael eu grymuso i weithredu newidiadau ystyrlon sydd o fudd i bob dysgwr.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithredu o blaid y sector addysg. Byddwn yn meithrin cyd-ddealltwriaeth o wrth-hiliaeth. Byddwn yn gwneud hyn drwy gydweithio â'r gweithgor AGA ac ymgysylltu â DARPL, yn ogystal â thrwy ddigwyddiadau perthnasol. Byddwn yn sefyll yn unedig dros degwch a chynhwysiant mewn addysg.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu pecynnau cymhelliant myfyrwyr yn rheolaidd. Bydd hyn yn cynnwys y cymhelliant AGA i fyfyrwyr ethnig leiafrifol. Y bwriad yw sicrhau eu bod yn cefnogi athrawon ethnig leiafrifol yn effeithiol ac yn cynyddu eu nifer, gan gyfoethogi amrywiaeth profiadau a chanlyniadau addysgol dysgwyr.
  • Bydd Llywodraeth Cymru ac Addysgwyr Cymru yn gweithio gyda'r sector i archwilio llwybrau i geiswyr noddfa a ffoaduriaid i addysgu. Bydd hyn yn creu cyfleoedd i unigolion sydd â phrofiad bywyd i gyfrannu'n ystyrlon at addysg yng Nghymru.
  • Bydd Addysgwyr Cymru yn parhau i gymryd camau i hyrwyddo'r cymhellion sydd ar gael ymhlith unigolion a chymunedau ethnig leiafrifol. Bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth o strwythurau cymorth, fel bod mwy o bobl yn teimlo eu bod yn cael eu hannog i ymuno â'r proffesiwn addysgu, a'u galluogi a'u croesawu i wneud hynny.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyfleoedd mewn gweithdai i bob partneriaeth rannu digwyddiadau hiliol a gwrth-hiliol. Bydd hyn yn helpu i adeiladu darlun cliriach o brofiadau myfyrwyr. Bydd yn llywio'r gwaith o ddatblygu mecanweithiau cymorth ymatebol, effeithiol sy'n meithrin amgylcheddau dysgu diogel a chynhwysol.

Rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon a datblygu polisi

Nod

Sicrhau bod profiadau unigolion ethnig leiafrifol yn cael eu hystyried o ddifrif wrth ddatblygu polisi addysg, a bod Llywodraeth Cymru yn parhau â'i dull gwrth-hiliol mewn ffordd glir a chyson wrth lunio polisi.

Arfogi pob myfyriwr AGA â'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i addysgu hanesion a chyfraniadau cymunedau ethnig leiafrifol fel rhan o gwricwlwm amrywiol a chynhwysol.

Cefnogi myfyrwyr AGA i fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol sy'n hyrwyddo arferion gwrth-hiliol, gan helpu i adeiladu gweithlu addysgu sydd:

  • yn hyderus
  • yn wybodus
  • wedi ymrwymo i degwch

Datblygu polisi

Beth rydym wedi'i wneud

Meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni AGA

Mae rhaglenni AGA yng Nghymru wedi'u hachredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg. Gwneir hyn drwy broses annibynnol, sy'n gydnaws â'r Meini Prawf ar gyfer Achredu Rhaglenni AGA. Caiff y rhaglenni AGA eu hachredu am hyd at bum mlynedd.

Ar gyfer 2024, adnewyddwyd y Meini Prawf Achredu i gryfhau'r gefnogaeth ar gyfer newid systematig. Bellach, mae'n gwbl eglur ei bod yn ofynnol i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth o ran hil, cynhwysiant, ac arferion gwrth-hiliol.

Mewn ymateb i'r meini prawf newydd, mae partneriaethau AGA wedi adolygu arferion presennol eu rhaglenni. Maent wedi nodi meysydd i'w gwella. Mae'r camau hyn yn cael eu hymgorffori i gynlluniau recriwtio unigol i sicrhau atebolrwydd a chynnydd.

Gweithdai amrywiaeth

Ers 2022, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal gweithdai amrywiaeth ddwywaith y flwyddyn. Mae'r rhain yn tynnu ynghyd randdeiliaid allweddol, gan gynnwys cynrychiolwyr cymunedol, i rannu llwyddiannau, trafod heriau, a llywio datblygiadau i'r dyfodol.

Y sefyllfa bresennol

Mae'r meini prawf achredu sydd wedi'u hadnewyddu ar waith bellach ar gyfer rhaglenni a ddechreuodd o fis Medi 2024. Mae'r meini prawf hyn yn dynodi ymrwymiad cliriach i addysg wrth-hiliol ac arferion cynhwysol o fewn AGA.

