Mae’r canllaw hwn yn helpu staff GIG Cymru i atal a rheoli ymddygiad niwsans neu aflonyddgar ar safleoedd y GIG. Mae'n cynnwys gweithdrefnau symud a mesurau diogelwch.
Cynnwys
Cyflwyniad
Cydnabyddir yn eang fod staff y GIG ymhlith y rhai sydd fwyaf tebygol o wynebu trais ac ymddygiad ymosodol fel rhan o'u gwaith.
Mae holl gyrff y GIG yn cydnabod eu dyletswydd i ddarparu amgylchedd diogel i bob aelod o staff, defnyddiwr gwasanaeth ac ymwelydd. Yn unol â'i rwymedigaethau iechyd a diogelwch ac uchelgais strategol Cymru iachach: cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, mae'r GIG am fod yn gyflogwr sy'n gosod esiampl dda mewn perthynas ag iechyd a llesiant ei weithlu. Mae gan gyrff y GIG bolisïau trais ac ymddygiad ymosodol lleol sy'n amlinellu eu dull gweithredu cytûn ar gyfer atal yr ymddygiad hwn tuag at eu gweithlu ac ymateb i achosion o'r fath.
Gweledigaeth y Grŵp Cydweithredol Dros Atal Trais (AVC) yw cefnogi GIG Cymru a sefydliadau Gwasanaethau Brys i leihau a rheoli digwyddiadau trais ac ymddygiad ymosodol. Drwy hwyluso ymdrechion i gydweithio â phartneriaid yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol, cyrff GIG Cymru, sefydliadau Gwasanaethau Brys, cymdeithasau staff a Llywodraeth Cymru, mae'r Grŵp Cydweithredol Dros Atal Trais yn hyrwyddo strategaethau i leihau trais a dulliau cyfathrebu â defnyddwyr gwasanaethau. Mae'r Grŵp Cydweithredol Dros Atal Trais hefyd yn cefnogi partneriaid i gydymffurfio â'r cyfarwyddiadau a geir yn Nogfen ymatebion gorfodol Grŵp Cydweithredol dros Atal Trais (WHC/2024/0 24).
Diben y canllawiau hyn
Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â'r drosedd o beri niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd y GIG yng Nghymru a gyflwynwyd gan adran 119 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (y cyfeirir ati yn y canllawiau hyn fel “y Ddeddf”). Maent hefyd yn rhoi gwybodaeth bwysig i gyrff y GIG yng Nghymru a'u swyddogion awdurdodedig i'w cefnogi wrth ddefnyddio'r pŵer i symud pobl sy'n peri niwsans neu aflonyddwch o'r safle, a nodir yn adran 120 o'r Ddeddf.
Dylid cofio y dylai'r defnydd o'r pŵer i symud person o'r safle gael ei integreiddio i mewn i strategaethau presennol i sicrhau diogelwch staff y GIG. Yr egwyddor sylfaenol yw atal sefyllfaoedd lle ceir niwsans neu aflonyddwch cyn iddynt godi neu, pan fyddant yn codi, dad-ddwysáu'r sefyllfa gan ddefnyddio dulliau heb fod yn gorfforol lle bynnag y bo modd.
Pan fydd achosion o niwsans ac aflonyddwch yn digwydd ar un o safleoedd y GIG yng Nghymru, gall cyrff y GIG fod o'r farn ei bod yn fwy priodol delio â'r sefyllfaoedd hynny yn unol â'u polisïau cyfredol a gan ddefnyddio'r hyfforddiant y maent eisoes wedi'i gael. Fodd bynnag, os bydd angen symud person sy'n peri niwsans neu aflonyddwch o'r safle gan ddefnyddio'r pwerau yn adran 120 o'r Ddeddf, mae'r ddogfen hon yn cynnig peth arweiniad o ran yr arferion gorau, gyda'r nod o greu amgylchedd diogel i bawb sy'n gweithio yng ngwasanaethau'r GIG neu'n eu defnyddio.
Nid yw'r canllawiau hyn yn rhoi cyngor penodol i gyrff y GIG mewn perthynas ag erlyn person am gyflawni'r drosedd hon o dan adran 119 o'r Ddeddf. Cyrff y GIG, mewn cydweithrediad â'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, sy'n gyfrifol am arwain yr ymchwiliad ac ystyriaethau dilynol o ran erlyn yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol.
Adrannau perthnasol y Ddeddf at ddibenion y canllawiau hyn yw adrannau 119, 120 ac 121. Ceir copi o'r darpariaethau hyn fel yr oeddent ar ddyddiad y canllawiau hyn yn Atodiad A, ac mae copi llawn o'r Ddeddf ar gael yma.
Dim ond i'r graddau y mae adrannau 119 i 121 o'r Ddeddf yn gymwys i'r GIG yng Nghymru y mae'r canllawiau hyn yn berthnasol. Nid yw'r canllawiau hyn yn gymwys i'r GIG yn Lloegr. Pan fydd cyfeiriadau at ‘aelod o staff y GIG’ yn y canllawiau hyn, ystyrir eu bod yn golygu aelod o staff un o gyrff perthnasol GIG Cymru neu berson sydd fel arall yn gweithio i gorff o'r fath. Hefyd, ystyrir bod cyfeiriadau at ‘safleoedd y GIG’ yn y canllawiau hyn yn golygu safleoedd y GIG yng Nghymru. Caiff pob un o'r termau hyn eu crynhoi yn fanylach yn y canllawiau hyn a'u diffinio gan ddarpariaethau perthnasol y Ddeddf.
Bydd y canllawiau hyn yn trafod y canlynol:
- y ffordd y cymhwysir adrannau 119, 120 ac 121 o'r Ddeddf
- dewis staff priodol GIG Cymru i arfer y pŵer i symud person o'r safle
- darparu hyfforddiant i'r staff a ddewisir
- cadw cofnodion, cofnodi a monitro
- ymwybyddiaeth y cyhoedd a sylw yn y cyfryngau
Trosolwg o'r drosedd a'r pŵer i symud person o'r safle
Mae 2 ddarpariaeth allweddol yn y Ddeddf sy'n ymwneud ag ymddygiad sy'n peri niwsans ac aflonyddwch ar safleoedd y GIG; y cyntaf yw adran 119 o'r Ddeddf a'r ail yw adran 120 o'r Ddeddf.
