Neidio i'r prif gynnwy

Mae £20 miliwn ychwanegol o gyllid wedi'i ddyrannu eleni i gefnogi gwaith atgyweirio a chynnal a chadw cyfalaf hanfodol ar draws ysgolion a cholegau yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cyllid hwn, sy'n rhan o'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, yn cefnogi gwaith cynnal a chadw ar raddfa fawr fel ailosod toeau, systemau ffenestri, systemau gwresogi ac awyru, a gwaith trydanol.

Mae'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy wedi ailadeiladu neu adnewyddu 20% o'r ystâd ysgolion dros y degawd diwethaf, ac mae'r cyllid ar gyfer cynnal a chadw cyfalaf yn ystod 2025 i 2026 bellach yn dod i gyfanswm o £50 miliwn. 

Cyfanswm buddsoddiad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025 i 2026 drwy'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yw £391 miliwn bellach – y buddsoddiad blynyddol uchaf ers dechrau yn 2014. 

Mae'r rhaglen hefyd yn cefnogi nodau hinsawdd Cymru gan fod yn rhaid i'r holl waith cynnal a chadw a ariennir drwy'r dyraniad hwn helpu i leihau'r defnydd o ynni ac allyriadau carbon. Mae'r cyllid yn cefnogi gwelliannau fel gwell inswleiddio, gwresogi effeithlon a ffenestri ynni-effeithlon gan greu amgylcheddau dysgu mwy cynaliadwy sy'n rhatach i'w rhedeg ac yn well i'r amgylchedd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

Mae cynnal ein hysgolion a'n colegau mewn cyflwr da yn hanfodol ar gyfer darparu'r amgylcheddau dysgu gorau i'n pobl ifanc. Ers 2018, rydym wedi buddsoddi £314 miliwn mewn cynnal a chadw ar gyfer ysgolion a cholegau ledled Cymru.

Bydd y £20 miliwn ychwanegol hwn yn helpu awdurdodau lleol a cholegau i fynd i'r afael ag anghenion cynnal a chadw ac mae'n dangos ein hymrwymiad parhaus i sicrhau bod ein ystâd addysg yn addas i'r diben gan gyfrannu hefyd at y targedau ar gyfer Ystâd Addysg carbon sero net yng Nghymru.