Mae partneriaethau AGA yn cymryd camau i weithredu newidiadau ar sail eu hadolygiadau mewnol. Mae'r gwelliannau yn cael eu hymgorffori i gynlluniau recriwtio. Mae hyn yn newid cadarnhaol, ond mae'n hanfodol gwneud gwaith monitro parhaus i sicrhau cysondeb ac effaith.

Disgwylir i Gyngor y Gweithlu Addysg ac Estyn adolygu eu prosesau monitro ac arolygu, gyda'r bwriad o sicrhau bod rhaglenni AGA yn bodloni'r meini prawf cryfach. Lle mae angen gwelliannau, dylid gweithio ar y cyd â phartneriaethau AGA. Dylid ystyried ymgysylltu â sefydliadau fel DARPL i hwyluso datblygiadau.

Bydd y gwaith o ddatblygu polisi AGA i'r dyfodol yn parhau i flaenoriaethu cynyddu amrywiaeth yn y gweithlu addysg ac ymgorffori dulliau gwrth-hiliol. Bydd hyn yn cyfrannu at newid systematig. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i ymgysylltu â grwpiau rhanddeiliaid ethnig leiafrifol i sicrhau bod effeithiau polisi AGA yn cael eu hasesu ar y cyd ac mewn ffordd gynhwysol.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn darparu fframwaith arweiniol. Dylid ystyried ei oblygiadau ar gyfer polisi addysg ehangach fel rhan o ddatblygiad ehangach ar draws y sector addysg.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â chynrychiolwyr o grwpiau rhanddeiliaid ethnig leiafrifol, gyda'r bwriad o sicrhau bod effeithiau datblygiadau polisi AGA i'r dyfodol yn cael eu hasesu mewn modd cydweithredol.

Rhaglenni AGA

Beth rydym wedi'i wneud

Ymgorffori amrywiaeth a chydraddoldeb

Mae partneriaethau AGA wedi cymryd camau i ymgorffori amrywiaeth a chydraddoldeb ar draws eu rhaglenni. Mae holl brifysgolion partneriaethau AGA wedi ymrwymo bellach i Siarter Cydraddoldeb Hil Advance HE. Mae hyn yn cefnogi sefydliadau i wella:

  • cynrychiolaeth
  • cynnydd
  • llwyddiant 

pobl ethnig leiafrifol mewn addysg uwch.

Dysgu proffesiynol gwrth-hiliol

Yn gynyddol, mae dysgu proffesiynol gwrth-hiliol cyson yn sicrhau newid ar draws prifysgolion ac ysgolion o fewn partneriaethau AGA. Mae sefydliadau fel DARPL wedi darparu cefnogaeth ac arbenigedd gwerthfawr i helpu i yrru'r gwaith hwn ymlaen.

Mae partneriaethau AGA wedi dechrau:

  • adolygu'r math o hyfforddiant a ddarperir i staff, a faint ohono
  • cydnabod ei bwysigrwydd wrth ymgorffori dulliau gwrth-hiliol
  • hyrwyddo newid systemig

Mae yna ymwybyddiaeth gynyddol bod yn rhaid integreiddio amrywiaeth a chydraddoldeb ar draws pob un o fodiwlau rhaglenni AGA.

Cynnwys cynhwysiant yn y cwricwlwm

Mae'r cysyniad o ddad-drefedigaethu'r cwricwlwm yn ennill momentwm. Mae ymdrechion ar y gweill ar lefel prifysgolion ac ysgolion. Mae'r gwaith hwn yn helpu staff a myfyrwyr i ailstrwythuro sut mae addysg yn cael ei darparu yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar gynhwysiant a chynrychiolaeth.

Y sefyllfa bresennol

Disgwylir i bartneriaethau AGA sicrhau bod eu gweledigaeth yn cefnogi amrywiaeth a chydraddoldeb mewn ffordd glir ym mhob rhan o'u rhaglenni. Er bod cynnydd wedi'i wneud, mae angen rhagor o waith i ymgorffori arferion gwrth-hiliol yn gyson ar draws sefydliadau.

Mae hyfforddiant i staff yn parhau i fod yn faes allweddol i'w ddatblygu. Dylid ei gynllunio mewn ffordd sy'n cefnogi addysg wrth-hiliol. Dylid sicrhau bod pob modiwl yn adlewyrchu egwyddorion amrywiaeth a chynhwysiant. Mae hyn yn golygu cynnwys ysgolion a mentoriaid partneriaethau AGA fel nad yw'r newidiadau yn cael eu cyfyngu i leoliadau prifysgolion yn unig.

