Luke Evans
Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant
Enwebwyd Luke Evans oherwydd ei lwyddiannau eithriadol fel actor, canwr ac eiriolwr. Wedi'i eni ym Mhont-y-pŵl a'i fagu yn Aberbargoed, mae taith Luke o gymoedd De Cymru i enwogrwydd byd-eang yn tystio i’w gryfder, talent, a balchder yn ei dreftadaeth Gymreig.
O berfformiadau rhagorol yn y West End yn Llundain i rolau mewn ffilmiau mawr fel The Hobbit, Dracula Untold, Beauty and the Beast, a Fast & Furious 6, mae wedi cyfareddu cynulleidfaoedd ledled y byd.
Ac yn ogystal â’i lwyddiannau artistig, mae Luke yn eiriolwr angerddol dros welededd LGBTQ + ac ymwybyddiaeth o iechyd Meddwl. Defnyddia ei enwogrwydd i hyrwyddo cynhwysiant a hunan-dderbyn. Mae ei hunangofiant, 'Boy from the Valleys', yn hanes llawn ysbrydoliaeth a gobaith, dilysrwydd a dewrder. Yn ogystal â hy noll, mae Luke wedi rhyddhau dau albwm stiwdio: At Last ac A Song For You. I ddathlu ei ail albwm fe berfformiodd Luke mewn cyngerdd arbennig, Luke Evans Showtime! yn ei ardal enedigol, yn yr ICC, Casnewydd.
Mae Luke yn deilwng o Wobr Dewi Sant am Ddiwylliant oherwydd ei greadigrwydd eithriadol, balchder diwylliannol, a chyfraniadau ystyrlon i ddiwylliant Cymru, gartref a thramor.
