Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg
Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant
Mae Cwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg, a sefydlwyd ym 1975, yn gonglfaen i fywyd diwylliannol Cymru sydd wedi meithrin talent ifanc ledled De Cymru ers 50 mlynedd.
Diolch i greadigrwydd ysbrydoledig y cwmni theatr, mae perfformwyr, awduron a gweithwyr creadigol di-ri wedi camu ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol - o'r West End a'r Royal Shakespeare Company i gynyrchiadau teledu, ffilm a radio. Mae cyn-fyfyrwyr fel Michael Sheen a Russell T. Davies wedi siapio'r diwydiannau creadigol a hunaniaeth Gymreig, tra bod eraill wedi mynd ymlaen i gyfoethogi addysg, gofal iechyd a chymunedau, gyda’u doniau artistig.
Mae'r Cwmni yn ymfalchïo mewn cynyrchiadau arloesol, cynhwysol wedi'u llwyfannu mewn lleoliadau amrywiol, gan feithrin hyder, cydweithio ac ymdeimlad o berthyn. Er gwaethaf heriau ariannu, mae’n parhau i ysbrydoli dros 75 o bobl ifanc bob blwyddyn, ac wedi cyffwrdd â mwy na 3,000 o fywydau. Dyma sefydliad sy’n dyst i bŵer parhaol y celfyddydau i drawsnewid bywydau a chryfhau diwylliant cyfoethog Cymru.