Adran 119: Y Drosedd o Beri Niwsans neu Aflonyddwch
Mae Adran 119 yn sefydlu'r drosedd o beri niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd y GIG. Bydd person yn cyflawni'r drosedd hon os caiff pob un o'r amodau canlynol eu bodloni:
- mae'r person yn peri, heb esgus rhesymol a thra ei fod ar un o safleoedd y GIG, niwsans neu aflonyddwch i aelod o staff y GIG sy'n gweithio yno neu sydd yno fel arall mewn cysylltiad â'i waith,
- mae'r person yn gwrthod, heb esgus rhesymol, gadael safle'r GIG pan fydd cwnstabl neu aelod o staff y GIG yn gofyn iddo wneud hynny,
- nid yw'r person ar safle'r GIG er mwyn cael cyngor, triniaeth neu ofal meddygol iddo'i hun.
At ddibenion adran 119, ni fydd person ar safle'r GIG at ddiben cael cyngor, triniaeth neu ofal meddygol iddo'i hun mwyach unwaith y bydd y person wedi cael y cyngor, y driniaeth neu'r gofal. At hynny, ni fydd person ar safle'r GIG at ddiben cael cyngor, triniaeth neu ofal meddygol iddo'i hun os gwrthodwyd rhoi'r cyngor, y driniaeth neu'r gofal iddo yn ystod yr 8 awr ddiwethaf.
Adran 120: Pŵer i symud person sy'n peri niwsans neu aflonyddwch o'r safle
Mae adran 120 yn rhoi'r pŵer i gwnstabliaid a swyddogion awdurdodedig symud person o un o safleoedd y GIG os amheuir yn rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd ar y safle hwnnw o dan adran 119. Gall swyddogion awdurdodedig hefyd awdurdodi aelod priodol o staff y GIG i symud person o'r safle o dan yr amgylchiadau hyn. Bydd y sawl a all fod yn swyddog awdurdodedig ac yn aelod priodol o staff yn cael ei drafod yn ddiweddarach yn y canllawiau hyn.
Gellir symud person o'r safle o dan adran 120 o'r Ddeddf gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen, ond ni all swyddog awdurdodedig symud person o'r safle, nac awdurdodi person arall i wneud hynny, os bydd gan y swyddog awdurdodedig reswm dros gredu:
(a) bod angen cyngor, triniaeth neu ofal meddygol iddo'i hun ar y person y bwriedir ei symud
neu
- (b) y byddai symud y person o'r safle yn peryglu iechyd corfforol neu iechyd meddwl y person hwnnw
Adran 119: Y drosedd o beri niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd y GIG yng Nghymru
Beth yw niwsans neu aflonyddwch?
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol ar safleoedd y GIG yn cynnwys peri niwsans, unrhyw beth sy'n achosi anghyfleustra neu annifyrrwch, ac mae aflonyddwch yn golygu tarfu ar ymddygiad heddychlon. Gall hyn gynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill:
Bygylu ac ymddygiad ymosodol
- ymddygiad neu ystumiau sy'n bygylu
- camdriniaeth eiriol neu ddefnyddio iaith anweddus
Rhwystro ac Ymyrryd
- rhwystro coridorau, drysau neu ffyrdd trwodd yn gorfforol
- atal neu rwystro staff rhag cyflawni eu dyletswyddau
- gwrthod gadael safle'r GIG ar ôl cael cyngor, triniaeth a gofal meddygol pheri niwsans ac aflonyddwch pan ofynnir iddo wneud hynny
- methu â chydymffurfio â cheisiadau rhesymol i roi'r gorau i weithgarwch peryglus neu sy'n tarfu ar eraill
Tarfu ar wasanaethau a'r amgylchedd
- torri ar draws gwasanaethau sy'n cael eu darparu
- creu gormod o sŵn mewn ardaloedd aros, ar wardiau ac mewn rhannau eraill o un o safleoedd y GIG
- chwarae cerddoriaeth uchel ar un o safleoedd y GIG (er enghraifft, drwy ddyfeisiau symudol)
- bod yn swnllyd neu'n annymunol mewn ardaloedd a rennir
Diystyru rheolau a chwrteisi
- anwybyddu neu dorri rheolau mewn perthynas ag oriau ymweld neu derfynau ar nifer yr ymwelwyr
- smygu ar un o safleoedd y GIG
- defnyddio alcohol neu gyffuriau neu feddu arnynt
- parcio mewn ffordd anystyriol neu rwystrol
Nid yw'r Ddeddf yn darparu diffiniad o'r hyn sy'n gyfystyr â "niwsans" neu "aflonyddwch" i aelod o staff y GIG, a'r llysoedd fyddai'r beirniad terfynol o ran penderfynu a oes niwsans neu aflonyddwch gan ystyried amgylchiadau pob achos.
Mae nodiadau esboniadol y Ddeddf yn cadarnhau y gall niwsans neu aflonyddwch gynnwys unrhyw fath o ymddygiad nad yw'n gorfforol sy'n torri'r heddwch, megis ymddygiad ymosodol ar lafar neu ystumiau sy'n bygylu staff y GIG.
Caiff achosion o drais corfforol neu ymosodiadau yn erbyn staff y GIG, cleifion neu ymwelwyr eu cwmpasu gan droseddau eraill, ac fel arfer dylid ymdrin ag achosion o'r fath o dan y ddeddfwriaeth briodol. Am arweiniad pellach, cyfeiriwch at Ddogfen Ymatebion Gorfodol i Drais y Grŵp Cydweithredol Dros Atal Trais, sydd wedi cael ei chymeradwyo gan y 4 Heddlu yng Nghymru. Mae'r gwasanaethau hyn yn ymrwymedig i gefnogi cydweithwyr GIG Cymru i ymateb i ymddygiad troseddol.
A oes esgus rhesymol dros beri niwsans neu aflonyddwch?
Nid yw'r Ddeddf yn darparu diffiniad safonol o ran yr hyn sy'n gyfystyr ag esgus rhesymol at ddibenion adran 119 o'r Ddeddf. Mater i'r llysoedd felly fydd ystyried amgylchiadau'r drosedd bosibl a gyflawnwyd wrth benderfynu ar yr hyn sy'n esgus rhesymol.
Fodd bynnag, mae'n bwysig yr ystyrir rhesymau dilys a all fod gan berson dros beri niwsans neu aflonyddwch ar un o safleoedd y GIG. Os bydd gan berson esgus rhesymol, ni all gyflawni trosedd o dan adran 119 o'r Ddeddf ac felly ni ellir ystyried ei symud o'r safle gan ddefnyddio'r pwerau o dan adran 120 o'r Ddeddf.
Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd rhywun sydd newydd gael newyddion gofidus am anwylyd yn ei chael hi'n anodd rheoli ei ymddygiad, ac mae'n bosibl y gellid deall ffrwydrad emosiynol mewn cyd-destun o'r fath o dan rai amgylchiadau.
Mewn rhai achosion, gall ymddygiad sy'n tarfu ar eraill ddeillio o gyflwr iechyd meddwl neu anabledd dysgu, ac os bydd trosedd wedi cael ei chyflawni, rhaid ystyried ai'r cyflwr wnaeth achosi'r ymddygiad dan sylw.
Ni fydd pobl sy'n peri niwsans neu aflonyddwch pan fyddant dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol yn gallu defnyddio hyn fel esgus rhesymol dros eu hymddygiad.
Dylai swyddogion awdurdodedig fod yn wrthrychol wrth wneud eu penderfyniadau bob amser ac ystyried cyflwr corfforol neu feddyliol y person wrth benderfynu a ddylid ei symud o'r safle gan ddefnyddio'r pwerau hyn.
Beth yw safleoedd y GIG?
Mae'r ddeddfwriaeth yn gymwys i ymddygiad sy'n digwydd ar un o ‘safleoedd y GIG’. Mae'r Ddeddf, yn Adran 119(4), yn rhoi diffiniad ar wahân ar gyfer safleoedd y GIG yng Nghymru a Lloegr. Mewn perthynas â Chymru, mae'r Ddeddf yn nodi bod safleoedd y GIG yn cyfeirio at “safleoedd GIG Cymru”, gyda'r ystyr canlynol:
- unrhyw ysbyty a roddwyd yng ngofal, neu a reolir gan, un o gyrff perthnasol GIG Cymru (diffinnir “un o gyrff perthnasol GIG Cymru” gan y Ddeddf fel:
- ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, y mae pob un o'i hysbytai, ei sefydliadau a'i chyfleusterau, neu'r rhan fwyaf ohonynt, wedi'u lleoli yng Nghymru neu
- Bwrdd Iechyd Lleol
- unrhyw adeilad neu strwythur arall, neu gerbyd, sy'n gysylltiedig â'r ysbyty ac sydd wedi'i leoli ar dir yr ysbyty (p'un a yw wedi'i roi yng ngofal, neu'n cael ei reoli gan, un o gyrff perthnasol GIG Cymru ai peidio)
- tir yr ysbyty (sef tir yng nghyffiniau ysbyty ac sy'n gysylltiedig ag ef)
Ysbyty
Ni chaiff y term ‘ysbyty’ ei ddiffinio gan y Ddeddf ond, yn gyffredinol, dehonglir ei fod yn golygu cyfleusterau gofal eilaidd sy'n darparu gwasanaethau acíwt. Gellir ehangu hyn i gyfleusterau megis ysbytai iechyd meddwl, ysbytai deintyddol, ysbytai cymunedol, canolfannau galw i mewn a pholyclinigau, yn dibynnu ar b'un a yw corff GIG Cymru yn ystyried bod y cyfleuster yn cyd-fynd â'r diffiniad o ‘ysbyty’. Yn ogystal, gellir cynnwys rhai adeiladau neu strwythurau, gan gynnwys meddygfeydd neu leoliadau gofal sylfaenol eraill sydd wedi'u lleoli ar dir ysbyty ac sy'n gysylltiedig ag ysbyty, yn y diffiniad hwn hefyd.
Mae'n bwysig nodi mai mater i'w ddehongli ar sail farnwrol yw'r penderfyniad o ran a yw cyfleuster penodol yn gyfystyr ag ‘ysbyty’ at ddibenion y Ddeddf yn y pen draw. Ceidw'r Llysoedd yr awdurdod i bennu ystyr termau statudol yng nghyd-destun achosion unigol.
Gall rhai o safleoedd y GIG fod wedi'u gwasgaru dros nifer o safleoedd neu fod wedi'u rhannu ar draws lleoliadau gwahanol. Ar yr amod bod y safleoedd dan sylw wedi'u lleoli ar ‘dir ysbyty’ fel y'i diffinnir yn adran 119 o'r Ddeddf (hynny yw, tir yng nghyffiniau ysbyty ac sy'n gysylltiedig ag ef), bydd y diffiniad o safleoedd y GIG yn berthnasol iddynt o hyd a chânt eu cwmpasu gan y darpariaethau hyn.
Cerbydau
Mae'r term ‘safleoedd y GIG’ yn cwmpasu pob cerbyd, gan gynnwys ambiwlansys, gwasanaethau cludo cleifion a thacsis, a gaiff ei reoli gan yr ysbyty neu sy'n gysylltiedig ag ef ac sydd wedi'i leoli ar dir yng nghyffiniau ysbyty ac sy'n gysylltiedig â'r ysbyty.
Yr hyn sydd wedi'i eithrio
Nid yw'r diffiniad o safleoedd y GIG yn cynnwys safleoedd gofal iechyd o'r mathau canlynol, oni bai eu bod wedi'u lleoli ar dir yr ysbyty:
- meddygfeydd
- practisau deintyddol neu ddeintyddfeydd
- fferyllfeydd
- hosbisau
- darparwyr ambiwlansys preifat
Pwy sy'n aelod o staff y GIG?
Mewn perthynas â'r GIG yng Nghymru, caiff aelod o staff y GIG ei ddiffinio gan y Ddeddf fel person a gyflogir gan un o gyrff perthnasol GIG Cymru (gweler Adran 2.3 o'r canllawiau hyn am y diffiniad o “un o gyrff perthnasol GIG Cymru”) neu sydd fel arall yn gweithio iddo, boed hynny fel neu ar ran contractwr, fel gwirfoddolwr neu fel arall.
Noder bod y diffiniad o aelod o staff y GIG yn cynnwys contractwyr a gwirfoddolwyr sy'n gweithio i gorff perthnasol GIG Cymru. Nid yw'n gyfyngedig i staff clinigol felly a gallai gynnwys pobl eraill, megis y rheini sy'n gweithio i gorff perthnasol GIG Cymru mewn swyddi rheoli, clercol, cyfleusterau a domestig.
