Huw Irranca-Davies, AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mae Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Estyniad i Weithgareddau Morol) 2026 ("y Gorchymyn") (Saesneg yn unig) wedi'i osod gerbron y Senedd heddiw.
Mae hyn yn dilyn cyhoeddi Ymateb Awdurdod ETS y DU i Ehangu Cwmpas ETS y DU ar 27 Tachwedd: Ymgynghoriad morol, a oedd yn nodi'r penderfyniad i gynnwys y sector morol domestig yn y cynllun. Mae'r Gorchymyn a osodwyd yn y Senedd heddiw yn nodi y bydd y cynllun yn berthnasol i longau â thunelledd gros (GT) o 5000 tunnell a throsodd heb drothwy de minimis. Mae'r Gorchymyn yn cynnwys gostyngiad o 50% yn rhwymedigaeth ildio ETS y DU ar lwybrau rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr er mwyn sicrhau cysondeb ar lwybrau rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, a rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Phrydain Fawr. Heb y datrysiad polisi hwn, byddai gwahaniaethau o ran rhwymedigaethau prisio carbon a'r allyriadau a gwmpesir ar y llwybrau hynny. Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu eithriad ar gyfer llongau fferi sy'n gwasanaethu ynysoedd a phenrhynnoedd yr Alban ac ar gyfer llongau pysgota. Yn olaf, mae'n galluogi cynyddu'r cap cyffredinol ar lwfansau ETS y DU yn unol â'r cynnydd a ragwelir mewn allyriadau o gyflwyno'r sector Morol i ETS y DU.
Mae cyhoeddi'r Gorchymyn yn gam nesaf hanfodol wrth ddatblygu cynigion effeithiol ar gyfer ehangu ETS y DU, cynyddu lefel yr allyriadau a fydd yn dod o dan y cynllun a helpu i lunio dyfodol ETS y DU mewn ffordd sy'n cefnogi uchelgeisiau sero net hirdymor Cymru a'r strategaeth ddatgarboneiddio ehangach.
Rwyf wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i roi gwybod iddynt am yr ymgyngoriadau hyn.
