Yr Athro Joanne Davies
Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae'r Athro Joanne Davies, Pennaeth Efelychu a Chyfarwyddwr Sefydlu SUSIM ym Mhrifysgol Abertawe, yn ffigwr arloesol mewn addysg feddygol ac arloesedd gofal iechyd.
Gan gyfuno empathi ac arbenigedd arloesol, mae Joanne yn trawsnewid y maes hyfforddiant i fyfyrwyr a chlinigwyr, gan bontiorhwng y byd academaidd, diwydiant a gofal iechyd i sicrhau bod dysgu seiliedig ar efelychu yn cael effaith yn y byd go iawn.
Mae ei harweinyddiaeth wedi gosod Cymru ar flaen y gad o ran hyfforddiant meddygol, gan integreiddio'r safonau addysgol ac ymchwil uchaf wrth ddefnyddio technoleg arloesol a platfformau digidol pwrpasol i wella cymhwysedd gwaith tîm, diogelwch cleifion a systemau.
Mae dylanwad Joanne yn ymestyn yn fyd-eang. Mae hi wedi cydweithio â GIG Cymru, arweinwyr diwydiant, partneriaid rhyngwladol, a rhaglenni arloesol blaenllaw o Abertawe i'r Dwyrain Canol a Zambia. Mae ei gweledigaeth yn gosod safonau newydd ar gyfer addysg hyblyg, gan gefnogi staff rheng flaen lle mae'n cyfrif fwyaf.
