Dani Robertson
Enwebiad ar gyfer gwobr Ceidwad yr Amgylchedd
Dani Robertson yw Swyddog Awyr Dywyll Parc Cenedlaethol Eryri. Hi sy’n gyfrifol am reoli Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol fwyaf y DU, ac mae ei swydd unigryw yn dechrau ar ôl i’r haul fachlud.
Mae hi'n arwain 'Prosiect Nos', gan greu partneriaethau ledled Cymru i fynd i'r afael â'r bygythiad cynyddol o lygredd golau. Mae gwaith Dani yn cyfuno arbenigedd gwyddonol, cadwraeth a gwerthfawrogiad diwylliannol dwfn, wrth iddi eirioli'n ddiflino dros ddiogelu awyr nos Cymru ar gyfer bywyd gwyllt, cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol.
Trwy strategaethau goleuo arloesol, hyrwyddo’r pwnc yn ddwyieithog a chynnal digwyddiadau ar gyfer y cyhoedd, mae Dani yn ailgysylltu pobl â rhyfeddod y sêr. Mae ei dylanwad yn ymestyn o lunio polisi cenedlaethol—hi oedd cyd-awdur Canllawiau Arfer Da Cymru ar Awyr Dywyll—i ysbrydoli miliynau drwy ei rhaglen ddogfen a'i llyfr ar BBC1.
Trwy ei hymroddiad cadarn, mae Dani wedi rhoi Cymru arf lane y gad mewn cadwraeth awyr dywyll, gan arddangos dyfeisgarwch, dyfalbarhad a stiwardiaeth gref - rhinweddau sy'n ganolog i Wobr Dewi Sant am yr Amgylchedd.
