Rockwool Ltd
Enwebiad ar gyfer gwobr Busnes
Mae Rockwool, Pen-y-bont ar Ogwr, yn enwog am eu cynnyrch inswleiddio gwlân cerrig o graig folcanig naturiol, sy’n gallu gwrthsefyll tân a sŵn gydag effeithlonrwydd thermol rhagorol - elfen hanfodol o adeiladau diogel a chynaliadwy ledled y DU.
Gan gofleidio egwyddorion yr economi gylchol, mae Rockwool yn buddsoddi mewn prosesau cynhyrchu blaengar, ynni-effeithlon ac yn hyrwyddo ailgylchadwyedd, gan leihau allyriadau carbon. Fel cyflogwr pwysig yng Nghymru, mae Rockwool yn meithrin talent drwy ymwneud ag ysgolion lleol, prentisiaid a sefydliadau cymunedol, gan ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr STEM.
Defnyddir eu deunydd inswleiddio mewn prosiectau adeiladu amlwg ledled y wlad, ac mae Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel canolfan rhagoriaeth yn y maes. Trwy gydweithio â llywodraeth a diwydiant, mae Rockwool yn helpu i lunio safonau adeiladu mwy diogel a gwyrdd, ac yn cael effaith fyd-eang mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae eu hymrwymiad i gynaliadwyedd, swyddi a sgiliau yn gwneud Rockwool Ltd yn enwebai teilwng am Wobr Busnes Dewi Sant.
