Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae Dr Day yn Obstetregydd a Gynaecolegydd ysbrydoledig sy'n trawsnewid gofal mamolaeth i fenywod yng Nghymru a thu hwnt.

Fel Ymgynghorydd yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin, hi sydd wrth y llyw gyda’r tîm amenedigol sydd wedi ennill clod mawr am ei ymrwymiad i ddiogelwch cleifion a diwylliant cadarnhaol yn y gweithle.

Yn llawn angerdd am ofal teg, mae Dr Day wedi arloesi mentrau sydd wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn marw-enedigaethau ac anafiadau i'r ymennydd mewn genedigaeth. Gwnaeth hyn  trwy wella’r gwaith tîm a chreu diwylliant o ddysgu.

Yn addysgwr dawnus, mae hi wedi datblygu adnoddau hyfforddi arloesol ac wedi arwain rhaglenni a gydnabyddir ar lefel genedlaethol. Mae ymrwymiad Dr Day i fynd i'r afael â gwahaniaethau yn amlwg – hi wneath sefydlu Race Matters in Maternity, cynhadledd gyntaf Cymru ar gyfer taclo anghydraddoldebau mewn canlyniadau mamolaeth. Gofynnir am ei chynor yn aml fel arbenigwr; mae'n gwasanaethu ar fyrddau cynghori ac wedi ei chydnabod gyda sawl gwobr fawreddog am ei eiriolaeth a'i harweinyddiaeth.

Mae Dr Day yn llysgennad gwirioneddol ar gyfer gwasanaethau iechyd mwy diogel a mwy cynhwysol, sy'n ymgorffori tosturi, rhagoriaeth a newid cadarnhaol.