Mae'r drosedd yn adran 119 o'r Ddeddf yn ymwneud â pheri niwsans neu aflonyddwch i aelod o staff y GIG sy'n gweithio ar un o safleoedd y GIG neu sydd yno fel arall mewn cysylltiad â'i waith. Felly gallai'r drosedd ddigwydd pan fydd aelodau o staff y GIG yn cyrraedd neu'n gadael safle'r GIG ble maent yn gweithio ar ddechrau neu ddiwedd eu diwrnod gwaith neu eu shifft.
Gwrthod gadael safle
I fodloni ail elfen y drosedd yn adran 199 o'r Ddeddf, mae'n rhaid i berson sy'n peri (heb esgus rhesymol a thra ei fod ar un o safleoedd y GIG) niwsans neu aflonyddwch i aelod o staff y GIG wrthod, heb esgus rhesymol, gadael y safle pan fydd aelod o staff y GIG neu gwnstabl yr heddlu yn gofyn iddo wneud hynny. Nid oes rhaid i'r aelod o staff y GIG sy'n gofyn i'r person sy'n troseddu adael fod yr un aelod o staff a wynebodd yr achos perthnasol o niwsans neu aflonyddwch.
Argymhellir y dylid rhoi rhybudd gyda'r cyfarwyddyd i adael y safle y gall gwrthod gadael arwain at symud y person o'r safle o dan bwerau'r Ddeddf. Dylai corff perthnasol GIG Cymru wneud pob ymdrech i sicrhau bod y person y gofynnir iddo adael wedi deall y cais i adael.
A oes esgus rhesymol dros wrthod gadael y safle?
Gall esgus rhesymol dros wrthod gadael y safle fod yn wahanol i esgus rhesymol dros beri niwsans neu aflonyddwch. Ni chaiff yr hyn sy'n rhesymol mewn achosion o'r fath ei ddiffinio gan y Ddeddf ac, wrth reswm, bydd yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Dylai aelodau o staff y GIG asesu amgylchiadau pob achos mewn modd rhesymol a chymesur i bennu a oes gan y person esgus rhesymol dros wrthod gadael y safle.
Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd gan berson esgus rhesymol dros wrthod gadael os bydd yn hebrwng plentyn neu ddibynnydd i'r ysbyty a byddai gadael y safle yn golygu bod y plentyn neu'r dibynnydd hwnnw ar ei ben ei hun. Yn yr un modd, gall person fod yn ofalwr claf yn yr ysbyty, a byddai gadael y safle yn golygu gadael y claf hwn ar ei ben ei hun neu'n agored i niwed. Fodd bynnag, mae'n bosibl y gellir ystyried symud unigolyn o'r safle os bydd trefniadau gofalu eraill wedi cael eu rhoi ar waith, fel y bo'n briodol.
Pobl na allant gyflawni'r drosedd hon
Nid yw'r drosedd yn adran 119 o'r Ddeddf yn gymwys i unigolion sydd ar safle'r GIG at ddiben cael cyngor, triniaeth neu ofal meddygol iddyn nhw eu hunain. Felly, ni all unigolion sy'n bodloni'r maen prawf hwn gyflawni'r drosedd yn adran 119. Byddai hyn yn gymwys, er enghraifft, i gleifion sydd wedi'u cofrestru â'r ysbyty am asesiad clinigol neu feddygol, gan gynnwys y rhai sydd ag apwyntiadau wedi'u trefnu, neu'r rhai sy'n mynd i Adran Achosion Brys.
Fodd bynnag, yn rhinwedd adran 119(3) o'r Ddeddf, dylid ystyried nad yw person ar safle'r GIG at ddiben cael cyngor, triniaeth neu ofal meddygol, ac felly gallai gyflawni'r drosedd, o dan yr amgylchiadau canlynol:
- Unwaith y bydd y person wedi cael y cyngor, y driniaeth neu'r gofal yr oedd ar safle'r GIG i'w gael/chael.
- Os gwrthodwyd cyngor, triniaeth neu ofal meddygol i'r person a oedd yn ceisio cyngor, triniaeth neu ofal o'r fath o fewn yr 8 awr ddiwethaf.
Bydd yn hanfodol asesu'r sefyllfa ac amgylchiadau'r person yr amheuir iddo beri niwsans neu aflonyddwch yn ofalus ym mhob achos felly.
Adran 120: Y Pŵer i pymud y person sy'n peri niwsans neu aflonyddwch o'r safle
Amheuaeth resymol fod person yn cyflawni, neu wedi cyflawni, trosedd o dan Adran 119 o'r Ddeddf, a'r pŵer i'w symud o'r safle
Os bydd cwnstabl neu swyddog awdurdodedig yn amau'n rhesymol fod person yn cyflawni neu wedi cyflawni trosedd o dan adran 119 o'r Ddeddf, gall y cwnstabl neu'r swyddog awdurdodedig symud y person o safle'r GIG gan ddefnyddio'r pŵer i symud person o'r safle yn adran 120(1) o'r Ddeddf (yn achos cwnstabl) ac adran 120(2) o'r Ddeddf (yn achos swyddog awdurdodedig).
Mewn achosion o'r fath gall y swyddog awdurdodedig hefyd awdurdodi aelod priodol o staff y GIG i symud y person o'r safle a cheir arweiniad pellach ar hyn yn adran 4 o'r canllawiau hyn.
Gellir crynhoi pwy sy'n ‘gwnstabl’ ac yn ‘swyddog awdurdodedig’ at ddibenion adran 120 o'r Ddeddf fel a ganlyn:
- Ni chaiff cwnstabl ei ddiffinio yn y Ddeddf ond dylid ystyried ei fod yn golygu Swyddog Heddlu neu Swyddog Heddlu gwirfoddol (a elwir yn Gwnstabl Gwirfoddol). Mae gan Gwnstabliaid Gwirfoddol yr un pwerau ac maent yn cyflawni'r un rôl â Swyddog Heddlu llawn amser, ond ar sail ran-amser.
- Nid yw cwnstabl yn cynnwys Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu gan nad ydynt yn rhannu'r un pwerau i gyd ac nid yw'n ofynnol iddynt gael eu hardystio drwy wneud datganiad mewn ffurf ragnodedig gerbron Ynad Heddwch yn ardal yr heddlu dan sylw. Felly nid oes gan Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu y pŵer i symud person o'r safle os amheuir ei fod yn cyflawni trosedd o dan adran 119 o'r Ddeddf. Fodd bynnag, gallai Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu ddefnyddio ei bwerau ei hun i gael enw a chyfeiriad rhywun yr amheuir ei fod yn cyflawni trosedd o dan y Ddeddf.
