Neidio i'r prif gynnwy

Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol

Mae ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol diwydiant a chynhyrchu ynni yn un lle caiff diwydiannau cynaliadwy eu cadw yng Nghymru, gan gynnal gyrfaoedd a swyddi o ansawdd uchel a rhoi manteision eraill i’r cymunedau y maent yn gweithio ynddynt. 

Rydym eisiau i ddiwydiant a chynhyrchwyr ynni leihau eu dibyniaeth ar danwyddau ffosil yn sylweddol a chynhyrchu llawer llai o nwyon tŷ gwydr, ynghyd â chael cynlluniau credadwy ar gyfer pontio tuag at sero net. 

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd o’r farn bod yr holl lwybrau credadwy y gellir eu rhoi ar waith er mwyn galluogi Cymru i gyrraedd allyriadau sero net yn cynnwys rôl benodol a phwysig ar gyfer hydrogen. Mae gan hydrogen y potensial i ddatgarboneiddio llawer o rannau o'r economi yn gynaliadwy ar draws diwydiant a thrafnidiaeth lle nad yw trydaneiddio yn ymarferol nac yn gost-effeithiol. Gall hydrogen hefyd ddarparu modd o storio a chynhyrchu trydan y gellir ei ddosbarthu yn ôl y galw, sy'n hanfodol yn ystod cyfnodau pan fo allbwn ynni adnewyddadwy yn amrywiol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd hydrogen o ran cyrraedd sero net, ond hefyd o ran y cyfleoedd economaidd sylweddol y gall y dechnoleg eu cynnig i ddiwydiannau, busnesau a dinasyddion Cymru. Bydd prosiectau hydrogen yn creu swyddi a gyrfaoedd yn ystod y camau adeiladu, gweithredu a chynnal-a-chadw, a hefyd byddant yn diogelu swyddi mewn sectorau eraill ac yn darparu cyfleoedd ehangach yn y gadwyn gyflenwi. 

Bwriad y polisi hwn yw gwasanaethu fel polisi strategol lefel uchel, sy'n amlinellu cefnogaeth glir i gynhyrchu a defnyddio hydrogen, lle mae'r hydrogen yn cydymffurfio â'r Safon Hydrogen Carbon Isel ac yn cyfrannu at amcanion llesiant ehangach a phontio teg. Mae'r polisi wedi'i gynllunio i gyd-fynd â modelau a chymorth busnes hydrogen Llywodraeth y DU, gan wneud pwysigrwydd seilwaith hydrogen ar gyfer datgarboneiddio a ffyniant Cymru yn glir, ac er mwyn sicrhau bod anghenion diwydiant Cymru yn cael eu diwallu'n llawn. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y defnyddir hydrogen yn ddiogel ac yn effeithiol, gan wneud y defnydd gorau o’r dechnoleg i esgor ar fuddion datgarboneiddio a buddion economaidd yng Nghymru. 

Er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon, mae’n bolisi gan Lywodraeth Cymru i hybu datblygiad a gweithrediad seilwaith hydrogen: 

1. Pan fydd yr hydrogen a gynhyrchir yn bodloni gofynion Safon Hydrogen Carbon Isel y DU (LCHS)

Mae'r LCHS yn gosod trothwy uchaf ar gyfer faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr a ganiateir yn y broses gynhyrchu fel bod hydrogen yn cael ei ystyried yn 'hydrogen carbon isel'. Bwriad cydymffurfio â'r LCHS yw helpu i sicrhau bod datblygiadau cynhyrchu hydrogen newydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at dargedau ar gyfer lleihau carbon, ac yn gosod metrig clir y gellir gwerthuso'r holl weithrediadau cynhyrchu hydrogen yn ei erbyn. 

Trwy ganolbwyntio ar ddwyster allyriadau cynhyrchu yn hytrach na gorfodi technolegau penodol, mae'r LCHS yn rhoi'r hyblygrwydd mwyaf posibl i ddatblygwyr ddylunio atebion arloesol wedi'u teilwra i heriau sectorau a safleoedd penodol. Mae llwybrau cynhyrchu cymwys yn cynnwys electrolysis, ailffurfio nwy ffosil ynghyd â dal a storio carbon, ailffurfio nwy biogenig, nwyeiddio biomas, a gwahanu nwy sy'n cynhyrchu carbon solet. Ym mhob achos, bydd ystod o ddeddfwriaeth a pholisïau sector penodol hefyd yn berthnasol. 

Bydd Llywodraeth y DU yn adolygu'r LCHS yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i ateb y gofyn ac yn adlewyrchu'r ddealltwriaeth gynyddol o sut mae technolegau newydd yn gweithio'n ymarferol, gan gynnwys sut mae cynhyrchu hydrogen yn rhyngweithio â'r system ynni a safonau ehangach. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i lywio datblygiad y safon. 

2. Pan fo hydrogen yn gwneud cyfraniad clir, mesuradwy a pharhaol at gyrraedd targedau ac amcanion datgarboneiddio

Mae gan Gymru ddigonedd o adnoddau ynni adnewyddadwy sy'n cynnig cyfle gwych i gynhyrchu hydrogen carbon isel. Bydd hydrogen carbon isel yn chwarae rôl hanfodol a phenodol yn y system ynni carbon isel y dyfodol a'r broses o symud i ffwrdd o ddefnyddio tanwyddau ffosil. Dylid defnyddio hydrogen lle bydd yn cael yr effaith fwyaf o ran datgarboneiddio a thyfu economi gynaliadwy. 

