Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Mae dyfeisiau meddyginiaethau digidol, a dreialwyd dros gyfnod o 12 mis ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi helpu dros 70 o unigolion a gymerodd ran yn y cynllun peilot i reoli eu meddyginiaethau yn annibynnol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r ddwy ddyfais a dreialwyd, sef Pivotell™ Advance ac YOURmeds™, yn atgoffa’r defnyddiwr i gymryd ei feddyginiaeth ac yn rhoi’r dos cywir ar yr adeg iawn. Gallant hefyd roi gwybod i aelodau o’r teulu yn ogystal â chanolfan galwadau larwm y cyngor os bydd dos yn cael ei golli, gan annog rhoi cymorth yn brydlon.

Cafodd Mrs Jones y cyfle i dreialu’r dosbarthwr meddyginiaeth ac roedd yn hapus iawn ag ef. Caiff y ddyfais ei llenwi gan fferyllfa leol bob pythefnos ac mae larwm yn canu pan fo’n amser i Mrs Jones gymryd ei meddyginiaeth. Mae’r bowlen las sy’n casglu’r meddyginiaethau yn ei gwneud yn haws eu gweld ac yn lleihau’r risg o’u gollwng.

Wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru, gyda chymorth yr Hwb Gwyddorau Bywyd, cynigiwyd y dyfeisiau dosbarthu i oedolion a oedd wedi’u hatgyfeirio at wasanaethau cymdeithasol Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr oherwydd eu bod yn cael trafferth rheoli eu meddyginiaethau yn ddiogel. Gallai hyn fod oherwydd colled synhwyraidd, amhariad gwybyddol neu anawsterau o ran medrusrwydd corfforol.

Mae’r cynllun peilot wedi dangos bod y dyfeisiau yn gallu hyrwyddo annibyniaeth, gan leihau’r angen am becynnau gofal, ac o bosibl, leihau derbyniadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig â chymryd meddyginiaethau yn anghywir. Roedd 80% o bobl a gymerodd ran yn y cynllun peilot yn gallu defnyddio’r dyfeisiau yn llwyddiannus, gan leihau nifer y dosau a chamgymeriadau wrth gymryd meddyginiaethau.

Adroddodd timau fferylliaeth a gofal cymdeithasol fod amser staff wedi’i ryddhau ar gyfer cynnal asesiadau newydd.

Mae’r dyfeisiau hefyd yn helpu gofalwyr di-dâl drwy leihau’r angen am ymweliadau sy’n gysylltiedig â meddyginiaethau gan aelodau o’r teulu, a allai, o bosibl, helpu gofalwyr anffurfiol di-dâl i barhau mewn gwaith cyflogedig. Ar ddiwedd y cynllun peilot, dywedodd 83% o aelodau teulu eu bod yn teimlo fel eu bod yn cael cymorth gwell, yn llai ynysig, ac yn fwy hyderus bod y person y maent yn gofalu amdano yn cael ei helpu yn fwy effeithiol.

Dywedodd Mrs Jones:

Mae wedi bod yn ffantastig, mae’n wych ac wedi gwneud pethau gymaint haws.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:

Mae’r prosiect arloesol hwn yn dangos sut y gall y dechnoleg gywir, yn ogystal â chymorth arbenigol, helpu pobl i aros yn annibynnol a pharhau i wneud y pethau maen nhw’n caru eu gwneud.

Mae’r canlyniadau’n dweud y cyfan – 80% o unigolion yn gallu cadw at gymryd eu meddyginiaethau, llai o bwysau ar ein gwasanaethau gofal, ac yn bwysicaf oll, pobl yn teimlo fel eu bod yn cael cymorth gwell a hynny yn eu cartrefi eu hunain.

Dyma’r union fath o ddull gweithredu ataliol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd ei angen arnon ni wrth inni adeiladu system gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol sy’n addas i’r dyfodol.

Dywedodd Thomas Sauter, Fferyllydd Arweiniol Clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

Drwy weithio gyda’n gilydd fel tîm iechyd a gofal cymdeithasol integredig, rydyn ni wedi gallu helpu pobl i gymryd eu meddyginiaethau yn annibynnol ac yn ddiogel. Mae’r annibyniaeth honno yn gwneud gwahaniaeth go iawn — nid yn unig i unigolion, ond hefyd i’w teuluoedd, sy’n teimlo’n fwy tawel eu meddwl ac yn llai pryderus am faterion ynghylch meddyginiaethau o ddydd i ddydd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi elwa ar gyllid ychwanegol i sicrhau bod y rhai a gymerodd ran yn y cynllun peilot yn gallu parhau i ddefnyddio’r dyfeisiau hyn cyn hired ag y mae eu hangen arnynt, yn ogystal â helpu defnyddwyr newydd.

Cafodd y prosiect ei arddangos yn y Gynhadledd Gofal Cymdeithasol Genedlaethol ym mis Hydref a chyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr GIG Cymru.