- Gall heddluoedd ystyried rhoi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar waith i ardystio Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu sy'n gweithredu fel swyddog awdurdodedig.
- Diffinnir swyddog awdurdodedig yn adran 120(5) o'r Ddeddf fel unrhyw aelod o staff y GIG (gweler adran 2.4 o'r canllawiau hyn) sydd wedi cael ei awdurdodi gan un o gyrff perthnasol GIG Cymru (gweler adran 2.3 o'r canllawiau hyn) i arfer y pŵer a roddir gan adran 120 o'r Ddeddf. Argymhellir bod y bobl hyn yn cael hyfforddiant priodol a ddarperir gan y Grŵp Cydweithredol dros Atal Trais cyn cael eu hawdurdodi i arfer y pŵer hwn. Ceir rhagor o wybodaeth am rolau a chyfrifoldebau swyddogion awdurdodedig yn adran 4 o'r canllawiau hyn.
Yn ymarferol, mae'n bosibl na fydd y swyddog awdurdodedig yn bresennol ar yr adeg pan berir y niwsans neu'r aflonyddwch ac efallai y bydd angen i staff y GIG gysylltu â'r unigolyn er mwyn iddo ymateb i'r digwyddiad. Mewn achosion o'r fath, byddai'n rhaid i'r swyddog awdurdodedig gadarnhau'r hyn sydd wedi digwydd drwy holi staff y GIG a thystion eraill a oedd yn bresennol yn ystod y digwyddiad cyn y gall amau yn rhesymol fod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 119 o'r Ddeddf.
Os bydd aelod o staff y GIG yn credu bod person yn peri niwsans neu aflonyddwch iddo ac y dylid symud y person o'r safle, dylai'r aelod o staff y GIG gysylltu â'r swyddog awdurdodedig ar unwaith i asesu a oes amheuaeth bod y person wedi cyflawni trosedd ac y gellid ystyried ei symud o'r safle.
Mae'n bwysig bod aelodau o staff y GIG yn ystyried dynameg sefyllfa cyn defnyddio'r pwerau a ddarperir o dan adran 120 o'r Ddeddf, a'u bod yn mabwysiadu dull gweithredu cymesur bob amser. Er enghraifft, bydd sefyllfaoedd pan fydd pobl ar safleoedd y GIG wedi cynhyrfu ac mae'n bosibl felly y bydd mwy o risg y byddant yn dangos ymddygiad anrhagweladwy, megis yn y senarios canlynol:
- os bydd swyddog awdurdodedig o'r farn bod methiannau'r sefydliad wedi cyfrannu'n sylweddol at ymddygiad yr unigolyn
- os bydd unigolyn yn perthyn i glaf sydd wedi marw neu'n wael, ac yn cael newyddion gofidus mewn perthynas â'i anwylyd
- os bydd yr unigolyn yn rhiant sy'n bryderus ynglŷn â chyflwr ei blentyn
A ddylid symud person o'r safle?
Cynghorir swyddogion awdurdodedig i ddilyn y weithdrefn sefydledig a amlinellwyd yn ystod hyfforddiant argymelledig y Grŵp Cydweithredol dros Atal Trais wrth asesu a yw unigolyn wedi cyflawni trosedd o dan adran 119 o'r Ddeddf ac yn gymwys i gael ei symud o'r safle. Bwriedir i'r dull gweithredu hwn sicrhau y caiff mesurau diogelu deddfwriaethol eu dilyn ac nad yw unigolion yn cael eu symud o'r safle yn amhriodol.
Nodir isod rai o'r materion ymarferol y gall fod angen i'r swyddog awdurdodedig eu hystyried wrth wneud ei asesiad. Dylid nodi nad yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr a gellir ei dilyn mewn trefn wahanol.
- A yw'r ymddygiad sy'n peri niwsans yn mynd rhagddo?
- A yw'r person sy'n troseddu wedi cael cais i roi'r gorau i ymddwyn yn y ffordd hon?
- A oes troseddau eraill mwy difrifol i'w hystyried, er enghraifft, a yw wedi ymosod ar unrhyw un?
- A yw'r person yn dioddef argyfwng meddygol?
- A oes ganddo esgus rhesymol dros ei ymddygiad?
- Beth yw effaith ei ymddygiad?
O dan adran 120(4) o'r Ddeddf, mae mesurau diogelu cyfreithiol pwysig sy'n cyfyngu ar bryd y gall swyddog awdurdodedig symud person o un o safleoedd y GIG neu awdurdodi person arall i wneud hynny. Bydd y rhain yn codi pan fydd gan y swyddog awdurdodedig reswm dros gredu'r canlynol:
(a) bod angen cyngor, triniaeth neu ofal meddygol iddo'i hun ar y person y bwriedir ei symud o'r safle
neu
- (b) byddai symud y person o'r safle yn peryglu ei iechyd corfforol neu feddyliol
Mae'r mesurau diogelu hyn ar waith i sicrhau y caiff pwerau symud eu harfer yn gymesur, a gan roi ystyriaeth lawn i iechyd, urddas a diogelwch unigolion ar safleoedd y GIG. Maent yn arbennig o berthnasol mewn sefyllfaoedd sy'n ymwneud â chleifion, gofalwyr neu ymwelwyr a all fod wedi cynhyrfu, wedi drysu neu'n dioddef argyfwng iechyd.
Bwriedir i'r canllawiau hyn gefnogi cyrff perthnasol y GIG a swyddogion awdurdodedig i arfer y pwerau i symud person o'r safle o dan adran 120 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008, gan gynnwys wrth ymdrin ag unigolion a all fod yn agored i niwed oherwydd problemau iechyd meddwl. Nid yw'r canllawiau yn rhoi cyfarwyddyd i'r heddlu, gan mai dim ond i gyrff perthnasol y GIG a swyddogion awdurdodedig y darperir canllawiau o dan adran 121(1) o'r Ddeddf. Er bod y canllawiau yn amlinellu'r fframwaith deddfwriaethol, darperir manylion ymarferol pellach ar arfer yr hawl i symud person o'r safle, yn enwedig o dan amgylchiadau sy'n ymwneud ag unigolion agored i niwed, drwy hyfforddiant argymelledig y Grŵp Cydweithredol dros Atal Trais.
Symud person yr amheuir ei fod yn cyflawni'r drosedd o'r safle yn ddiogel
Mae'n bosibl y bydd risgiau yn gysylltiedig â symud person o safle yr amheuir yn rhesymol ei fod yn cyflawni trosedd neu ei fod wedi cyflawni trosedd o dan adran 119 o'r Ddeddf. Felly, cyn ystyried defnyddio'r pŵer i symud person o'r safle, dylai swyddog awdurdodedig asesu'r risgiau posibl.
