Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon

Mae Lauren Price, o Fargoed, yn athetwraig hynod sydd wedi ailddiffinio llwyddiant drwy ddod i’r brig mewn nifer o wahanol gampau.

Ar ôl rhagori i ddechrau mewn pêl-droed a chic-focsio, aeth Lauren ymlaen I gystadlu mewn bocsio. Cafodd lwyddiant hanesyddol yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020 fel pencampwr bocsio Olympaidd cyntaf erioed Cymru, pen enillodd y fedal aur yn yr adran pwysau canol. Roedd ei buddugoliaeth yn y Gemau Olympaidd yn foment arbennig iawn, wnaeth ysbrydoli cenhedlaeth newydd o athletwyr Cymru.

Wedi trosglwyddo i'r rhengoedd proffesiynol, mae Lauren wedi cynnal record ddiguro ac wedi cipio teitlau pwysau welter byd WBA, IBF, WBO, a Ring Magazine yn 2024, gan ennill parch byd-eang am ei gallu technegol a'i meistrolaeth o’r gamp.

Y tu allan i’r cylch bocsio, mae Lauren yn llysgennad balch dros Gymru, gan ddathlu ei gwreiddiau yn aml ac yn ysgogi eraill gyda'i stori o ddyfalbarhad ac ymroddiad. Mae ei llwyddiannau arloesol wedi gosod sail ar gyfer dyfodol bocsio menywod ac yn dod â balchder aruthrol i chwaraeon Cymru.