Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae Dr Elin Haf Davies yn cyfuno arbenigedd aruthrol mewn gwyddoniaeth, technoleg a budd cymdeithasol. Yn hanu o gefn gwlad, Gogledd Cymru, dechreuodd Elin Haf ei gyrfa fel nyrs bediatrig yn Ysbyty Great Ormond Street, cyn astudio am ddoethuriaeth PhD mewn niwrowyddoniaeth a gweithio fel rheoleiddiwr yn yr Asiantaeth Meddyginiaethau Ewropeaidd.

Fel sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Aparito yn Wrecsam, mae hi wedi chwyldroi monitro cleifion o bell, gan wneud treialon clinigol yn fwy hygyrch i gleifion ledled y byd trwy ddulliau digidol arloesol. O dan arweinyddiaeth Elin, mae Aparito wedi denu buddsoddiad gan y cwmni fferyllol byd-eang Eli Lilly, ond mae hi'n parhau wrth y llyw, gan sicrhau rhagoriaeth barhaus a chyrhaeddiad byd-eang.

Yn ogystal â’i hysbryd entrepreneuraidd, merch anturus iawn yw Elin Haf; mae hi wedi rhwyfo ar draws dau Gefnfor, arwydd o’i gwytnwch a'i hymroddiad personol i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer clefydau prin. Yn awdur llyfrau a siaradwr ysbrydoledig, mae Elin Haf yn hyrwyddo iechyd plant ac yn rhoi llais a grym i blant hefyd drwy weithio gyda nifer o elusennau. Mae ei hymroddiad i arloesi a chymuned yn ei gwneud hi'n enwebai haeddiannol ar gyfer y wobr hon.