Fel enghraifft, dylid ystyried ffactorau megis:
- ymddygiad presennol yr unigolyn dan sylw
- lleoliad y digwyddiad
- p'un a oes aelodau eraill o staff yn y cyffiniau
- ffactorau effaith megis rhyw, maint, oedran ac unrhyw faterion ymddygiadol hysbys, e.e. a wyddys bod y person sy'n troseddu yn arbennig o ymosodol
- p'un a alwyd yr heddlu, ac a fyddai'n well aros i'r heddlu ddelio â'r sefyllfa.
Wrth benderfynu symud person o'r safle, dylai'r swyddog awdurdodedig ystyried ei ddiogelwch ei hun, diogelwch staff y GIG a awdurdodwyd ganddo i symud y person o'r safle, a diogelwch y person sy'n cael ei symud o'r safle, cleifion eraill ac ymwelwyr sydd o'i gwmpas.
Fel rhan o'r broses asesu risg, os ystyrir y bydd symud yr unigolyn o'r safle yn peri risg o niwed i'r unigolyn ei hun (e.e. cael ei roi mewn cysgodfan fysiau ar ei ben ei hun yn hwyr y nos), neu'n peri risg o niwed i bobl eraill sy'n gysylltiedig â'r broses o'i symud (e.e. drwy ddefnyddio gyrrwr tacsi sydd wedi'i gontractio gan yr ysbyty), yna dylid osgoi hyn.
Cyn ceisio symud y person, argymhellir y dylid rhoi gwybod i'r person y bwriedir ei symud y gall grym rhesymol gael ei ddefnyddio'n gyfreithlon os ystyrir bod hynny'n angenrheidiol, ond nad yw'r person wedi cael ei arestio ar y pwynt hwn. Dylai unrhyw gamau i symud person o'r safle fod yn gymesur ag unrhyw risgiau canfyddedig.
Beth yw ‘grym rhesymol’?
Dim ond pan fetho popeth arall ac os na fydd dulliau nad ydynt yn gorffol yn llwyddiannus wrth geisio symud y person o'r safle y dylid defnyddio grym rhesymol. Nid oes diffiniad cyfreithiol o beth sy'n ‘rhesymol’ wrth ystyried defnyddio grym i symud person o'r safle, a bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau'r achos penodol. Fodd bynnag, dylai faint o rym a ddefnyddir fod yn angenrheidiol ac yn gymesur a dylid gallu ei gyfiawnhau o dan yr amgylchiadau.
Dylai swyddogion awdurdodedig ac aelodau priodol o staff gael hyfforddiant perthnasol a ddarperir gan eu cyflogwr, sy'n disgrifio'n fanwl yr hyn y gellid ei ystyried yn rym ‘rhesymol’ a hyfforddiant ar roi'r pŵer i symud rhywun o'r safle ar waith yn ymarferol.
Os bydd y swyddog awdurdodedig yn penderfynu bod angen defnyddio grym rhesymol i symud person o'r safle, dylai sicrhau bod faint o rym a ddefnyddir gan staff awdurdodedig y GIG yn briodol ac nad yw'n fwy na'r hyn sydd ei angen o gwbl, a'i fod yn unol â hyfforddiant ymyriad corfforol staff awdurdodedig y GIG sy'n mynd ati i symud y person o'r safle. Dylai staff sy'n defnyddio grym rhesymol ystyried diogelwch pawb sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad. Er enghraifft, os bydd gan y person y bwriedir ei symud o'r safle gyflwr meddygol (ond nad yw ar safle'r GIG i gael cyngor, triniaeth neu ofal meddygol ar gyfer y cyflwr hwn), yna mae'n bosibl na fyddai defnyddio grym rhesymol i'w symud o'r safle yn briodol oherwydd gallai hyn beri niwed iddo.
Os bydd ymddygiad y person yn gwaethygu i droseddau mwy difrifol, megis ymosodiad, wrth iddo gael ei symud o'r safle, dylid ffonio'r heddlu ar unwaith. At hynny, os bydd y person sy'n cael ei symud o'r safle yn cael anaf corfforol o ganlyniad i'r dulliau a ddefnyddir i'w symud, dylid ceisio cyngor meddygol priodol ar unwaith. O dan yr amgylchiadau hyn, dylai'r swyddog awdurdodedig gofnodi'r digwyddiad, gan gynnwys cael datganiadau ysgrifenedig gan y rhai a oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiad, a dylai'r cofnodion hyn fod yn rhan o adolygiad ar ôl y digwyddiad.
Awdurdodi Staff y GIG
Nid yw'r weithdrefn ar gyfer awdurdodi swyddogion awdurdodedig wedi'i nodi yn y Ddeddf, ond argymhellir bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi yn ysgrifenedig gan berson sydd ar lefel y bwrdd yng nghorff perthnasol GIG Cymru. Dylai gael sicrwydd fel rhan o'r broses hon fod y swyddogion awdurdodedig a staff priodol y GIG yn meddu ar hyfforddiant a chymwyseddau addas i gyflawni eu rolau.
Mae rôl swyddog awdurdodedig yn bwysig ac mae cryn gyfrifoldeb ynghlwm â hi. Argymhellir felly fod y swyddog awdurdodedig yn rhywun sydd mewn swydd reoli ac y mae ei ddisgrifiad swydd presennol yn cynnwys cyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau. Gall cyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau gwmpasu penderfyniadau sy'n ymwneud ag iechyd person neu benderfyniadau sy'n ymwneud â gweithrediadau'r sefydliad y mae'n gweithio ynddo neu'r broses o redeg y sefydliad.
Gall y swyddog awdurdodedig fod, er enghraifft, yn glinigydd neu'n rheolwr yn y GIG. Gall rolau addas gynnwys y canlynol, ymhlith eraill:
- Prif Nyrs
- Uwch-nyrs neu Metron
- Rheolwr Safle neu Reolwr Gwelyau ar Ddyletswydd
- Uwch-fydwraig
- Cofrestrydd neu Meddyg Ymgynghorol
- Rheolwr Gweithrediadau
- Rheolwr Safle Clinigol
- Swyddog Diogelwch
Dylai corff perthnasol GIG Cymru sicrhau bod digon o swyddogion awdurdodedig ar gael, gan ystyried maint yr ysbyty a'r angen am ddarpariaeth 24 awr. Dylai cyrff y GIG sicrhau bod swyddogion awdurdodedig yn cwblhau rhaglen hyfforddiant berthnasol (ceir manylion am hyn yn adran 4.2 y canllawiau hyn).
