Gail Davies-Walsh
Enwebiad ar gyfer gwobr Ceidwad yr Amgylchedd
Mae Gail Davies Walsh yn arweinydd trawsnewidiol ym maes diogelu'r amgylchedd yng Nghymru. Hi yw Prif Swyddog Gweithredol Afonydd Cymru—corff ymbarél chwe Ymddiriedolaeth Afonydd Ranbarthol Cymru. Gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn y sector dŵr, mae Gail yn cyfuno gwybodaeth dechnegol a gwyddonol ddofn gydag ymrwymiad diwyro i iechyd a bioamrywiaeth ein hafonydd.
Ers ymuno ag Afonydd Cymru, mae wedi dod yn eiriolwr deinamig, dibynadwy i'r llywodraeth, cyrff statudol a chymunedau. Mae Gail wedi sefydlu strategaethau ariannu arloesol, meithrin gwytnwch sefydliadol ymhlith yr Ymddiriedolaethau, a hyrwyddo dulliau seiliedig ar natur o adfer afonydd.
Mae ei dylanwad yn ymestyn o lunio polisïau a rheoliadau cenedlaethol mawr i rymuso grwpiau lleol a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd ar faterion critigol, megis llygredd amaethyddol ac ansawdd dŵr. Yn gyfrannwr cyson ar y cyfryngau ac mewn fforymau polisi, mae dull cydweithredol, positif Gail wedi rhoi canlyniadau go iawn - sef afonydd glanach, iachach am genedlaethau i ddod.
