Mae rhaglen Cymunedau Digidol Cymru (CDC) yn bwriadu leihau allgáu digidol a helpu i wella lefelau sgiliau digidol sylfaenol. Mae'r adroddiad diweddaru yn darparu asesiad o berfformiad cyffredinol yn erbyn targedau y cytunwyd arnynt ar gyfer blwyddyn 6 (Gorffennaf 2024 i Medi 2025).
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant
Penodwyd Ymchwil OB3 gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o'r rhaglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant (CDC).
3 prif gam y gwerthusiad
- Roedd y cam cyntaf yn cynnwys paratoi adroddiad gwerthusiad proses a damcaniaeth newid a gyhoeddwyd yn 2021.
- Roedd yr ail gam yn cynnwys paratoi gwerthusiad interim o'r broses a'r canlyniadau yn ystod 2022paratoi gwerthusiad interim o'r broses a'r canlyniadau yn ystod 20223.
- Roedd y trydydd cam yn cynnwys paratoi gwerthusiad terfynol crynodol a gyhoeddwyd yn 2025. Nid oedd yr adroddiad terfynol hwn yn cynnwys data ac allbynnau o'r adroddiadau chwarterol terfynol ar gyfer blwyddyn 6 y rhaglen (Ch3 a Ch4) a gasglwyd ar ôl cwblhau'r adroddiad terfynol ac a ddarparwyd yn hydref 2025.
Mae'r adroddiad diweddaru terfynol hwn yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd yn adroddiadau cynnydd chwarterol blwyddyn 6 rhaglen (Ch3 a Ch4) ac mae'n darparu asesiad o berfformiad cyffredinol yn erbyn targedau y cytunwyd arnynt.
Adroddiadau
Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 508 KB
Cyswllt
Ymchwil Cyfiawnder Cymdeithasol
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn:
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