Dylai aelodau o staff y GIG fod yn ymwybodol o bwy yw eu swyddogion awdurdodedig a sut i gysylltu â nhw. Dylai cyrff GIG Cymru sicrhau bod rhestr o swyddogion awdurdodedig ar gael i'r staff ynghyd â'r amseroedd y gellir cysylltu â nhw.
Dewis aelodau priodol o staff y GIG
Bydd angen i swyddogion awdurdodedig fodloni eu hunain fod yr aelodau o staff y GIG y maent yn eu hawdurdodi i symud person o'r safle o dan adran 120(2)(b) o'r Ddeddf wedi cael hyfforddiant addas, yn unol â'r gofynion a nodir yn adran 4.2 o'r canllawiau hyn.
Os yw'n bosibl, argymhellir bod swyddogion awdurdodedig yn manteisio ar wasanaethau swyddogion diogelwch ar safleoedd y GIG ac yn awdurdodi'r aelodau hyn o staff i helpu i symud pobl o'r safle pan fydd digwyddiadau yn codi.
Pan fydd staff diogelwch ar gael i gyrff GIG Cymru, fel arfer bydd hyn ar sail 24 awr y dydd a 365 o ddiwrnodau'r flwyddyn. Gellir ystyried felly fod yr aelodau hyn o staff yn briodol ar gyfer y rôl hon.
Fodd bynnag, os na fydd gan gyrff GIG Cymru staff diogelwch, neu os na fydd staff diogelwch ar gael yn gyson ar eu safleoedd, dylid ystyried enwebu unigolion amgen priodol. Dylai'r unigolion hyn fod yn unigolion y mae eu swydd yn cynnwys defnydd rheolaidd o sgiliau datrys gwrthdaro ac ymyrryd corfforol.
Argymhellir bod corff perthnasol GIG Cymru yn sicrhau bod pob adran berthnasol yn cael rhestr gyfredol o swyddogion awdurdodedig a staff priodol y GIG fel mater o drefn.
Gofynion hyfforddi
Swyddogion awdurdodedig
Er mwyn i swyddogion awdurdodedig gyflawni eu rolau, disgwylir y byddant wedi cwblhau hyfforddiant priodol a ddarperir gan y Grŵp Cydweithredol dros Atal Trais. Argymhellir bod swyddogion awdurdodedig yn cwblhau hyfforddiant yn y meysydd canlynol, ymhlith eraill o bosibl:
- Deall Adrannau 119 i 120 o'r Ddeddf
- Sut i asesu a yw person wedi cyflawni trosedd
- Sut i symud person o safle'r GIG yn ddiogel a'r hyn a fyddai'n gyfystyr â grym rhesymol
- Materion iechyd a diogelwch (gan gynnwys asesiadau risg)
- Ymwybyddiaeth o amrywiaeth
- Ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
- Ffactorau dad-ddwysáu
- Hyfforddiant Pasbort Cymru ar Drais ac Ymddygiad Ymosodol: Hyfforddiant ar reoli ymddygiad treisgar
- Sut i awdurdodi aelodau priodol o staff y GIG er mwyn helpu i symud unigolion o'r safle
- Cofnodi'r digwyddiad yn effeithiol
Aelodau priodol o staff GIG Cymru
Mae disgwyliad hefyd y bydd yr aelodau priodol o staff y GIG a gaiff eu hawdurdodi gan y swyddogion awdurdodedig i symud person o safle'r GIG yn cwblhau hyfforddiant yn y meysydd canlynol, ymhlith eraill o bosibl:
- Deall Adrannau 119i 120 o'r Ddeddf
- Sut i symud person o'r safle yn ddiogel a'r hyn a fyddai'n gyfystyr â grym rhesymol
- Materion iechyd a diogelwch (gan gynnwys asesiadau risg)
- Technegau ymyrryd corfforol a dad-ddwysáu
- Ymwybyddiaeth o amrywiaeth
- Ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
- Dad-ddwysáu
Mae'n bwysig bod cyrff y GIG sy'n gwneud darpariaeth i ddefnyddio'r pŵer i symud person o'r safle yn sicrhau bod swyddogion awdurdodedig a staff priodol y GIG yn ymgymryd â hyfforddiant gloywi fel y bo'n briodol.
Cadw cofnodion a dogfennu
Adroddiad Datix Cymru
Rhaid i bob swyddog awdurdodedig sicrhau bod adroddiad digwyddiad Datix Cymru cynhwysfawr ar gyfer Trais ac Ymddygiad Ymosodol yn cael ei gyflwyno cyn gynted â phosibl yn dilyn unrhyw ddigwyddiad y mae Adran 119 neu Adran 120 o'r Ddeddf yn berthnasol iddo. Mae'r gofyniad hwn yn gymwys yn gyfartal ac yn annibynnol i ddigwyddiadau o dan y naill adran neu'r llall, a rhaid adrodd arnynt gan ddefnyddio system Datix Cymru. Dylai hyn gynnwys disgrifiad llawn o'r digwyddiad, y camau gweithredu a gymerwyd a'r rhesymeg ar gyfer camau gweithredu o'r fath.
Pan fydd yn derbyn adroddiad Datix Cymru, dylai'r aelod priodol o staff fel y'i dynodwyd gan Gorff GIG Cymru sicrhau bod pennaeth yr Adran Iechyd a Diogelwch berthnasol yn gweld yr adroddiad. Dylai hefyd gadw cofnodion o adroddiadau o'r fath i helpu pob un o Gyrff GIG Cymru olrhain nifer y digwyddiadau a'u lleoliad.
Mae'n hanfodol sicrhau bod adroddiadau cywir ar system Datix Cymru at ddibenion llywodraethu mewnol ac atebolrwydd allanol. Mae'r broses yn sicrhau bod data ar ddigwyddiadau yn cael eu cofnodi mewn ffordd ddibynadwy ac y gellir eu defnyddio i lywio adroddiadau, cefnogi ymchwiliadau a chyfrannu at achosion cyfreithiol pan fo angen.