Dylid rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr archwilio:

  • profiadau
  • straeon
  • cyfraniadau
  • hanesion

cymunedau ethnig leiafrifol. Dylai'r wybodaeth hon lywio eu gwaith cynllunio ac addysgu, yn ystod lleoliadau a thrwy gydol eu gyrfaoedd.

Mae creu mannau diogel i fyfyrwyr drafod y pynciau hyn ac ystyried eu profiadau yn hanfodol. Dylid tynnu sylw myfyrwyr hefyd at DARPL a sefydliadau gwrth-hiliol eraill, ynghyd â'r adnoddau dysgu proffesiynol sydd ar gael iddynt. Dylai hyn ddigwydd o fewn eu rhaglenni AGA ac fel rhan o'u datblygiad parhaus fel athrawon cymwysedig.

Camau gweithredu

Er mwyn parhau i yrru cynnydd, mae'r camau canlynol yn hanfodol:

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau rhagweithiol i adolygu'r Meini Prawf Achredu ar adegau allweddol. Byddwn yn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gydnaws ag arferion gwrth-hiliol. Bydd hyn yn golygu bod pob agwedd ar AGA yn adlewyrchu ymrwymiad i degwch, cynhwysiant, a dymchwel rhwystrau systemig.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid i gyd-ddatblygu polisi gwrth-hiliol o fewn AGA. Bydd effeithiau ehangach y dull gweithredu hwn yn cael eu hystyried ar draws y sector addysg. Bydd yn meithrin system fwy unedig a chynhwysol lle mae gwrth-hiliaeth yn rhan annatod o bolisi, arferion a diwylliant.
  • Bydd partneriaethau AGA yn sicrhau bod cynnwys y rhaglenni yn cael ei gyflwyno mewn ffyrdd sy'n herio anghydraddoldebau ac yn atal gwahaniaethu mewn ffordd eglur. Mae hyn yn creu amgylcheddau dysgu lle mae pob darpar athro yn teimlo ei fod yn cael ei barchu, ei rymuso a'i arfogi i arwain ystafelloedd dosbarth cynhwysol.
  • Bydd partneriaethau AGA yn annog darpar athrawon i ystyried eu dulliau addysgu a'u perthynas â dysgwyr a chymunedau mewn ffordd feirniadol. Bydd hyn yn meithrin amgylcheddau dysgu cynhwysol, gwrth-hiliol sy'n ysgogi ymdeimlad o berthyn ac o barch at bawb.
  • Bydd darparwyr AGA, mewn cydweithrediad â DARPL a sefydliadau eraill, yn cefnogi staff AGA drwy ddysgu proffesiynol parhaus. Dylai hyn gynnwys sgyrsiau bwriadol am y cwricwlwm a chefnogaeth gydnaws. Bydd hyn yn sicrhau bod addysgwyr yn hyderus ac yn abl i ddarparu addysg wrth-hiliol.
  • Bydd partneriaethau AGA yn ymchwilio i gysylltu camau gweithredu gwrth-hiliol â phwyntiau penodol o fewn y safonau proffesiynol. Byddai hyn yn ymgorffori gwrth-hiliaeth i wead strwythurol AGA ledled Cymru. Bydd y dull cydgysylltiedig hwn ar gyfer Cymru gyfan yn sbarduno cysondeb, atebolrwydd a newid diwylliannol hirdymor ar draws y sector. Mae Llywodraeth Cymru a DARPL ar gael i gefnogi a hwyluso'r gwaith hwn, gan rymuso partneriaethau AGA i arwain â phwrpas a thegwch.
  • Bydd partneriaethau AGA yn cychwyn adolygiadau blynyddol a thrafodaethau agored ar sut mae digwyddiadau hiliol yn cael eu hadrodd a'u cofnodi. Bydd y rhain yn cynnwys darpar athrawon a staff. Bydd y sgyrsiau hyn yn helpu i adeiladu dealltwriaeth gliriach o brofiadau bywyd. Bydd yn llywio strategaethau cymorth wedi'u targedu sy'n hyrwyddo system AGA fwy gwrth-hiliol yng Nghymru.
  • Bydd DARPL a Llywodraeth Cymru yn archwilio cyfleoedd i ymestyn dysgu a chefnogaeth broffesiynol wrth-hiliol i athrawon sydd newydd gymhwyso. Bydd hyn yn sicrhau bod athrawon sydd newydd gymhwyso yn ymuno â'r proffesiwn â'r adnoddau, yr hyder a'r ymrwymiad i feithrin ystafelloedd dosbarth cynhwysol a theg o'r diwrnod cyntaf un.