Pan fo'n ofynnol gan ofynion cydsynio, deddfwriaethol a pholisi presennol, dylai datblygwyr ddarparu tystiolaeth o gyfraniad mesuradwy a pharhaus at ddatgarboneiddio a sero net trwy newid i dechnolegau hydrogen carbon isel effeithlon. 

3. Pan nad yw cynhyrchu hydrogen yn cyfrannu at lefelau anghynaliadwy o ddefnyddio tanwydd ffosil nac yn rhwystro ein trawsnewidiad i sero net

Un o bolisïau pendant Llywodraeth Cymru yw lleihau'r ddibyniaeth ar danwydd ffosil yn sylweddol ar draws economi Cymru, ac annog effeithlonrwydd ynni, lleihau ynni ac ynni adnewyddadwy. Gall defnyddio hydrogen wedi'i dargedu gyfrannu at yr amcanion polisi hyn trwy ddarparu opsiwn newid tanwydd i fynd i'r afael â ffynonellau allyriadau sy'n llai addas ar gyfer trydaneiddio.   

Yn unol â'r cyngor a ddarperir gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, mae'r polisi hwn hefyd yn cydnabod y gall hydrogen a gynhyrchir o danwydd ffosil gyda dulliau dal a storio carbon, gynhyrchu tanwydd carbon isel a bodloni'r LCHS. 

Yng nghyd-destun y polisi hwn, mae lefelau anghynaliadwy o ddefnyddio tanwydd ffosil yn golygu defnydd sy'n oedi  datgarboneiddio neu'n ei wneud yn anoddach, yn mynd yn groes i'n cyllidebau carbon a'n llwybr sero net, yn cynyddu allyriadau heb liniaru, neu'n ychwanegu at y cyflenwad byd-eang o danwydd ffosil. 

Dylid ystyried y polisi strategol hwn mewn perthynas â hydrogen ar y cyd â pholisïau a deddfwriaethau eraill sy’n ymwneud ag ynni, datgarboneiddio a sectorau penodol, ac sy’n berthnasol i ddatblygiadau hydrogen.

4. Pan fo hydrogen yn cyfrannu at economi gynaliadwy sy’n tyfu

Mae hydrogen yn hwyluso tyfu diwydiannau cynaliadwy yng Nghymru, er mwyn osgoi dad-ddiwydiannu, ac i ddarparu gyrfaoedd o ansawdd uchel a manteision llesiant. 

Trwy ddefnyddio hydrogen yn effeithiol, gellir creu a diogelu diwydiannau cynaliadwy a swyddi o ansawdd uchel, ynghyd ag arwain at fanteision eraill i’r cymunedau perthnasol. Hefyd, bydd pontio tuag at economi carbon isel yn esgor ar fanteision ehangach, megis mannau gwell i fyw a gweithio ynddynt, gyda dŵr ac aer glanach a chanlyniadau iechyd gwell.

Dylai datblygwyr ystyried cynyddu’r manteision a’r cyfleoedd i ddinasyddion ledled Cymru, gan feithrin ymddiriedaeth a derbyniad ymhlith eu rhanddeiliaid ar gyfer technoleg hydrogen a'u prosiectau.

Dylai datblygwyr, yn unol â'r gofyniad cydsynio presennol, ddangos sut mae hydrogen yn cyfrannu at economi gynaliadwy ac yn cyflawni pontio cyfiawn a theg i ffwrdd o danwydd ffosil.

Gofynion tystiolaeth

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd strategol hydrogen ac maent wedi derbyn barn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, sef bod hydrogen yn hanfodol wrth gyflawni a chynnal sero net. Bydd ceisiadau datblygu seilwaith hydrogen yn ddarostyngedig i'r gyfundrefn caniatâd cynllunio, ynghyd â fframwaith cymorth esblygol, sy’n anelu at ddiogelu dinasyddion a’r amgylchedd, a chyflawni rhwymedigaethau statudol mewn perthynas â llesiant a datgarboneiddio. 

Mae'r polisi hwn yn ategu polisi defnydd tir Llywodraeth Cymru fel y'i nodir yn bennaf ym Mholisi Cynllunio Cymru, ac yn arbennig yn helpu i egluro lle hydrogen ar yr hierarchaeth ynni ar gyfer cynllunio. Yn unol â'r fframwaith cynllunio, mae’r cyfrifoldeb dros ddangos bod hydrogen yn cyfrannu at ddatgarboneiddio yn yr hirdymor, a dangos ei fod yn adeiladu economi wyrddach a chryfach, yn gorwedd ar ysgwyddau datblygwyr. Bydd canllawiau ychwanegol ar ofynion tystiolaeth yn cael eu llunio maes o law er mwyn cynorthwyo datblygwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau cydsynio.

Bydd y polisi hwn hefyd yn llywio swyddogaethau datganoledig eraill sy'n ymwneud â datblygu hydrogen lle mae ystyriaethau polisi yn briodol. Felly, ni ddylai'r polisi hydrogen strategol hwn gael ei ystyried ar ei ben ei hun, yn hytrach, dylid ei ystyried ar y cyd â’r polisïau a’r ddeddfwriaeth a fydd yn peri i hydrogen esgor ar enillion datgarboneiddio net gwirioneddol.