I hwyluso'r broses hon, bydd pob aelod o staff yn cael canllaw defnyddiwr cynhwysfawr, ynghyd â thempled ar gyfer llunio adroddiadau digwyddiad mewn perthynas ag Adran 119 i 120. Bwriedir i'r adnoddau hyn gefnogi'r broses o lanlwytho digwyddiadau i Datix Cymru yn gywir ac yn gyson, a thrwy hynny gryfhau ansawdd y dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer erlyniadau ac adolygiadau ffurfiol eraill.
Ymwybyddiaeth y Cyhoedd
Dylai cyrff GIG Cymru sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o'r drosedd o beri niwsans neu aflonyddwch i aelod o staff y GIG ar un o safleoedd y GIG a'r pŵer sydd gan staff awdurdodedig y GIG i symud pobl yr amheuir eu bod yn cyflawni'r drosedd hon o'r safle.
Gellir gwneud hyn drwy daflenni gwybodaeth i gleifion yn ogystal ag ar wefannau corff y GIG. Gellir defnyddio arwyddion priodol i helpu i atal achosion o'r fath ac fel adnodd cyfathrebu er mwyn esbonio'r pwerau i'r cyhoedd. Dylid arddangos arwyddion mewn sawl man yn ysbytai'r GIG oherwydd gellir cyflawni'r drosedd yn unrhyw le ar y safle.
Ystyriaethau cyfreithiol eraill
Er bod y canllawiau hyn wedi cael eu llunio i helpu i ddangos sut mae adrannau 119 i 121 o'r Ddeddf yn gweithio, dylid eu darllen ar y cyd â'r ddeddfwriaeth berthnasol. Ni ddylid ystyried y canllawiau hyn fel datganiad awdurdodol na dehongliad o'r gyfraith, gan mai dim ond y llysoedd sydd â'r pŵer hwn. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y canllawiau hyn mor ddefnyddiol â phosibl, ond cyfrifoldeb cyrff y GIG a'u staff yw hi yn y pen draw i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol, gan gynnwys y rhai a nodir yn y fframwaith deddfwriaethol ehangach (gan gynnwys rhwymedigaethau o ran cyfreithiau cydraddoldeb, hawliau dynol ac iechyd a diogelwch, ymhlith rhai eraill).
Atodiadau
Atodiad A
Adrannau 119, 120 ac 121 yn llawn (ar gael yn legislation.gov.uk)
119 Offence of causing nuisance or disturbance on NHS premises
(1) A person commits an offence if:
- (a) the person causes, without reasonable excuse and while on NHS premises, a nuisance or disturbance to an NHS staff member who is working there or is otherwise there in connection with work,
- (b) the person refuses, without reasonable excuse, to leave the NHS premises when asked to do so by a constable or an NHS staff member, and
- (c) the person is not on the NHS premises for the purpose of obtaining medical advice, treatment or care for himself or herself.
(2) A person who commits an offence under this section is liable on summary conviction to a fine not exceeding level 3 on the standard scale.
(3) For the purposes of this section:
- (a) a person ceases to be on NHS premises for the purpose of obtaining medical advice, treatment or care for himself or herself once the person has received the advice, treatment or care, and
- (b) a person is not on NHS premises for the purpose of obtaining medical advice, treatment or care for himself or herself if the person has been refused the advice, treatment or care during the last 8 hours.
(4) In this section:
- “English NHS premises” means:
- any hospital vested in, or managed by, a relevant English NHS body,
- any building or other structure, or vehicle, associated with the hospital and situated on hospital grounds (whether or not vested in, or managed by, a relevant English NHS body), and
- the hospital grounds,
- “hospital grounds” means land in the vicinity of a hospital and associated with it
- “NHS premises” means English NHS premises or Welsh NHS premises
- “NHS staff member” means a person employed by a relevant English NHS body, or a relevant Welsh NHS body, or otherwise working for such a body (whether as or on behalf of a contractor, as a volunteer or otherwise),
- “relevant English NHS body” means:
- (a) a National Health Service trust (see section 25 of the National Health Service Act 2006 (c. 41)), all or most of whose hospitals, establishments and facilities are situated in England,
- (b) an NHS foundation trust (see section 30 of that Act), (c)
- “Relevant Welsh NHS body” means:
- (a) a National Health Service trust (see section 18 of the National Health Service (Wales) Act 2006 (c. 42), all or most of whose hospitals, establishments and facilities are situated in Wales, or
- (b) a Local Health Board (see section 11 of that Act),
- “vehicle” includes an air ambulance
- “Welsh NHS premises” means:
- (a)any hospital vested in, or managed by, a relevant Welsh NHS body,
- (b)any building or other structure, or vehicle, associated with the hospital and situated on hospital grounds (whether or not vested in, or managed by, a relevant Welsh NHS body), and (c) the hospital grounds.
120 Power to remove person causing nuisance or disturbance
(1) The appropriate national authority may from time to time prepare and publish guidance to relevant NHS bodies and authorised officers about the powers in section 120.
(2) Such guidance may, in particular, relate to:
- the authorisation by relevant NHS bodies of authorised officers
- the authorisation by authorised officers of appropriate NHS staff members to remove persons under section 120
- training requirements for authorised officers and persons authorised by them to remove persons under section 120
- matters that may be relevant to a consideration by authorised officers for the purposes of section 120 of whether offences are being, or have been, committed under section 119
- matters to be taken into account by authorised officers in deciding whether there is reason to believe that a person requires medical advice, treatment or care for himself or herself or that the removal of a person would endanger the person's physical or mental health
- the procedure to be followed by authorised officers or persons authorised by them before using the power of removal in section 120
- the degree of force that it may be appropriate for authorised officers or persons authorised by them to use in particular circumstances
- arrangements for ensuring that persons on NHS premises are aware of the offence in section 119 and the powers of removal in section 120
- the keeping of records
(3) Before publishing guidance under this section, the appropriate national authority must consult such persons as the authority considers appropriate.
(4) A relevant NHS body and an authorised officer must, when exercising functions under, or in connection with, section 120, have regard to any guidance published by the appropriate national authority under this section.
(5) In this section:
- appropriate national authority” means:
- (a) in relation to a relevant English NHS body and authorised officers in respect of English NHS premises, means the Secretary of State, and
- (b) in relation to a relevant Welsh NHS body and authorised officers in respect of Welsh NHS premises, means the Welsh Ministers
- “appropriate NHS staff member” and “authorised officer” have the same meaning as in section 120
- “relevant NHS body” means a relevant English NHS body or a relevant Welsh NHS body
(6) Terms defined in section 119 have the same meaning in this section as in that section.
